Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Pugh, Ellis

Oddi ar Wicidestun
Price, Parch. W., M.A., Dolgellau Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Pugh, Parch. H. D

PUGH, ELLIS, a anwyd yn mhlwyf Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, yn Mehefin, 1656. Pan yn 18 oed ymunodd â'r Crynwyr, a daeth yn fuan i gryn gyfrifoldeb yn eu plith. Yn 1686, ymfudodd ef a'i deulu a lliaws o'u cyfeillion drosodd i'r America, i wladychfa newydd William Penn, yn Pensylvannia. Yn 1706, ymwelodd â gwlad ei enedigaeth, ac yn 1708, dychwelodd yn ol i Bensylvannia, America, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth yn Hydref 3ydd, 1714, neu yn ol G. Lleyn, yn 1718. Dywedir fod Ellis Pugh yn ddyn didwyll a gonest, ac yn uchel ei gymeriad ymhlith ei gydnabod. Ysgrifenodd lyfr o'r enw, Anerch i'r Cymry i'w galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau," ond ni chafodd ei argraffu hyd 1782, pryd yr ymddangosodd yn Llundain, 24 plyg, 212 o dudalenau: y llyfr hwn yn benaf sydd wedi cadw ei enw ar dir coffadwriaeth.

Nodiadau

[golygu]