Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Pugh, Parch. Hugh, Brithdir
← Pugh, Parch. H. D | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Pugh, Parch. Hugh, Mostyn → |
PUGH, Parch. HUGH, gweinidog yr Annibynwyr yn y Brithdir, ger Dolgellau. Mab ydoedd i Robert a Mary Pugh, o'r Perthi-llwydion, Brithdir, lle y ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc yn Nolgellau, a phan yn 13 oed, aeth i ysgol High Arcol, Swydd Amwythig. Pan o gylch 16 oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan y Parch. Dr. Lewis, yn Brithdir. Pan yn 18 oed, dechreuodd bregethu, a dywedir ei fod yn dderbyniol a phoblogaidd, trwy fod ei bregethau mor hynod o ddengar, ei lais yn beraidd, a'i wresogrwydd yn danbaid. Pan yn 20 oed, aeth i Athrofa Gwrecsam, o dan ofal y Parch. J. Lewis. Yn 1802, neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, a gwnaed ef yn weinidog y Brithdir. "Yr oedd wedi cyraedd gwybodaeth helaethlawn o bethau Duw, ac o wahanol ganghenau yr athrawiaeth fawr sydd yn ol duwioldeb. Heblaw fod cryfder ei alluoedd naturiol yn sicr uwchlaw y cyffredin, yr oedd ei awydd i wybod y gwirionedd, megis ag y mae yn yr Iesu yn ddirfawr a pharhaus," Nid ydym yn sicr o'r flwyddyn y bu farw. Claddwyd ef yn Dolgellau.