Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Pugh, Parch. William, Llanfihangel y Pennant

Oddi ar Wicidestun
Pughe, William Owen, D.C.L Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Pugh, John, Ysw., (Ieuan Awst)

PUGH, Parch. WILLIAM, o Lanfihangel y Pennant, yn nghantref Meirionydd, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef Awst 1, 1749. Nid oes genym fawr o hanes Mr. Pugh yn fachgen. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Nolgellau. Yr oedd yn 40 oed pan ddechreuodd bregethu, a chafodd lawer iawn o helbulon yn nechreuad ei weinidogaeth trwy yr erlid llym oedd y pryd hwnw. Fel pregethwr yr oedd o ran ei ddull a'i ystum yn, syml a dirodres, a'i lais yn beraidd ac eglur. Bu farw Medi 14, 1829, wedi crefydda am 50 mlynedd, a phregethu am 40 mlynedd, yn 80 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfihangel y Pennant.

Nodiadau

[golygu]