Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Cyflwyniad

Oddi ar Wicidestun
Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

Pentref Cynwyl Gaio

CAIO A'I HYNAFIAETHAU, YR OGOFAU AC AFON COTHI, &c.

UN o hynodion penaf gwlad ein genedigaeth ydyw ei bod mor orlawn o olion hynafiaethol. Mae yn mhob cymydogaeth gymdeithasfäu (associations) ysplenydd o'r hyn sydd yn dlws ac yn arddunol—o'r hyn sydd yn hanesiol a marchwriaethol (chivalrous)—ar ael pob bryn, ac ar wyrdd-lawr pob dyffryn braidd, yn nghydag amrywiaeth annherfynol yn ei thirweddau (sceneries) byth-foddus. Cofiaethau am fuddugoliaethau gogoneddus, ac am drai a llanw mawredd a godidogrwydd cenedl: te, megys yn ysgrifenedig ar ei chreigiau "â phin o haiarn ac â phlwm," mae y dewrder gorchestol a'r mawredd milwrol a berthynai i'n hen dadau gynt, pan y safent dros iawnderau eu gwlad, yn erbyn rhuthriadau y Rhufeiniaid, y Daniaid, a'r Normaniaid, ac yn erbyn hen fradwriaethau y Pictiaid a'r Saeson! Mae prydferthwch yn coroni gruddiau ef hanffrwythlonder yn mhob man-llwydion greigiau a charneddau mawreddog, ogofau eang a chestyll cedyrn, aruthrol feini a chysegrawl gromlechau, wrth ba rai y bu ein cyndadau dewr a gwladgarol yn addoli gynt; ynghydag hynafol draddodiadau yn poblogi llawer o'i choedwigoedd mawrion, ac olion monumentau i'w harwyr braidd i'w canfod yn mhob man. Ac wrth weled y dibrisdod a deflir arnynt yn yr oes bresenol, y mae ein hawen yn ymdori allan yn ei galar, ie, wrth weled cymaint o ddifaterwch yn cael ei roddi ar yr hyn a gyfansoddai gymaint o fawredd ein cenedl:—

Fy ngwlad! O! fy ngwlad, mae dy demlau cysegrol,
A'th sanctaidd allorau 'n malurio yn nghyd!
Dy gestyll, dy gaerau, dy gylchau derwyddol,
A beddau dy arwyr sy'n llwyd iawn eu pryd;
Symudir y gromlech, a meini dy heddwch,
Lle gynt bu 'r addoli, gan law difaterwch,
Ar fri dy hynafiaid rhoir pob diystyrwch,
Mae'th fawredd cyntefig ar fachlud o'r byd!

Pa le mae colofnau cofebawl d'wroniaid,
Gyflawnent wrhydri dros freiniau'r wlad gu?
Nid ydyw yr haulwen o'i orsedd ordanbaid
Yn dangos braidd adail ar fedd un o'r llu!
Dibrisir y garnedd lle gorwedd y Brython,
A brynai ei ryddid â thwymn waed ei galon;
Gadawyd i'r mwswg a'r danadl gwylltion,
I guddio'i orweddle mewn angof du, du!


Y mae genym hefyd draddodiadau am ddyddiau hynodawl, y rhai sy wedi eu trosglwyddo i ni drwy agenau, megys, o amserau erchyll; amserau pan y chwenychwyd cadgyrch y rhyfel-faes yn fwy nag arferion heddychawl yr aelwyd—amserau pan oedd y waywffon a'r bicell, ac offerynau o gyffelyb natur, yn cael mwy o sylw na meithriniad palmwydd blodeuawg heddwch—amserau pan oedd gweryriad y rhyfelfarch yn gymysgedig â llais croch-ruawl udgorn rhyfel, yn enyn nwydau mwy cydweddol â'u hymarweddiadau ac â'u chwaeth, na thyneraf gerddoriaeth eu telynorion, neu addysg synwyrlym eu Derwyddon athronyddawl. Y rhai hyn oeddynt yn wir gymdeithasfäu dyddiau marchwriaethol neu wrol-gampol, pan ydoedd holl uchelgais dyn yn gadael ei wylltaf nwydau yn benrydd, ac yn eu hymarferyd fel offerynau i`gyrhaeddyd meddiant o'i freuddwydion mwyaf mawreddawg a gorwych, yn absenoldeb teimladau mwy coethedig mewn cymdeithas i atal eu rhamant.

Yr hyn ag sydd yn peri llawer o flinder i feddwl y gwladgarwr ydyw, nad oes genym fawr o hanes yr hyn a fu yn cynwys cymaint o ogoniant cyntefig ein cenedl ar gael. Y mae miloedd o'r llawysgrifau Cymreig, drwy ddifaterwch yr oesau, wedi yslithro, ac yn yslithro i ebargofiant. Er yr holl gynhyrfiadau mawrion a phwysig sydd wedi cymeryd lle, y mae rhai o'r hen ysgrifau hyn wedi dyfod i'n dwylaw yn ddyogel; wedi gorfyw tymhestloedd ac ysgubiadau gwaedlyd rhyfeloedd, a chynyrfiadau gwladwriaethol arswydus, ac wedi nofiaw megys eirch ysplenydd mewn dyogelwch hyd dònau ymchwyddawl amser, gan ddwyn i ni hanes amserau a fuasent yn eu habsenoldeb yn dudalenau blanc yn ein llenyddiaeth hanesyddawl, yn nghylch yr hen genedl enwawg a galluawg a boblogodd yr ynys ysplenydd hon gyntaf. Mae yn wir fod eu negeseuau a'u cenadiaethau yn gwbl analluawg i'n cynysgaethu âg adroddion manwl am helyntion boreuaf ein cenedl; ond eto, gweithredant fel y tipynau glas sydd i'w gweled yn ymruthro oddi rhwng cymylau gordduon y ffurfafen—fel llain o dir a fyddai wedi ei ddadgysylltu oddiwrth gyfandir neu fel ffaglau unigawl a fyddant yn taflu llewyrch gwanllyd, ond eto yn ffyddlawn, ar foddau ac arferion, ac ar gyflwr moesol a chymdeithasol ein dewrion gyndadau. Mae rhagluniaeth wedi ein hanrhydeddu â rhyw gipolwg ar braidd bob cyfnod yn ein hanes, yr hyn sydd yn fynegai (index) i nodweddion yr oesau a'u cynyrchasant; fel mae gwênau hyd yn nod y seren hwyrawl, mewn noson ddu gymylawg, yn ddigon i ddangos i ni agwedd gyffredinawl yr wybren ar y pryd, efelly mae yr anghysbell a'r henafol ddarnau hyn, ag sydd mor feichiawg o'r amserau a fu, yn ein hanrhegu â byr gyflym-drem ar agweddion cyffredinawl y gwahanawl ganrifoedd.

Gellir olrhain y dadgymaliad hwn sydd yn ein llenyddiaeth hanesyddawl, i'r ffaith a grybwyllasom eisoes; ond, a siarad eto mewn dull cymhariaethawl, y mae yr ychydig ag sydd ar gael, â digon o dystiolaeth ynddynt eu hunain i gadarnhau nad ydynt ond dolenau euraidd o gadwyn hanesyddawl, a fuasai yn ddyddorawl i bob oesau i ddyfod! Nid ydynt ond fel rhyw grwydrol sêr, ychydig wedi eu gadael mewn cyferbyniad i'r nifer fawr a fu unwaith yn britho tudalenau ein hanesiaeth. Profant er hyny, nad oedd y Cymry islaw y cenedloedd cymydogaethawl mewn celfyddyd, llenyddiaeth, a gwareiddiad; ond o'r tu arall, profant y daliant y Cymry eu cyferbynu â'r rhai mwyaf dysglaer a goleuedig o honynt, yn enwedig yn eu hysgrifeniadau moesonawl. Meddyliem mai nid gweithred gwbl annyddorawl fyddai dechreu gyda PHENTREF CYNWYL GAIO.

Nodiadau[golygu]