Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Lewys Glyn Cothi

Oddi ar Wicidestun
Sant Cynwyl Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

Cywydd i Gynwyl Gaio
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Lewys Glyn Cothi
ar Wicipedia

Lewys Glyn Cothi

Ni a ddeuwn i waered yn awr hyd y 15ed ganrif, at y glwys-fardd Lewys Glyn Cothi. Yr oedd yr anwyl fardd hwn yn byw yn Mhwll-tyn-byd, yn Nghwm cothi, yn yr amser uchod . Fe ddylai pobl Cwmcothi ymdrechu cael allan hyd sicrwydd y man y bu byw ynddo. Yr oedd yn sicr fod ganddo balas ysplenydd, am ei fod yn foneddwr cyfoethog iawn , yn ddyn o chwaeth goethedig, ac yn fardd godidog.[1] Byddai yn fri nid bychan iddynt pe gallent, drwy lafur ac ym chwil, gael allan i eglurder y ffaith hon . Gallant, fel ag y mae sefyllfa pethau yn bresenol, hòni hawl yn un o'r beirdd godidocaf a fu yn Nghymru. Fe fu holl Itali unwaith yn berwimewn ymrafael yn nghylch lle genedigol ei Dante, gan fod cymaint o leoedd yn hòni yr anrhydedd fawr hono . Efelly y bu trefi a dinasoedd yn nghylch Homer ac ereill, rhy faith i'w henwi. Ymffrostia Llangathen yn ei Dyer, y bardd anfarwawl ac awdwr y bryddest orchestawl "Bryn y Grongaer." Lleoedd bychain ereill yn mhob rhan o'n gwlad a ymffrostiant yn eu beirdd a'u llenorion, y rhai a fuont megys Lewys Glyn Cothi, &c., yn oleuadau ac yn heuliau dysglaer, yn llewyrchu eu goleuni yn nenau yr oesau a aethant heibio. Fe ddylai pentref Caio ymffrostio ynddo, am ei fod wedi cartrefu ynddi, ac wedi talu ymweliadau mynych â hi, a'r hyn ag sydd mor wir werthfawr ydyw, fod Lewys ei hun yn ei gywyddau a'i awdlau wedi cofnodi hyny, fel y cawn ddangos eto. Hyderwn y bydd y llinellau hyn yn foddion i gynyrchu awydd ac uchelgais ynddynt i gael allan yr holl ffeithiau perthynol iddo: bu yn byw yn rhywle yn y gymydogaeth am lawer o flynyddau. Nid oes dim eisiau i ni grybwyll wrth y darllenydd mor wir werthfawr ydyw cywyddau Lewys Glyn Cothi. Y maent yn llawn o grybwyllion hanesyddawl o bwys, ac yn rhoddi cipolwg i ni ar y dull yr oedd pethau yn cael eu dwyn yn mlaen yn Nghaio, &c., yn yr amser hwnw. Y mae yn beth gwir foddhaus i gael ambell olwg gan ryw hen fardd godidog fel hyn ar y moddau yr oedd ein hynafiaid yn "byw ac yn bod," ac ar sefyllfa wareiddiol ein tadau yn yr oesau a'r canrifoedd a aethant heibio. Ni a gawn, fel y dangosir, hanes llawer iawn o gymeriadau o bwys, o balasau mawrion ac ysplenydd, ag oedd yn Nghaio a'i hamgylchoedd, rhwng y blynyddau o.c. 1430 a 1470, hanes pa rai a fuasent wedi eu claddu mewn bythol ebargofiant oni buasai i'r bardd eu cofnodi yn ei farddoniaeth. Nid mewn dull o ymffrost y dywedwn, ond yr ydym yn credu mai y ni ydym y cyntaf sydd wedi taflu ychydig o oleuni ar yr hen gywyddau hyn yn eu perthynas â Chethinog ac à "Chaio." O leiaf nid ydym ni wedi gweled dim ar y testyn, ond yn unig yr hyn sydd mewn nodiadau gan yr offeiriaid dysgedig, y beirdd gorchestol, a'r beirniaid manylgraff a diguro, sydd er eu bod "wedi marw, yn llefaru eto," ysef Gwallter Mechain ac Ioan Tegid, yn gwaith ein bardd, yr hwn a gyhoeddwyd drwy eu llafur a'u cydweithrediad hwy. Goddefer i ni ddwyn tystiolaeth hefyd, ein bod yn synu peth pa fodd y gallasant fod mor gywir yn eu nodiadau lleol, tra yr oeddynt yn ddyeithriaid i'r ardaloedd a goffeir ganddynt yn eu notes. Wel, ni a awn rhagom yn awr at y cywyddau, gan ddechreu gyd a'r cywydd i

Nodiadau[golygu]

  1. Bu Lewys yn swyddog milwrol hefyd dan laril Jasper Penfro.