Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Gwaith y Gyfarthfa

Oddi ar Wicidestun
Haiarn weithfeydd y plwyf Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Yr hen dy ger gwaith y Gyfarthfa

GWAITH Y GYFARTHFA TREFNIAD Y BRIF-FFORDD A'R GAMLAS

Tua diwedd y flwyddyn 1762, neu ddechreu 1763, daeth marsiandwr cyfrifol o Lundain i'r ardal hon o'r enw Anthony Bacon, i'r hwn y mae cychwyniad a chynydd y lle hwn, gan mwyaf, yn ddyledus. Pan ddaeth i Ferthyr gyntaf yr oedd yn cael ei dynu mewn cerbyd bychan gan fulod dros heolydd disathr o arddull Rhufeinaidd, y rhai oeddynt debycach i gloddiau, neu ffosydd nag i heolydd. Yr oedd yn achos i'r meddwl difrifol mewn synfyfyrdod i ymholi beth allasai fod yn ei argymhell i gyflawni y fath anturiaeth bwysig ag oedd ganddo mewn golwg. Yr oedd Dowlais y pryd hwn yn ei fabandod, a thrysorau mwnawl y plwyf, gan mwyaf, yn guddiedig gan orchudd o wybodaeth amheus, fel yr oedd agor gweithfa mewn ardal mor fynyddig, yn ngwyneb cynifer o anfanteision, yn ymddangos braidd yn ormod o orchwyl i'w gyflawni. Ymddangosai mor anhawdd ag adeiladu castell ar siglenydd Cors fachno. Ond beth bynag am hyny nid oedd rhwystrau yn ddigonol i atal treiglad olwynion masnachaeth, ac fel y dywed y Sais, "Money makes the mare to go." Ac yn nghanol dystawrwydd man anial a gwledig, yn ymyl ac o gylch pentref bychan tylawd yr olwg arno, oedd yn cael ei wneud i fyny o un eglwys oedd yn gof-golofno dreiglad oesau lawer a aethant heibio, a rhyw nifer o hen fythynod llwydion eu muriau, oeddynt a'u penau yn addurnedig gan wellt y maes, ni a'i cawn yn rhoddi y ffrwyn i benderfyniad ac ymroad, gan anturio prydlesu darn o dir cymaint ag 8 milltir o hyd wrth 4 o led, dros 99 o flynyddoedd, am £200 yn y flwyddyn, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1763, perthynol i'r Arglwyddi Dynevor a Richards oeddynt y tiroedd yma, y rhai a wnaent y rhifedi o 23 o dyddynod.

Nid gwylltedd anniwylliedig llethrau mynyddau ein plwyf oedd wedi denu un o ddisgynyddion Hengist i adael gorwychedd addurnol y brif ddinas i ddyfod yma i breswylio, ond a llygaid eryraidd, yr oedd wedi can fod ysglyfaeth werthfawr a orweddodd yn nghudd ychwaneg na 2,000 o flynyddoedd, o leiaf, oddiwrth sylw ein hen deidau anymchwilgar ni, er fod yma erwau lawer o'r mwnau yn ymddangos agos ar y wyneb; ac ond odid nad oedd llawer un o'n hen dylwyth wedi taro eu traed yn eu herbyn pan wrth y gwaith o fugeilio y praidd oes i oes, ond "pwy mor ddall a'r hwn na fyn weled." Ni chollodd y Sais anturiaethus Anthony Bacon ddim amser cyn iddo godi dwy ffwrnes, tua'r flwyddyn 1780; ac ar ei gais,gadawodd tua 12 o weithwyr celfyddgar dref fechan Caerwrangon, y rhai, trwy eu hanturiaeth a agorasant faesydd cynyrchiol i'w hiliogaeth, y rhai, erbyn heddyw, sydd a'u henwau megys yn freninoedd yr haiarn fasnachaeth dros y byd gwareiddiedig; ac er mwyn cyfiawnder yn gystal a chyflawnder nyni a roddwn restr o honynt fel dynion teilwngo gael eu cofnodi yn mhlith anturiaethwyr cyntaf ein plwyf.

Y tri blaenaf a ddaw dan ein sylw yw Samuel, Jeremiah, a Thomas Humphrey; tad y tri hyn oedd yn feddianol ar forthwylfa yn Stewpony, ger Storebridge, yn y swydd a enwasom; yr hyn oedd wedi rhoddi mantais dda i'w feibion i fod yn gelfyddgar mewn haiarn wneuthuriad. Yn eu plith yr oedd Joseph Hesman a'i ddau fab, John a William, yn nghyd a'i ddwy ferch, Benjamin Brown, gof wrth ei alwedigaeth, Charles a Thomas Turley, purwyr (refiners), James Leeh a'i ddau fab, John a Thomas, yn cyd-deithio a hwy yn yr un llestr, ar ddiwrnod a noswaith hynod arw a pheryglus. Yr oedd Thomas Humphrey, tra yr oedd Samuel a Jeremiah yn cyd-dramwy dros y tiri'w cyfarfod yn llongborth Penarth, ger Caerdydd. Wedi iddynt gyfarfod yn ddyogel yn y lle hwn, teithiasant tua Merthyr Tydfil, ar gefnau ceffylau a mulod; ac nid bychan oedd eu syndod pan y gwelsant mor ddistadl a dinod oeddy lle, gyda'i dai bychain a'u nenau gwelltog, y rhai oeddynt yn ddigon isel i ddyn allu cyrhaedd, gyda llaw ddyrchafedig, nyth y dryw oedd yn eu godreuon. Ond modd bynag, tarawsant ar unwaith yn nghyd a'r gorchwyl o drefnu pethau ar gyfer gweithio morthwylfa, yn ol cais a dymuniad Anthony Bacon, yr hwn a gafodd yn fuan weled ei amcanion a'i gynlluniau wedi dyfod i weithrediad. Y diwrnod y dechreuodd y forthwylfa hon weithio yr oedd gweithwyr Dowlais a'r gymydog aeth yno ar y pryd, ac un Shoni, Cwmglo, yn chwareu ei delyn undant i'r gwyddfodolion, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1782. Bacon, wedi gwreuthur cytundeb a'r tri brawd a enwasom, sef Samuel, Jeremiah, a Thomas Humphrey, fod iddynt gael y forthwylfa at eu gwasanaeth am £200 yn y flwyddyn, ond ei fod ef i'w di diwallu a'r hyn a alwai y gweithwyr Cymreig yn haiarn foch (iron pige) am £4 10's. y dunell, a'r glo i fod at eu gwasanaeth am 4s. y dunell. Gweithiodd y forthwylfa hon yn rhagorol am tua dwy flynedd, pryd y dygwyddodd ychydig o groes ymddyddan rhyngddynt am fod yr haiarn oedd at gario yn mlaen eu gwaith yn prinhau. Samuel, yn ei nwyd, a ddywedodd y mynai ef ddigon, ac aeth yn nghyd a'r gorchwyl o ollwng allan o un o'r ffwrnesau, pryd y cymerodd ysgarmes le rhwng gweithwyr y forthwylfa a gweithwyr y ffwrnesau, yr hyn a derfynodd yn i'r Humphreys rhoddi pob hawl oedd ganddynt yn y gwaith i fyny ar yr un amodau i Mr. Tanner, yr hwn a'i rhoddodd yn fuan i fyny i un Richard Crawshay, Ysw., Cockshut, a Stephens. Un o'r gofaint cyntaf a weithiodd yn y lle hwn oedd William Jones, tad yr hanesydd Phillip Jones, Mynwent y Crynwyr, yr hwn a fu yn gweithio yma ar einion o haiarn bwrw, yr hyn sydd beth anarferol ond o dan amgylchiadau neillduol. Priodol i ni grybwyll, cyn myned yn mhellach, mai gwaith y forthwylfa hon, gan mwyaf, yn ystod y blynyddau dilynol oedd gwneud cyflegrau, yn ol y cytundeb ag oedd Mr. Bacon wedi ei wneud a'r llywodraeth, yn amser rhyfel America, yr hwn a dorodd allan yn haf y flwyddyn 1775, ac a barhaodd mor ddinystriol, ar du Prydain yn enwedig, dros 7 neu 8 o flynyddau. Cludid y rhan fwyaf o'r haiarn o'r lle hwn cyn hyny ar gefnau ceffylau, &c., weithiau i lawr: drwy Gwmnedd i fyned a'u llwythau i Gaerdydd, ac weithiau i lawr drwy Gwm-taf; a phan yn cymeryd y ffordd hon, arferent ddadlwytho ger Pontypridd, mewn lle a elwir Halfway House, lle newidient eu ceffylau, &c. er mwyn cymeryd y llwythi i Gaerdydd. Mr. Bacon, yn y cyfamser yn gweled nad allai ddwyn ei gytundeb a'r llywodraeth i weithrediad a therfyniad anrhydeddus, heb wneuthur gwell heol o Ferthyr-Tydfil i Gaerdydd, rhoddodd wahoddiad i amaethwyr cyfrifol Cwm-taf i ddyfod i giniawa ato ef er mwyn ceisio trefnu cynlluniau i gael prif ffordd dda rhwng y ddau le a nodasom. Ac wedi iddo eu llenwi â danteithion a gwirod, mewn parlwr clyd, yr hyn bethau nad oes gan y cloddiwr a'r ceibiwr daear ddim gwell na dirnad amdanynt i geisio llenwi ei fol a'i feddwl. Llwyddodd i gael gan yr hen fechgyn gwledig, yn eu gwisgoedd llwydion, i'w dda ddilyn yn ngwydd tystion, a chroes-nod ar bapyr gan bob un o honynt, am symiau lled dda i gael y bwriad i derfyniad; o herwydd llygadent ar eu mantais eu hunain o gael heol dda yn gystal a lles yr haiarn farsiandwr. Wedi cael hyn oddiamgylch, dechreuodd y gwaith o drosglwyddo cyflegrau ar olwynion tua Chaerdydd-pob un o honynt yn cael ei dynu gan un ar bumtheg o geffylau; ac yr oedd yr heol yn derbyn y fath niwed oddiwrth y fath bwysau fel y cymerai fis o leiaf i ddyn i'w hadgyweirio cyn gellid gwneud siwrnei arall. Ac mae'r lle yn Nghaerdydd oeddid yn arferol o’u llwytho i'r llongau yn cael ei alw hyd heddyw Cannon Wharf. Tua therfyniad y rhyfel Americanaidd, er mwyn galluogi ei hun, yn unol â chymelliad ei gyfeillion i sefyll ei le yn Aelod Seneddol dros Aylesbury, rhoddodd ei gytundeb a'r llywodraeth i fynu i'r Caron Company, yn yr Alban; yr oedd hefyd wedi gwneud cytundeb a R. Crawshay,Ysw. am yr oll o'i hawl yn y Gyfarthfa cyn y flwyddyn 1805; pryd yr oedd yn y lle hwn chwech o ffwrnesau, a dwy felin-dro (rolling mills). Y gwaith hwn oedd y pryd hwnw y mwya. yn Europ, os nad y mwyaf yn y byd adnabyddus Cynwysai 1,500 o weithwyr yn enill tua'r amcangyfrif o £ 1 108. yn yr wythnos gyda'u gilydd, yr hyn oedd yn gwneud i'r cyflogau chwyddo yn wythnosol i'r swm enfawr o £ 2,250. Gwnaethant yn y flwyddyn oedd yn terfynu yn 1806, tna 9,906 o dunelli o haiarn. Tuag at weithio y gwaith, yr oedd gan y perchenog, R. Crawshay, Ysw., bedair o ager beirianau, un yn 50 gallu ceffyl, a'r llall yn 40 gallu ceffyl, un arall o 12 gallu ceffyl, ac arall o saith gallu ceffyl. Erbyn y flwyddyn 1815, nid oedd yn y lle hwn ond un ffwrnes yn rhagor nag yn 1805; yr hyn oedd yn gwneud eu rhifedi y pryd hwnw yn saith, ac anfonasant gyda'r gamlas y flwyddyn hono 18,200 o dunelli o haiarn, yr hyn oedd rywle tua 50 tunell yn yr wythnos. Erbyn 1845, yr oedd y Gwaith wedi cynyddu i un ar ddeg o ffwrnesi, y rhai a wnaethant yn y flwyddyn hono 45,760 tunell o haiarn, yr hyn oedd tua 80 tunell yn wythnosol. Yn y flwyddyn 1846, agorwyd yma felin gledrau newydd, yr hon a gynwysai beiriant o 280 gallu ceffyl, 20 0 ffwrnesi pudling, a 18 o ffwrnesi bolo (balling furnaces), a'u hanebgorion cysylltiol, yn welleifiau a llifau, &c. Y cynllunydd a'r peirianydd oedd un o'r enw Williams, yr hwn, trwy ei ddyfais a'i gywreinrwydd a enillodd glod iddo ei huna bery pan fydd ei feddwl wedi ehedeg o dwrf yr olwynion i fyd yr ysbrydoedd.

Yn y flwyddyn 1847, gwnawd yn y felin newydd, mewn un wythnos, y swm aruthrol o 1,144 o dunelli o gledrau, yn nghyd ag un trosol haiarn, mwyaf a wnawd erioed, meddai rhai. Mesurai 27 troedfedd o hyd, 6½ modfedd o dryfesur, yn pwyso 2,941 pwys.

Un o'r pethau mwyaf nodedig a chelfyddgar a wnawd mewn cysyllytiad a'rgwaith hwnoedd yrhodfawrawnawd gan Gymro o'r enw Watkin George, yn cael ei gynorthwyo gan William Aubrey, yn y flwyddyn 1800. Tebygol mai yn meddwl y blaenaf ei lluniwyd, ac yna a wnawd o haiarn bwrw, yn mesur 50 troeddfedd o drawsfesur wrth chwech troedfedd o drwch; ac wedi ei dullweddu i'r dwfr fod a thri gallu arni tuag at ei throi, i fyny, yn ei chanol, a'i gwaelod; a'i chrothellau, lle yr ydoedd yn troi, a bwysent gant tunell. Meddai 5 o gallu ceffyl ac yn costio £4,000. Tynwyd hi i lawr er ys tua deugain mlynedd yn ol, a gosodwyd yn ei lle beiriant i weithio wrth ager.

Trwy ei ddiwydrwydd, ei ddyfeisiau, a'i ddefnyddioldeb yn y gwaith, daeth Watkin George i gymaint parch a ffafr gyda'i feistr, fel y dywedai rhai iddo fod yn rhanol yn yr elw oddiwrth y gwaith dros rai blynyddau. Ymneillduodd cyn ei farwolaeth oddiwrth ei lafur i fywyd o dawelwch, i fwynhau ffrwythau ei ddyfeisiau a'i ddiwydrwydd, gyda £30,000 yn ei logell.

Nid oes unrhyw gynydd na dygwyddiad wedi cymeryd lle mewn cysylltiad a'r gwaith gwerth ei gofnodi yn y blynyddau diweddaf, yn rhagor nag adnewyddiad y brydles dros 99 o flynyddau, yr hyn a gymerodd le 1860, yr hyn, er fod y cyflogau yn isel, oedd yn gysur a dyddanwch i tua 3,500 o weithwyr. Priodol yw crybwyll mai Cymro, o'r enw Thomas Llewelyn, a wnaeth y trosol haiarn cyntaf yn y gwaith hwn.

Nodiadau[golygu]