Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Terfysgoedd 1800, 1816, 1831
← Cyfoeth Mwnawl y Plwyf | Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf) |
Hanesiaeth gyffredinol → |
TERFYSG 1800.
Yn y flwyddyn 1800, dyoddefodd Merthyr yn ddirfawr oddiwrth brinder ymborth a drudaniaeth, yr hyn, yn nghyd ag iselder y cyflogau, fu yn achos i'r terfysg hwnw dori allan; trwy i niferi o derfysgwyr dori i mewn i dai, gan gymeryd yr hyn a fynent trwy drais oddiar y perchenogion, anfonwyd ar unwaith am filwyr i'r dyben o geisio rhoddi atalfa ar ffordd y canlyniadau niweidiol a allasent ddilyn. Ond parhau i ysbeilio, difrodi, a chwythu bygythion wnelent hyd yn nod pan oedd y milwyr ar y stryd gyda hwy, yn hwyfrydig i daro. Rhoddwyd rhybudd o awr i'r terfysgwyr i ymwasgaru os mynent, yr hyn yn ffodus a gafodd yr effaith briodol arnynt, fel y daeth yn ddiangenrhaid i roddi gorchymyn i'r milwyr wneud ymosodiad. Dyfod iad meirchlu Eniskillen, a meirchlu Caerdydd, ynnghyd a'r osgordd rhif yr 2il o'r meirchlu i'r lle, fuont hefyd yn gynorthwy i luddias ychwaneg o derfysg. Y tafarndy adnabyddus y pryd hwnw wrth arwydd y King's Head, yn yr heol-fawr, oedd yn cael ei gadw gan Mr. Thomas Miles; a'r Cae draw[1] sydd yn awr yn llawn tai, oedd y pryd hwnw yn gae noeth. Hen wr ger y Castle Inn a gyfarchwyd gan un o gwmpeini y meirchlu ysgafn. "Ewch adref, hen dad," ar yr un amser gyda chyflymder diwyro yn taro darn o ymyl ei benwisg a'i gleddyf. Ni chollodd yr hen ddyn amser cyn gweled pa niwed a dderbyniodd ei het; a phan y gwelodd fod ei hymyl wedi ei dori dechreuodd deimlo am ei glust, pryd y deallodd nad oedd wedi derbyn yr un niwed. Cymerodd yr awgrym, a ffwrdd ag ef, gan ystyried fod un pâr o draed yn well na dau bar o ddwy law. Daliwyd a dihenddiwyd dau o flaenoriaid y terfysg hwn.
Cymerodd terfysg dibwys le yn Merthyr, yn y flwyddyn 1816, o herwydd gostyngiad yn nghyflogau y gweithwyr; ond adferwyd pethau i drefn y tro hwn cyn i un canlyniad gofidus gymeryd lle.
TERFYSG 1831
Hwn oedd y terfysg mwyaf pwysig o derfysgoedd Merthyr, a'r pwysicaf a gymerodd le erioed mewn cysylltiad a'r gweithfeydd yn neheudir Cymru. Ond gan fod cymaintwedi ei siarad a'i ysgrifenu, yn Gymraeg a Saesneg ar y terfysg hwn, ystyriem mai afreidiol myned i ragor o fanylion, na chofnodi ond y prif ddygwyddiadau yn unig. Dechreuodd y terfysg hwn tua chanol yr ail wythnos yn Mehefin, 1831, yr hwn a drodd allan yn atalfa llwyr ar fasnach, ac yn angeu i tua 16 o'r terfysgwyr, heblaw llawer o glwyfedigion ar y ddwy ochr, er na pharhaodd yr ymrysonfa ond tuag wythnos o amser. Anhawdd yw penderfynu i foddlonrwydd pa beth oedd gwir achos y terfysg peryglus hwn. Dywed rhai oddiwrth yr hyn allesid gasglu oddiwrth eu hareithiau, mai diddymu Llys Cyfiawnder, (Court of Requests,) oedd ganddynt mewn golwg Ereill a farnant mai eu hamcan oedd gorfodi meistriaid yr Haiarn Weithfeydd i godi cyflogau y gweithwyr, cyfiawn neu anghyfiawn. Barnai eraill mai y rhybudd oedd Mr. Crawshay wedi ei roddi i ostwng i rai o'i weithwyr yn y mwyn oedd wedi eu cynhyrfu; ac i'r dyben o geisio rhyddhau ei hun o fod yn achosydd y cythrwil hwn, ysgrifenodd Mr. Crawshay lythyr maith i'r Observer, newyddiadur Seisnigaidd, perthynol yn fwyaf neillduol'i feistradoedd y gweithfeydd, yn yr hwn y dywed nad oedd yn alluadwy iddo ef na'i gyd-feistriaid roddi un codiad yn nghyflogau y gweithwyr, o herwydd sefyllfa farwaidd ac isel masnach yr amser hwnw. A chymeryd hyn o dan ystyriaeth, yn nghyd a'r elyniaeth ddygasol oeddynt yn ei daflu rhwng eu meistri a hwythau, heblaw y canlyniadau peryglus, rhaid addef fod y terfysgwyr wedi cymeryd cynllun hollol annoeth a chwithig. Yn ol yr hyn allwn farnu, yr oedd y terfysg wedi ei gyn-fwriadu gan y dosparth anfoddog o weithwyr yn Mrycheinog, Mynwy, a Morganwg; ac yr oedd eu gwaith yn myned i dy Mr. Fothergill, i Aberdar, idd ei orfodi i arwyddo papur a dystiolaethai nad oedd efe wedi dweyd nad oedd mwnwyr Gyfarthfa yn enill pum swllt yr wythnos yn fwy na'i fwnwyr ef, yn nghyd a rhoi iddynt, dan berygl o golli ei fywyd, yr hyn oedd ganddo o fwyd a diod yn ei dy; a'u mynediad tua'r siop i Aberdar, i orfodi ysiopwr i roddi yr hyn a ofynent allan o'r siop; eu dyfodiad yn ol i Ferthyr i ddinystrio dodrefn oedd yn rhai y ceisbwliaid perthynoli Lys Cyfiawnder, yn nghyd a dodrefn a holl lyfrau Mr. Coffin, ysgrifenydd y Llys; a'u gwaith yn gorfodi y gweithwyr yn y gwahanol weithfeydd, yn weithredoedd plentynaidd, hollol annheilwng o resymolion mewn gwlad Gristionogol. Erbyn dranoeth yr oedd yr Adran 93 o'r Highlanders wedi dyfod i'r lle; a gyda hwy ymunodd Mri. Crawshay, Bruce, a Hill, ac ymsefydlasant ger y Castle Hotel; i'r lle hwn y dilynwyd hwynt gan dyrfa luosog o'r terfysgwyr, gyda phastynau, llaw-ddrylliau, drylliau, &c.; ac er taer geisiadau gan Mri. Hill, Guest, a Crawshay, ar iddynt ymwasgaru a myned yn ol at eu goruchwylion, gyda'r addewid y byddai iddynt hwy dalu pob sylw ag y byddai yn ddichonadwy idd eu cwynion cyn pen 14 dydd, ond y cwbl yn hollol ofer, ni chafodd deisyfiad na chais yr un o honynt ei wrando ond gyda diystyrwch sarhaus; ac wrth ganfod hyn aeth yr uchel sirydd i ben cadair i ddarllen iddynt y Riot Act, pryd y rhuthrwyd ar y milwyr gan gymeryd eu harfau trwy orthrech oddiarnynt; yn yr ysgarmes clwyfwyd tua 16 o honynt fel ygorfodwyd iddynt ymwthio imewn i'r Castle Hotel, lle y saethasant trwy y ffenestri at y terfysgwyr, pryd y lladdwyd tuag 16 o honynt er na pharhaodd yr ymrysonfa ond tua chwarter awr. Parhaodd y terfysgwyr i saethu at y ty dros yspaid o amser ar ol hyn, ac aeth un belen i fewn i'r fynedfa-gefn heibio yr uchel sirydd a Mr. Crawshay. Teimlai y boneddwyr eu hunain yn y ty mewn sefyllfa wir beryglus, a thua'r hwyr symudasant tua Phendaren House, dan gysgod y milwyr oeddynt heb eu clwyfo o'r Highlanders, yn nghyd a 50 o'r Glamorganshire Militia, dan Cadben Powell,' a Major Richards, gyda Llantrisant Cuvalry, oeddynt newydd gyrhaeddyd i'r lle, gan gludo gyda hwy y milwyr clwyfedig o'r Highlanders.. Parhaodd y terfysgwyr mewn agwedd gyffrous o hyny tan y boreu, a bytheirient fygythion y byddai iddynt dynu ty Mr. Crawshay i lawr; y bygythiad hwn, yn nghyd a dysgwyliad am ail ymosodiad,a barodd i'r milwyr a'r boneddigion fod mewn dyfal wyliadwriaeth trwy y nos a'r dydd dranoeth. Y cam nesaf eto a gymerodd y terfysgwyr oedd, myned i ffordd Aberhonddu, i rwystro adgyfnerthion na chyflenwad ddyfod y ffordd hono i'r milwyr oeddynt yn barod yn Merthyr; a thua'r mynegfys ar fynydd Aberdar, i luddias milwyr dysgwyliedig o Abertawy, y rhai a gyfarfyddasant ac a gymerasant eu harfau oddiarnynt, gan wneuthur i'r rhan amlaf o honynt, os nad yr oll ddychwelyd yn eu holau; hyn yn nghyd a'r cyfarfod mawreddog a gynaliasant ar y Waun y dydd Llun canlynol, lle y barnwyd y gallasai fod yn wyddfodol tua 20,000 o ddynion o weithfeydd Brycheiniog, Mynwy, a Morganwg; ac i'r dyben o geisio eu hymlid a'u gwasgaru, er ymgais gosod y terfysg i lawr, aeth y milwyr, yn cael eu gwneyd i fyny o 110 o'r Highlanders, a 50 o'r Glamorganshire Militia, & 300, Yeoman Cavalry, o dan lywyddiaeth Cadben Morgan, yn cael eu dilyn gan yr ynadon; ac erbyn eu bod yn Dowlais yr oedd yr heolydd wedi eu llenwi gan y terfysgwyr. Cyrhaeddasant y lle, ac anerchodd Mr. Guest y dorf yn alluog, ond i ddim dyben, yna darllenwyd y Riot Act; hyd hyn nid oedd un arwydd o ymwasgariad; dangosai pob un benderfyniad diysgog, fel y gorchymynwyd o'r diwedd i'r Highlanders anelu eu drylliau yn barod, yr hyn a wnawd gyda'r goddefgarwch a'r hwyrfrydedd mwyaf. Rhoddwyd amser i'r terfysgwyr wneyd eu meddyliau i fyny; ac fel y dygwyddodd yn fwyaf ffodus, dechreuasant ymwasgaru fel y daeth yn ddianghenraid i roddi y gorchymyn, "Taniwch!" o herwydd pe y dygwyddasai felly, diau y cymerasai ymdrechfa waedlyd le, ac aberth mawr ar fywydau, lle yr oedd nifer o derfysgwyr mor feiddgar. Parhaodd rhai o honynt eilwaith i ymddangos mewn agwedd fygythiol ar heol Aberhonddu; yr oeddynt wedi casglu cynifer a allasent o arfau i'r dyben o arddangos eu hunain mor frawychus ag y byddai yn dichonadwy, yn nghyd a banerau duon a chochion wedi eu trochi mewn gwaed lloi, gan eu cwhwfanu yn y ffordd hono, a ffordd Abertawy. Yn y prydnawn gorchymynodd Mr. Crawshay i'r milwyr glirio y terfysgwyr yn llwyr o Ferthyr, eu hamgylchu, ac ymosod arnynt yn ddidrugaredd os caffent gyfleusdra; ond yn ffodus ni chymerodd un weithred o bwys le rhwng nos Lun a boreu dydd Mawrth, yn amgen llwyddo yn ol cynllun Mr. Guest, i ddal 14 o'r rhai a ystyrid yn brif flaenoriaid y terfysgwyr; ac yn eu mysg yr hwn a gyfrifid fel y penaf o honynt,yr hwn a goll-farnwyd idd ei grogi am ei feiddgarwch, ei fygythion, a'i weithredoedd ysgeler, yn arwain fel y penaf y lluoedd i'r fath ymrysonfa waedlyd. Darfu i'r oll o'r gweithwyr dydd Mawrth blygu i fyned at eu gorchwylion mewn dystawrwydd ac ufudd-dod, fel yn arddangos yr edifeirwch dwysaf o herwydd yr hyn a gyflawnasent. Claddasant hefyd eu meirw gyda thawelwch a phrudd der, yn deilwng o'r un edifeirwch. Erbyn hyn yr oedd yn agosyr oll o'r arfau wedi eu rhoddi i fyny rhag iddynt fod yn achosion i'r gyfraith gael gafael arnynt. Felly terfynodd yr ymrysonfa bwysig hon, a gobeithid yn gyffredinol na welid y fath derfysg yma byth mwy.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Perchenog boreuol y ddau Gae draw oedd Edwards Rheola, ac yna A. Hill, Ysw., ac yn olaf ei Ymddiriedolwyr a'i etifeddion