Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Teuluoedd Henaf a Pharchusaf

Oddi ar Wicidestun
Yr Arglwyddi Boreuol Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Trem ar Arwynebedd y Plwyf

COFRESTR O RAI O'R TEULUOEDD HENAF A PHARCHUSAF YN Y PLWYF, YN NGHYD A'U TRIGFANAU

Y Fforest. Yr hwn le sydd wedi bod yn drigfan henafol y Williamsaid, teidiau Mr. Thomas Williams, y trigianydd presenol. Olrheinia Mr. Williams ei deidau yn ol yn y lle hwn fel y canlyn:-Thomas, Dafydd, Thomas, William, Thomas, Dafydd, Thomas; felly, a chyfrif ond deugain mlynedd i bob un o'r saith fyw yn annibynol ar ei deidau, gwelir fod yr achau yma er ys pedwar ugain ar ddeg o flynyddoedd, ac nid yw yn hysbys pa gynifer o flynyddoedd cyn hyny. Mae amrai deuluoedd parchus wedi cael eu cychwyniad o'r lle hwn-teulu Pwllyhwyaid ac ereill allem eu henwi, pe caniatai ein gofod. Lewis Williams, ewythr Thomas Williams, fu yn un wrth y gorchwyl o gloddio sylfaeni ffwrnesau Penydaren. Mae y Williams presenol yn hanesydd cofus, yn Gymro gloew, yn gymydog cariadus, ac yn bleidiwr gwresog i lenyddiaeth Gymreig. Efe oedd cychwynnydd ac achosydd y traethawd hwn ar blwyf Merthyr Tydfil. Cododd Sais o'r enw Gypson awyren[1] yn Merthyr, yn Hydref y flwyddyn 1847, a disgynodd ger y ty hwn. Gwernllwyn isaf Y cyntaf ag sydd genym hanes am dano yn y lle hwn oedd Dafydd Jones, adnabyddus wrth yr enw Dafydd Shon; efe oedd yr un a gymerodd Brydles Dowlais oddiwrth achau Cefn Mably, tua chan mlynedd yn ol. Yr oedd iddo bump o ferched; priododd un o honynt ag un Walter Dafydd Evan, Blaenrhymni; eu disgynyddion hwy ydynt Dafisiaid y Cwm, ger Caerffili, ac Overton, Ysw., y cyfreithiwr a'r trengholydd yn Merthyr. Priododd un arall, ac aeth i'r Ysgwydd gwyn, yn Gelligaer; oddiyno yn rhanol y tarddodd achau presenol y Bedlinog. Priododd un arall ac aeth i fyw i Benbanc, yn Gelligaer; oddiyno yn rhanol y deilliodd achau Penygareg a'r Fforest. Priododd un ag un o Ddafisiaid y Mairdy, yn Merthyr, a bu'r llall farw yn weddw.

Gwernllwyn uchaf. Hen arosfan y parchus Williamsaid; perchenogion amrai diroedd yn Gelligaer. Gellifaelog. Preswylfa henafol Isaac Williams, yr hwn fu yn meddu amrai diroedd yn mhlwyf Merthyr, nid amgen y Gellifaelog, Rhyd y bedd, Gwernllwyn isaf, Cilfach yr encil, a Chefn у Fforest. Yr oedd yn daid i'r Doctor Pritchard oedd yn byw yn Nghefn y Fforest tua chan mlynedd yn ol.

Cefn y Fforest. Hen drigfan y Pritchards, gynt o'r Colena, yn Llantrisant, ac ymae yn meddiant yr achau erys rhagor nag wyth ugain mlynedd. Cyn eu dyfodiad hwy i'r lle yr oedd y foneddiges enwog Lydia Phel yn byw yno, ac yn aelod selog gyda'r Crynwyr; bu yn cyrchu i wrando i Cwmglo hyd yr ymraniad yn y flwyddyn 1650, pryd y rhoddodd 'le yn etifeddiaeth barhaol i'r Crynwyr i amgaeru mynwent, yr hon oedd hefyd i fod yn lle o addoliad, ger y pentref sydd yn awr ar yr enw, tu arall i'r afon Bargoed, yn Llanfabon. Bu y Crynwyr yn cynal cyfarfodydd yma dros lawer o flynyddoedd; cynullai torfeydd lluosog yma deirgwaith yn y flwyddyn; y mwyaf nodedig o'r cynulliadau hyn oedd yn amser Gwyl Ieuan. Gwywodd yr achos yma o herwydd, medd rhai, anwareiddiwch a gwatwariaeth iselwael ryw fath o ddynion a fynychent i'r lle. Mae ei muriau yn bresenol yn amgaddiedig gan y gwyrddlas iorwg, fel y dynodant ddirywiad ac anghyfanedd-dra yn ei pherffeithiwch. Yma y gorphwys gweddillion marwol Lydia Phel, yn nghyd ag amrai ereill o Grynwyr dan feini llorweddol,a orchuddir dan gaenen werdd las o dyweirch. Nid oes na chyfarfod na chladdu wedi bod yma yn y deugain mlynedd diweddaf.

Penygraig. Tua dau cant a haner o flynyddau yn ol yr oed ddadleuydd (counsellor) o'r enw Morgans yn byw yn y lle hwn; ynddo mae ystafell a elwir hyd heddyw Study fach, lle yr arferai fyfyrio a threfn ei gynlluniau. Ar ei ol ef daeth y Williamsaid, y rhai fuont yn aros yma yn olynol hyd yn ddiweddar. Nid oedd rhent y tir hwn pan yn meddiant y diweddaf ond un o'r teulu a enwasom ag a fu yn byw yma ond £29 yn y flwyddyn, wedi ei farwolaeth ef, Morgan Williams, am fod y Brydles yn myned allan gyda'i fywyd, cododd rent flynyddol y tir hwn i £104 y flwyddyn. Bu y Morgan Williams hwn gyda'i fulod a'i geffylau yn cario haiarn oddiwrth Waith Hirwaun dros gefn y mynydd, rhwng Merthyr ac Aberdar, a thros y llwybr a ymddangosa yn awr mor ddisathr, drwy Daren y gigfran, ac i lawr dros Bontygwaith i dynu tua'r Casnewydd, neu Lanhuddal; arferai ddadlwytho ger Ffaldgaiach, lle troai ef yn ei ol ac y cymerai arall у baich yn ei le i'w gludo i ben y daith apwyntiedig. Gwerthodd y dyn hwn bedwar o ychain yn un o ffeiriau y Waun am £100, yn nechreuad rhyfel dymor Napoleon I.

Tir y Cook. Preswylfan y clodus feddyg anifeilaidd, Richard Davies, yr hwn sydd yn wr tra chyfrifol yn ei ardal. Bu un Sais o'r enw Cook yn byw yn y lle hwn er ys tua dau cant o flynyddoedd yn ol; yr oedd yn un o gwmni Gwaith Hairn Pontygwaith. Priododd un o ferched Mordecai Ebrai Phel, yr hwn oedd yn frawd i Lydia Phel, Cefnyfforest, ac yn byw yn Nhir y Cook cyn dyfodiad y sais i'r lle. Mae traddodiad yn y gymydogaeth fod maelfa wedi bod yn yr amaethdy hwn gwedi amser Cook, ac fod ei pherchenogydd yn myned tua Chaerodor i brynu ei nwyddau, ac yn eu cludo yn ol ar ei gefn.

Tai'r Lan. Preswylfan henafol Lewisiaid y Tŷ Newydd a Thai'r Lan. Y cyntaf ag sydd genym hanes am dano o achau y Lewisiaid yn y lle hwn oedd Daniel Lewis, alias Daniel Goch, yr hwn oedd yn gyfreithiwr hyfedra galluog, a thra chyfrifol yn ei ardal; bernir ei fod yn byw yma tua dechreu y ddwyfed ganrif a'r bymtheg.

Ty Newydd. Preswylfan yr un Lewisiaid a Thai'r Lan, fel y nodasom yn barod, y rhai sydd linol-lin yn ddynion caredig, cymwynasgar, ac heddychlawn yn eu hardal. Troa perchenogydd presenol y Ty Newydd mewn cylch pwysig yn Merthyr Tydfil. Iddo ef yr ymddiriedir y gorchwyl o gasglu treth y tlodion yn y plwyf. Prynodd ei hen daid diroedd Ty Newydd, Tir y Cwm, a Ty'r Ywen, gan un o Lewisiaid y Van, yn y flwyddyn 1727, y rhai hefyd oeddynt berchenogion boreuol Tai'r Lan, Godrecoed, Cefn Glas, Abervan, yn nghyd a rhan o dir y Perthigleision, &c.

Ynys Owen. Hen drigfan y Meyricks, achau henafol ond rhanol Williamsaid, Maes-y-rhyddid, T. Edmunds, Penybylchau, &c., taid yr hwn oedd Edmund Meyrick; oddiwrth yr Edmund hwnw y tardd ei gyfenw Edmunds; yr oeddynt yn ddiarebol am fod yn alluog a dewr; y diweddaf o honynt ag a fu yn byw yn y lle tua 70 o flynyddoedd yn ol, a arferai, fel eraill o'i gymydogion, galchu o'r Twynau-gwynion. Fel yr oedd ef yn nghyd ag un o'i gymydogion yn ystod un tymor yn cyrchu calch o'r lle a nodasom, arferent gyfarfod ag ebolyn bychan o faintioli ar eu ffordd; yr oedd wedi denu eu sylw er's diwrnodau fel un o'r creaduriaid truanaf a allasent ganfod o Fon i Fynwy, ac o'r braidd nad oedd yn rhy druan i ddau edrych arno ar unwaith. Wrth ei gan fod felly, a hwythau yn gwybod am y borfa fras oedd tu arall i'r berth, penderfynasant ymafyd ynddo a'i daflu dros y berth, iddo gael ei fwynhau. O hyny allan byddai yr anifail yn eu haros yn yr un man bob boreu; ac felly gwnaethant iddo, nes iddo ddyfod yn un o'r creaduriaid barddaf a allesid weled. Bu perchen y cae mewn dyryswch mawr mewn perthynas iddo, am nas gallasai ganfod ei olion yn niweidio y cloddiau yn un man. Canodd rhywun y penill canlynol iddynt, wrth ganfod eu diwydrwydd a'u dewrder yn wahanol i'w cymydogion, yn nhymor cynhauaf:—

"Mae'r Tori wedi ffaelu,
A'r Ysw. yn gorfod gwaeddi,
Y lleill a'u gwyr sy'n colli'r dydd,
A’r Meyricks sydd yn maeddu."

Yr oedd hen brif ffordd Merthyr a Chaerdydd, cyn amser Bacon, yn arwain trwy y man y saif cyntedd y ty hwn yn bresenol; a chludwyd llawer o gyrff y plwyf olion tua'r gladdfa drwy y lle hwn.

Abervan Fawr. Arosle henafol y Jenkinsaid-dynion hawddgar, caruaidd, a heddychlawn a breswylient linol-lin yn y lle er ys llawer o ugeiniau o flynyddoedd. Yn perthyn iddynt hwy mae un gyfran o'r mynydd tal syth a elwir Cefn-y-van; oddiar hwn,ar ddiwrnod clir, gellir canfod naw o eglwysi plwyfol, heblaw am rai o addoldai. Pan yn edrych oddi yma tua'r gogledd, mae mynyddau Maesyfed a'u trumau i'w gweled yn ymestyn tua'r nen. Wrth droi ein golwg tua'r deau-ddwyrain canfyddwn Hafren, a'r llongau yn dawnsio ar ei thonau brigwyn. Tu draw iddi gwelir milltiroedd meithion o Wlad-yr-haf, a gyda chymorth yspienddrych yr ydys wedi canfod oddiyma gaeau o yd yno; felly, gwelir y gellir canfod oddi yma dros gan milltir o ffordd. Bu un hen weddw oedranus a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw Sarah, Daren-y-gigfran, yn byw mewn cilfach anial rhwng Taren-y-gigfran a Chefn-y-van, ar y tir hwn dros 23 o flynyddoedd; yr oedd haner milltir o leiaf rhyngddi a'r ty nesaf, sef Abervan; ei chymydogion nesaf oeddynt y ddylluan, y gigfran, y wiwer, y wenci, yr ysgyfarnog, a'r llwynog. Dyma'r fath gyflwr o neillduedd, yn ngwir ystyr y gair, yr oedd yr hen ddynes ddiniwed ag a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Mae iddi ferch ac wyres yn byw yn Mynwent y Crynwyr yn bresenol (yn 1864). Mae maen a elwir Maen gwaeddi ger y ty hwn. Tebygwn iddo dderbyn yr enw oddiwrth fod preswylwyr yr hen anedd-dy ac ereill yn arferol o'i gymeryd yn safle i waeddi ar wahanol achosion yr alwedigaeth amaethyddol, &c.; sigla ychydig pan eir i'w ben.

Perthigleision. Hen breswylfan y Williamsaid. Buont yn berchenogion Abervan-fach, ac haner tir Perthigleision, a Lewisiaid y Van oeddynt berchenogion y rhan arall. Un o'r Williamsaid hyn a adnabyddid yn gyffredin gan yr ardalwyr wrth yr enw Hen Squire, neu y Squire Williams. Bu yn ei feddiant helgwn tra nodedig o ddefnyddiol yn y cyfnod hwnw, i erlyn llwynogod, &c. Yr oedd y boneddwr parchus hwn yn ber thynas agos i Domosiaid y Lechfaen, yn Llanvabon.

Hafod-tanglws-isaf, neu yn hytrach Hafod-Ann-dlws. Hen gartref y Dafisaid, y rhai ydynt linach barchus iawn yn eu cymydogaeth, ac y maent yn cyfaneddu yn y lle hwn er ys ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd.

Hafod-tanglws-uchaf. Trigle y diweddar Edward William Harri a'i achau. Nid oes cymaint a thraddod. iad wedi ei adael yn gofnodiant i ni o'u dechreuad yn y lle hwn. Yr oedd Hafod-tanglws-isaf, Hafod-tanglws uchaf, a Penlan-draw, yn ol y dyddiadau a gafwyd ynddynt, wedi eu hadeiladu rhwng y 10fed a'r unfed ganrif ar ddeg.

Troed-y-rhiw. Hen berchenogaeth a phreswylfa Morgansaid y Fodffordd. Gwerthasant y tir hwn i gwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais; a bu Sir John Guest, A.S. yn byw dros ychydig amser yn y ty hwn. Enillodd Lewisaid, Dangddraenen y tir hwn i'w perchenogaeth trwy gyfraith a fu rhyngddynt yn ddiweddar a chwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais.

Pentrebach. Trigfan henafol y Jonseaid, y rhai oeddynt berthynasau i achau Penrhiwyronen, Tontailwr, ac Abervan.

Taibach a'r Dyffryn. Preswylfa y Tomosaid, oddiwrth ba rai yr hanodd Tomosaid y Pudwall, yn Llanfabon.

Gethin. Hen breswylfa y Lewisaid. Gellivaelog. Trigfan henafol L. Jenkins, yr hwn fu hefyd yn byw yn Clynmil, yn berthynas i deul o y Graig. Yr oedd yn wr cyfrifol yn ei ardal, ac yn cyd oesi a Bacon.

Graig. Trigfan henafol y Morgansaid, teulu gwir barchus yn Merthyr.

Maerdy. Hen arosfan y Dafisaid, perthynasau i deulu y Graig a'r Ysgubor-newydd. Bu yma hefyd helgwn tra nodedig flynyddau maith yn ol. Mae yr hendyddyn agos oll yn orchuddiedig gan dai yn Merthyr.

Garth. Preswylfan y Dafisaid-yr un a Pantysgallog; o'r hwn le y cafwyd y rhan fwyaf o geryg adeiladu at wasanaeth Dowlais yn yr 20 mlynedd di weddaf.

Gwaelod-y-garth-fawr. Preswylfa y Morgansaid dynion adnabyddus a chyfrifol iawn yn Merthyr.

Pant-Cadifor. Hen arosle y Nicolasaid. Bu un o'r achau hyn yn llosgi calch yn odynau y Twynau-gwynion oddeutu 120 o flynyddoedd yn ol, yr hwn oedd y lle hynaf ag sydd genym hanes am dano yn y plwyf hwn i losgi calch. Un o'r perthynasau hyn a hynododd ei hun yn fawr fel un o'r meddygon anifeiliaid enwocaf ynei oes. Mae rhai o'r perthynasau hyn yn y lle hyd heddyw.

Bellach yr ydym yn terfynu y benod hon, gyda dyweyd y carasem gofnodi llawer yn rhagor o deuluoedd parchus yn ein plwyf, ond ni chaniata ein gofod i ni wneud hyny heb chwyddo ein hanesiaeth yn fwy na'i maintioli bwriadol; gan hyny, awn rhagom i draethu ein llen ar trem ar arwynebedd y plwyf.

Nodiadau[golygu]

  1. Cyn dyfeisio'r awyren adenydd ar ddechrau'r 20G, defnyddid y term awyren i gyfeirio at falŵn awyr poeth