Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Yr Eglwys Wladol Dechreuad a chynnydd Ymneillduaeth
← Hanesiaeth gyffredinol | Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf) |
Addysg a llenyddiaeth → |
YR EGLWYS WLADOL
Gwahaniaethir mewn barn mewn perthynas i'r eglwys a gyflwynwyd i fod yn goffadwriaeth am St. Tydfil. Myn rhai, ac yn eu plith Taliesin Williams (ab Iolo), i ni gredu nad oes gan hen eglwys Merthyr hawl i'r enw, am mai i St. Mary, meddent, y cyflwynwyd hi yn y dechreu, a bod yr eglwys a gyflwynwyd i St. Tydfil, yn sefyll ar gae Tydfil, yn y man y saif y Penydaren Mansion House; a thuag at brofi'r gosodiad neu'r dybiaeth hon, mae gweddillion hen furiau yr eglwys—y palmant—y mur oedd o gylch y fynwent, yn nghyd ag esgyrn bodau dynol a ddarganfyddwyd yno wrth gloddio sylfaen y ty a enwasom, Bu rhai o'r gweddillion hyny yn cael eu cadw, a'u harddangos dros lawer o flynyddoedd, yn Ngwaelod-y-garth, Merthyr. Dywed awdwr arall i Tydfil gael ei lladd ar fynydd Gelligaer, gerllaw Capel y Brithdir, lle mae maen a cherfiad arno. Yn y flwyddyn 1817, gosododd y Parch. J. Jenkins, D.D., diweddar weinidog y Bedyddwyr yn Hengoed, y llythyrenau ar ei ddyddlyfr, fel yr oeddynt ar y maen. [Gan mai yn hen lythyrenau Coelbren y Beirdd yr oedd y cerfiad, nid oes genym y fath yn y swyddfa.] Ar y 12fed o Ionawr, 1822, talodd Mr. William Owen, o Fon, ymweliad a'r Parch. J. Jenkins, D.D., pryd y cyfieithodd y geiriau i'r Gymraeg, yr hyn sydd fel y canlyn,
T F S E R M A
C N S R I L I
A S F D А N J
H I C S I А C І T
Y geiriau yn gyflawn sydd fel hyn,-
Tydfil Senta Regina Martyr
Censorius Kilemax
Acendera Fidelis Aniama
Hic Somaticus Jacit
yr ystyr Gymraeg, —
Tydfil, santes, tywysoges, a merthyr, a ddanfoniwyd at yr hwn oedd mewn awdurdod o drefnu pethau, ac a ddyfethwyd, ac yn ebrwydd ei henaid ffyddlon a ddyrchafodd i fyny i'r nefoedd, ac yma mae ei chorff yn gorwedd.
Gadawn i'r darllenydd farnu drosto ei hun mewn perthynas i'w gywirdeb.
Mae yn ngodreu plwyf Merthyr weddillion dau Gapelau Eglwysig nad oes braidd gymaint a thraddodiad wedi ei drosglwyddo i lawr i'r oes hon am danynt Capel y Van a adeiladwyd ar Gefn y Van, yr hwn sydd fryn uchel, yn perthyn i Mr. Jenkins, Abervan-fawr, yn y plwyf hwn. Dewiswyd y fan hon i adeiladu arno, am ei fod yn gyfleus i breswylwyr Cwm-cynon, yn gystal a Chwm-Taf,[1] ac am ei fod yn fan noeth, rhwng cymoedd a gelltydd disathr ac anhygyrch. Yn arwain tuag ato, ar yr ochr orllewinol, mae rhiw ag sydd yn cael ei galw hyd heddyw Rhiw'r-Capel, yr hon oedd yn y cyfnod hwnw ar gwr uwchaf gallt fawreddog—olion o'r lleoedd oedd ei choedydd yn cael eu gwneud yn olosggoed sydd yn ganfyddadwy yno hyd heddyw. Capel y Fforest-gweddillion yr hwn, yn nghyd a thy anedd, a mynwent sydd yn gorwedd mewn ychydig bant ar y mynydd, rhwng Taf a Bargoed, tua dwy filltir i'r dwy. rain o Droedyrhiw. Tebygol i hwn gael ei adeiladu gyfnod yn ddiweddarach na Chapel y Van; o herwydd mae traddodiad yn dyweyd wrthym fod pregethu wedi bod ynddo er ys tua 200 o flynyddoedd yn ol, a bod dwy hen ferch weddw yn byw yn y ty perthynol i'r capel, y rhai a symudasant oddiyno i ryw le tua deheubarth y swydd hon, pan y rhoddwyd i fyny bregethu yn y lle, rywbryd yn amser Cromwell. Mae swm o arian wedi eu gadael yn y drysorfa eglwysig tuag at ei ailadeiladu, ac y mae siarad wedi bod yn ddiweddar, yn mhlith yr eglwyswyr, am ymaflyd yn y gorchwyl, ond y mae yn aros hyd yn hyn yn ddigyfnewid. Eglwys Verthyr, sef St. Tydfil, a adeiladwyd yn y flwyddyn A.D. 1807, a'r clochdy yn 1829, yr hwn a gynwysa awrlais oleuedig er rhoddi mantais i'r trefwyr ganfod yr awr a'r fynyd o'r nos yn gystal a'r dydd. Ac wrth dynu i lawr yr hen eglwys, yr hon oedd yn sefyll ar yr un sefyllfan a'r un bresenol, deuwyd ar draws arch gareg, yr hon a ffurfiai ran o'i sylfaen, ac ynddi ysgerbwd rhyw fod dynol o hyd anghyffredin. Bernir mai gweddillion un o'r tri brawd cawraidd oedd, a adeiladasant y mur mawr, heb un goed-daflod (scaffold), yr hwn sydd o 12 i 13 troedfedd o uwchder, ger Caerdydd, hyd heddyw, ac yn cael ei galw Mur y tri Brawd. Gosodwyd hi tu allan i furiau yr eglwys, ac mae'r Llythyrenau sydd yn gerfiedig arni wedi bod o bryd i bryd yn destyn sylw llawer o hynafiaethwyr.
Periglor presenol yr eglwys hon yw y Parch. John Griffith, a'r fywoliaeth sydd guradaeth barhaus yn Urdd-ddiaconiaeth ac esgobaeth Llandaf. Ei gwerth blynyddol sydd tua £1,700, ond y mae rhan helaeth o'r swm yma yn cael ei gwneud i fyny trwy dir-dal y Glebeland. Cyfarfodydd Cymreig am 11 yn y boreu, a 6 yn yr hwyr, ac yn Seisnig, am 3 yn y prydnawn.
Eglwys y Gyfarthfa a adeiladwyd gan Richard Crawshay, Ysw. tua dechreu y ganrif bresenol. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Howell. Cyfarfodydd am 11 a 6 yn yr hwyr.
Eglwys Dowlais a adeiladwyd yn y flwyddyn 1827. Gwasanaethir hi yn bresenol gan y Parch. John Jones. Cyfarfodydd Cymreig am 9 a 3 yn y prydnawn, a Seisonig am 11 a 6 yn yr hwyr.
Eglwys St. David, Heol fawr, Merthyr, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1846, ac a agorwyd Medi yr 8fed, 1847. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Griffith, periglor. Cyfarfodydd yn Seisnig am 11 a 6.
Eglwys George's Town a adeiladwyd tua'r flwyddyn 1859. Gwasanaethir hi gan y Parch. J. Howell.
Eglwys Pentrebach a adeiladwyd gan A. Hill, Ysw. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Green.
Eglwys Troedyrhiw a adeiladwyd ar draul yr un boneddwr. Curad, y Parch. T. Thomas.
BRASLUN O DDECHREUAD, A CHYNYDD YMNEILLDUAETH YN Y PLWYF HWN.
Yr ydym yn wir falch o'r cyfleusdra o gael hamdden i gofnodi plwyf Merthyr Tydfil, fel wedi bod yn gryd ymneillduaeth, pan oedd megys plentyn egwan, newydd adael tywyll fyd ofergoelus a thraws arglwydd aeth uchel eglwysig a phabyddol, i fyd bradwrus ac erledigaethus, yr hyn bethau oeddynt fel tonau cynddeiriog yn ymdaflu ar draws ei chyfansoddiad o bob cyfeiriad; ond er ei bod yn wannaidd ei golwg, yr oedd yn cael ei chynnal a'i meithrin gan yr hwn a fyn " weled o lafur ei enaid a chael ei ddiwallu." Cwm-y-glo, yn mhlwyf Merthyr Tydfil, y torrodd gwawr diwygiad Protestanaidd gyntaf yn Nghymru, yn ôl y tystiolaethau mwyaf cyffredin; Ie, yn y gilfach anial a mynyddig yma y blagurodd Ymneillduaeth, yr hon sydd a'i changau erbyn heddyw wedi ymledu dros rannau o bedwar ban y byd. Er fod gennym hanes fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar hyd y tai yn Blaengwrach, ac mewn lleoedd anghyfannedd, mewn tri man cyn adeiladu capel Cwm-y-glo; sef yn Blaengwrach, Aberdar, a Merthyr. Y pregethwr a'r gweinidog trwyddedig cyntaf ag sydd genym hanes am dano ag oedd yn gweinidogaethu yn y lleoedd hynny oedd y Parch. Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, Rhigos, yr hwn oedd yn Fardd da, ac yn ysgolaig rhagorol. Yn y flwyddyn 1540, gwnaeth droi cyfieithiad Saesoneg Tyndal o'r Bibl i'r Gymraeg. Derbyniodd ei drwydded i bregethu gan yr Archesgob Grindall, ac erlidiwyd ef gan Laud am weddïo heb lyfr, a phregethu mewn lleoedd anghysegredig. Tua'r flwyddyn 1620, yr amser ymunwyd yn Cwm-y-glo, yr oedd un hen ŵr yr hwn oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr, a elwid yn gyffredin "Hen Saphin," yn dyfod o ardal Penybont-ar-ogwy nos Sadwrn, gan dramwy agos drwy y nos er cyrhaedd i fod mewn cyfarfod ar Hengoed boreu y Sabboth, ac oddiyno i gyfarfod prydnawn yn Cwm-y-glo.
Yn y flwyddyn 1669 gwysiwyd y duwiolfrydig Vavasor Powell, dan gyhuddiad a ddygodd George Jones, offeiriad y lle yn ei erbyn; yr hyn oedd dwyn byddin arfog i fynwent Eglwys Merthyr, pan nad oedd ganddo mewn gwirionedd, yn ôl y tystiolaethau cywiraf a fedd yr Ymneillduwyr, ond torf o tua mil o wrandawyr astud a sychedig am eiriau y bywyd tragywyddol, i'r rhai hyn y pregethodd ei bregeth olaf ar y ddaiar hon, oddiwrth Jer. xvii. 7, 8; i sefyll ei brawf yn y Bontfaen; oddiyno gwysiwyd ef i Gastell Caerdydd, yn garcharor; oddiyno cymerwyd ef i garchar yn Llundain, dan y cyhuddiad o fod yn ysgrifennu a phregethu yn anffafriol i Charles II, ac yn bleidiol i Cromwell. Bu yn garcharor yno dros 11 mlynedd, pryd a'r lle y bu farw yn orfoleddus wedi ei dynnu trwy 13eg o garcharau, a chladdwyd ef yn Bunhill Fields, lle gorphwys ei weddillion hyd y boreu mawr.
Yr oedd pump o wahanol gredoau yn ymgynnull yn Cwm-y-glo, sef Bedyddwyr, Annibynwyr, Crynwyr, Presbyteriaid, ac Undodiaid, a buont fel hyn yn cydgyfarfod hyd y flwyddyn 1650, pryd aeth y Bedyddwyr i Hengoed, y Crynwyr i Fynwent-y-Crynwyr, yr Undodiaid i Gefn Coed-y-Cymer, ac arosodd y gweddill yn Cwm-y-glo, hyd adeiladiad yr Ynysgau yn y flwyddyn 1 749. Enwau y rhai fuont yn gweinidogaethu yn Cwm-y-glo a'r Ynysgau hyd yn bresennol, sydd fel y canlyn : y Parch Thomas Llewelyn, Cadben Harri Williams, yr hwn a weinidogaethodd o'r flwyddyn 1640 hyd 1673, Henry Maurice, o 1673 hyd 1683, Roger Williams, o 1683 hyd 1715, James Davies, o 1715 i 1720. Urddwyd Richard Rice yn gyd-weinidog ag ef tua'r flwyddyn 1717. Yr oedd у blaenaf yn Galvin a'r olaf yn Armin.
Yn 1747, ymrannwyd, ac aeth rhai i'r Cefn, ar gweddill i'r Ynysgau, Yna y daeth mab James Davies yn gyd-weinidog a'i dad, ac ar ei ôl ef daeth Davies, Cefn, yn y flwyddyn 1785, ac yna Evans, ar ei ôl J. Morris, sydd yn awr wedi troi at yr Eglwys Wladol, wedi hynny Jones, ac ar ei ol yntau Price Howell, yr hwn yw eu gweinidog presennol yn y flwyddyn 1863. Adgyweiriwyd y capel yn y flwyddyn 1821. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Capel Annibynol Soar a adeiladwyd yn y flwyddyn 1803. Helaethwyd ef yn y flwyddyn 1825 ac 1841. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gwag.
Adulam a adeiladwyd yn y flwyddyn 1831. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, A. Mathews.
Bethesda a adeiladwyd yn y flwyddyn 1811, ac ail-adeiladwyd tua'r flwyddyn 1822. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, R. G. Jones.
Y mae Capel bychan yn gangen o'r Eglwys hon, a elwir Gellideg. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Penyrheol-gerig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1849. Gweinidog S. Jones. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Capel Saesoneg a adeiladwyd yn y flwyddyn 1840. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. J. T. Davies.
Bethania, Dowlais, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1824, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1827. Helaethwyd yn y flwyddyn 1839. Cyfarfodydd am 11, & 6. Gweinidog, Parch. J. Hughes.
Bryn Seion a adeiladwyd yn y flwyddyn 1832, ac ail-adeiladwyd yn 1844. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. D. Roberts.
Gwernllwyn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1860. Cyfarfodydd am 10, a 6. Gweinidog, y Parch. J. H. Hughes.
Penywern, cyfarfodydd am 11, a 9. Gweinidog, y Parch. J. M. Bowen.
Abercanaid a adeiladwyd yn y flwyddyn 1861. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. D. Thomas.
Troedyrhiw a adeiladwyd yn y flwyddyn 1835. Cy. farfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. W. Morgans.
Penydaren, Horeb, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1839. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. J. M. Bowen.
Salem a adeiladwyd yn 1858. Gweinidog, Parch. T. Jenkins. Cyfarfodydd am 11 a 6.
BEDYDDWYR.
Capel Seion a adeiladwyd gan gangen o Hengoed, yn y flwyddyn 1791, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1807; a thrydydd adeiladwyd yn y flwyddyn 1841.
Y gweinidog cyntaf ag sydd genym hanes sicr am dano yn yr eglwys hon oedd, y Parch. D. Jones, o Drefdraeth, Penfro. Rhys Jones, eto, o'r flwyddyn 1802 hyd 1814. D. Saunders, John Jones a Chornelius Griffiths. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Ebenezer a adeiladwyd gan gangen o Seion, yn y flwyddyn 1794, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1829. Gweinidog presenol, y Parch. J. Lloyd. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Bethel a adeiladwyd yn 1809, ac ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1826. Gwasanaeth am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. B. Lewis.
Tabernacl a adeiladwyd yn 1842. Cyfarfodydd am 11, a 6. Y mae Ysgol yn gysylltiedig a'r eglwys hon ar arddull Normanaidd.
Elim a adeiladwyd yn y flwyddyn 1842. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Hebron a adeiladwyd yn y flwyddyn 1841. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, y Parch. T. Roberts.
Caersalem a adeiladwyd yn 1830 Gweinidog, y Parch. E. Evans. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Y diweddar J. Jenkins, D.D. Hengoed, a fu yn offerynol i gychwyn yr achos yn Dowlais.
Abercanaid a adeiladwyd yn y flwyddyn 1841. Gweinidog, y Parch. J. Evans. Cyfarfodydd am 11, a 6.
Y Deml a adeiladwyd yn y flwyddyn 1861. Gweini. dog, y Parch. J. Evans.
Ainon a adeiladwyd yn y flwyddyn 1859. Gweini. dog, y Parch. J. G. Phillips.
Carmel, Troedyrhiw. Gweinidog, y Parch. W. Jenkins.
Y METHODISTIAID
Capel Pontmorlais. Cyfarfodydd am 11 a 6.
Pensylvania a adeiladwyd tua'r flwyddyn 1800, ac ail adeiladwyd efyn y flwyddyn 1834 Gwasanaeth am 10 a 6.
Capel Cae Pant-tywyll a adeiladwyd yn y flwyddyn 1841. Cyfarfodydd am 10 a 6. Hermon a adeiladwyd yn y flwyddyn 1827, ac ail adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1841. Cyfarfodydd am 2 a 6.
Capel y Graig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1847. Cyfarfodydd am 10 a 6.
Libanus, Dowlais. Cyfarfodydd am 10 a 6.Y WESLEYAID
Capel Pontmorlais a adeiladwyd yn y flwyddyn 1797. Gweinidog, y Parch. Mr. Lewis. Cyfarfodydd am 10. a6. Siloh a adeiladwyd yn y flwyddyn 1830. Cyfarfod ydd am 10 a 6. Siloh, eto, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1845. Cyf. arfodydd am 10: a 6.
Capel y Wesleyaid Seisnig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1830. Cyfarfodydd am 10½ a 6.
Capel Troedyrhiw. Cyfarfodydd am 10 a 6.
YR UNDODIAID
Capel Twynyrodyn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1821. Gweinidog, y Parch. Mr. Williams. Cyfarfodydd yn yr haf am 11 a 6.
Y PRIMITIVE METHODISTS
Capel Burnell's Field a adeiladwyd yn y flwyddyn 1847. Cyfarfodydd am 10½ a 6.
Capel eto, a adeiladwyd,yn y flwyddyn 1846. Cyfarfodydd am 2½ a 6.
Cynalia yr Iuddewon gyfarfodydd yn nhy Mr. Barnett, Heolfawr, bob prydnawn dydd Gwener a dydd Sadwrn, am 8 yn y boreu, a 2 yn y prydnawn.
Capel y Pabyddion, Gellifaelog, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1846. Offeren am 9½ , a phregethu am 10.
Cyfrifir y cynwysa yr oll o'r capelau a enwasom tua 11,346 o aelodau yn 1863, a 11,000 o ysgolheigion yn yr ysgolion Sabbathol. Ac i'r dyben o roddi cyfle teg i'r darllenydd ffurfio dirnadaeth gywir a gynydd a mawredd y lle yn ei fanteision crefyddol, rhoddwn y daflen ganlynol i lawr,—
Ac er fod annuwioldeb yn uchel yn Merthyr, a mor uchel feallai ag unrhyw barth o Gymru! a dwyn dan ystyriaeth y manteision mawreddog mae rhagluniaeth y nef wedi estyn i'w breswylwyr, gyda gradd o hyfrydwch, ymffrostiwn yn ei grefyddolder, yr hon sydd goronbleth odidog ar ei ben, fel y gellir dyweyd am dano, "Lle yr amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras." Mae yn Merthyr hefyd rai o'r cantorion enwocaf yn eu hoes, ac yn eu plith gwnawn enwi Ieuan Gwyllt, Rosser Beynon, (Asaph Glantaf), Cerddor Tydfil, a Tydfilyn, fel y gallwn farnu fod cerddoriaeth mewn cymaint bri ac anrhydedd yma ag unrhyw dref rhwng bryniau cribog Cymru.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Meddylia rhai iddo gael ei adeiladu er mwyn cyfleusderau i weithwyr Haiern Gweithfa Pontygwaith.