Trafferth mewn tafarn
Gwedd
gan Dafydd ap Gwilym
- Deuthum i ddinas dethol,
- A’m hardd wreangyn i’m hôl.
- Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
- Cymryd, balch o febyd fum,
- Llety urddedig ddigawn
- Cyffredin, a gwin a gawn.
- Canfod rhiain addfeindeg
- Yn y ty, mau enaid teg.
- Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
- Fy mryd ar wyn fy myd main.
- Prynu rhost, nid er bostiaw,
- A gwin drud, mi a gwen draw.
- Gwarwy a gâr gwyr ieuainc –
- Galw ar fun, ddyn gwyl, i’r fainc.
- Hustyng, bum wr hy astud,
- Dioer yw hyn, deuair o hud;
- Gwneuthur, ni bu segur serch,
- Amod dyfod at hoywferch
- Pan elai y minteioedd
- I gysgu; bun aelddu oedd.
- Wedi cysgu, tru tremyn,
- O bawb eithr myfi a bun,
- Profais yn hyfedr fedru
- Ar wely’r ferch; alar fu.
- Cefais, pan soniais yna,
- Gwymp dig, nid oedd gampau da;
- Haws codi, drygioni drud,
- Yn drwsgl nog yn dra esgud.
- Trewais, ni neidiais yn iach,
- Y grimog, a gwae’r omach,
- Wrth ystlys, ar waith ostler,
- Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
- Dyfod, bu chwedl edifar,
- I fyny, Cymry a’m câr,
- Trewais, drwg fydd tra awydd,
- Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
- Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
- Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
- Lle’dd oedd gawg yrhawg yn rhydd
- A llafar badell efydd.
- Syrthio o’r bwrdd, gragwrdd drefn,
- A’r ddeudrestl a’r holl ddodrefn’
- Rhoi diasbad o’r badell
- I’m hôl, fo’i clywid ymhell;
- Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
- O’r cawg, a’m cyfarth o’r cwn.
- Yr oedd gerllaw muroedd mawr
- Drisais mewn gwely drewsawr,
- Yn trafferth am eu triphac –
- Hicin a Siencin a Siac.
- Syganai’r gwas seog enau,
- Araith oedd ddig, wrth y ddau:
- ‘Mae Cymro, taer gyffro twyll,
- Yn rhodio yma’n rhydwyll;
- Lleidr yw ef, os goddefwn,
- ‘Mogelwch, cedwch rhag hwn.’
- Codi o’r ostler niferoedd
- I gyd, a chwedl dybryd oedd.
- Gygus oeddynt i’m gogylch
- Yn chwilio i’m ceisio i’m cylch;
- A minnau, hagr wyniau hyll,
- Yn tewi yn y tywyll.
- Gweddiais, nid gwedd eofn,
- Dan gêl, megis dyn ag ofn;
- Ac o nerth gweddi gerth gu,
- Ac o ras y gwir Iesu,
- Cael i minnau, cwlm anhun,
- Heb sâl, fy henwal fy hun.
- Dihengais i, da wng saint,
- I Dduw’r archaf ffaddeuaint.