Translation:Middle Cornish Charter Fragment (Add. Ch. 19491)
Gwranda, gyfaill, 1
Paid bod yn swil! 2
Tyrd lawr i orffwys 3
a thyrd yn nes ataf 4
os gwyddost beth sydd o'th fantais, 5
ac fe roddaf iti ferch, 6
un hynod brydferth. 7
Os wyt yn ei hoffi, 8
dos i'w mofyn; 9
cymer hi'n wraig. 10
Ni wnaiff sibrwd yn dy wrthwynebu 11
ac fe'i ceir. 12
Bydd yn wraig dda 13
i gadw dy dŷ. 14
Dywedaf iti'r gwir. 15
Gofyn iddi. 16
Fe'th rhddaf yn dy law 17
a chymeraf lw ar y Credo 18
nad oes debyg iddi 19
oddi yma i Bont Tamar. 20
Bydd yn dda wrthi 21
ac fe wnaiff bopeth a ofyni, 22
oblegid mae'n blentyn y gwirionedd hefyd. 23
Gad iddi gael ei ffordd ei hun. 24
Cyn ymadel, 25
cymer gusan gen i! 25a
Dos ymaith, bydd gyflym! 26
Cychwyna'n gynnar, yn awchus. Cymer ofal 27
i'w wneud yn nerfus 28
fel na wneith 29
dy wrthwynebu. 30
Ac os wnaiff ef ofyn i ti wneud rhywbeth, 31
dywed i ti dy hun, "Ni wnaf fyth!" 32
Dwed wrtho "Fe'i gwnaf os dymuni." 33
Ac er y gall, ni wnaiff ddim. 34
Yna, mi wnaiff dy barchu fel Neistres 35
ac Arglwyddes, cyhyd ag y byddi fyw. 36
Y llu a barodd a wnaeth iddo ofidio. 37
Mae ef mor foesgar 38
na wnaiff dy frifo 39
Os medri ei swyno 40
dal ef yn dynn! 41


Original: | Nodyn:Pd-old |
---|---|
Translation: | Nodyn:CC-BY-SA-3.0 |