Tro Trwy'r Gogledd/O Gylch Carn Fadryn

Oddi ar Wicidestun
Y Perthi Llwydion Tro Trwy'r Gogledd

gan Owen Morgan Edwards

Harlech


III. O GYLCH CARN FADRYN

DAU beth a wyddwn yn sicr am Leyn,—fod Pwllheli'n agos iawn i'w derfyn, a fod Carn Fadryn yn agos iawn i'w ganol. Yr oeddwn yn ameu, at hyn, mai Pwllheli oedd y lle pwysicaf ynddo, ac mai Carn Fadryn oedd ei brif fynydd. Os wyf yn methu, bydded y bai ar yr ysgolfeistri a ddysgodd imi adrodd penrhynnau'r Alban a threfi canolbarth Asia, heb son gair erioed am Bwllheli na'r Eifl na Lleyn na Charn Fadryn. Clywais ryw ledfegyn yn canu am fel yr aeth ei Wen i ffair Pwllheli, a breuddwydiaswn ers blynyddoedd fy mod yn nofio ymysg penwaig y "Pwll."

Ond, beth bynnag fu'm hanwybodaeth, daethum i wybod cymaint am Leyn ag a wn am randiroedd ereaill yng Nghymru. Yr oeddwn yn digwydd aros ym Mhwllheli yn nyddiau mwyn dechreu mis Medi, pan ddaeth cyfaill calon-gynnes i ofyn i mi a hoffwn ddod am dro o amgylch Carn Fadryn. Gan fod hynny'n meddwl tro trwy ganol rhai o ardaloedd enwocaf Lleyn, yr oedd fy mwyniant wrth feddwl am y fath dro yn fawr.

Cefais olwg ar y traeth cyn cychwyn, ac ar Garreg yr Imbill, ac ar brydferthwch y tonnau wrth dorri'n dawel ar y traeth neu'n frigwyn ar y graig. Os mai am benweig y meddyliwn pan yn blentyn, fel "biff Nefyn" neu "betris Pwllheli," gwn yn awr fod y penhwygyn y pysgodyn tlysaf sy'n nofio dyfroedd y môr, a'i fod yn byw ar finion tlysaf moroedd Cymru.

Tynnai ceffyl porthiannus ni ar garlam hyfryd o Bwllheli tua chanol Lleyn. Daethom cyn hir at y fan lle y gedy ffyrdd Aberdaron a Nefyn eu gilydd. Cyn hir iawn wedyn troisom oddiar ffordd Nefyn, i redeg o gwmpas y Garn, welem yn fawreddog yn y pellter, hyd ffyrdd troiog Lleyn. Rhedasom yn gyflym dros Bont y Rhyd Hir, a dechreuasom ddringo rhiw gweddol serth. Yr oedd cloddiau uchel o'n deutu, wedi eu gorchuddio â chwilys yr eithin, mieri, a drain. Ar lethrau'r mynyddoedd yr oedd rhedyn, gyda llain o rug, a'i gochder prydferth fel pe'n fyw neu'n disgleirio,—yma ac acw yn ei ganol.

Daethom i ben bwlch bychan, a gwelem odditanom hafn o wlad gaead,—y mae llawer ardal debyg iddi yn Lleyn. Dyma ardal Rhydyclafdy. Gwlad wastad ydyw, a chylch toredig o fynyddoedd o'i chwmpas. Y mae'n ddarlun o dawelwch wedi ei gau i mewn gan fryniau, heb neb yn meddwl am ystormydd y môr a berw'r trefi sydd y tu hwnt. Y mae capel Rhydyclafdy ar fryn bychan uwchlaw'r pentre. O'i flaen y mae carreg a hanes iddi wedi ei chludo yno i'w chadw gan fardd sy'n gwneyd daioni gerllaw. Y mae hanes y garreg wedi ei ysgrifennu odditani,—

ODDIAR Y GARREG HON
GERLLAW YR EGLWYS HON
Y TRADDODWYD Y BREGETH
GYNTAF YN LLEYN GAN

HOWEL HARRIS,

AR EI YMWELIAD CYNTAF A'R WLAD
ODDEUTU 2 O'R GLOCH DDYDD LLUN
CHWEFROR 2FED 1741.
EI DESTYN YDOEDD
"DELED DY DEYRNAS."

Ar yr ochr arall y mae englyn,—

Uwch anghof, mel adgofion—a hiraeth
Am Harris gwyd weithion;
Wele, cof—bwlpud hylon
Geiriau gras yw'r garreg hon.

1893.                     BEREN.

Can diolch i'r bardd roddodd y garreg hon yma. Cwyd hiraeth am Harris ar rai na wyddant ond am ei enw a'i waith. Pregethau tanllyd Howel Harris, dioddefiadau Morgan y Gogrwr, athrylith a ffyddlondeb llu o ddilynwyr iddynt,—y gwyr wnaeth wyr Lleyn yn foesol ac yn ddarllengar,—cychwynna hanes Lleyn y dyddiau hyn yn naturiol oddiwrth y garreg yma.

Acthom i fyny yr ochr arall i'r dyffryn bychan; ar y fron gwelsom blasdy bychan del Gallt y Beren. Cawsom Beren gyda'i weddoedd yng nghanol synynau o yd euraidd addfed, a chawsom ef yn llawn o gynlluniau am ddyfodol Lleyn,—am ffyrdd haearn ac addysg ac eisteddfodau a phob peth. Dringasom i fyny'r rhiw drachefn gan gymeryd amser i hel mafon duon ac i geisio adnabod y mynyddoedd oedd draw o'n holau, mynyddoedd Eifionnydd a Meirion. Cyn hir daethom i ben y rhiw, a gwelsom y ffordd yn rhedeg o'n blaenau rhwng dau fynydd mawr, gyda mentyll o goed neu redyn am danynt, a chrib o garreg noeth. Ar y dde gwelem eglwys Llanfihangel Bachellaeth, yng nghanol ei mynwent, heb dai yn agos ati, yn sefyll fel corlan ar fin y mynydd. Ac o'n blaen ymgodai Carn Fadryn, fel brenhines ardderchog Lleyn. Troisom o'r hen ffordd sy'n cyfeirio at odrau'r Garn, a rhedasom i lawr yn chwyrn i ddyffryn cul hyd ffordd dda. Edwards Nanhoron wnaeth y ffordd hon ar ei gost ei hun, ac y mae'r enwau roddodd ar y bont yn dangos mai yn amser rhyfel y Crimea y gwnaeth hi. Fel pe'n gwylio'r ffordd i lawr obry, safai bryncyn o graig, fel hen filwr wedi ei droi'n garreg,—a thu hwnt iddo gwelem y dyffryn yn culhau ac yn dyfnhau.

"I ble ddyfnaf y mae'r glyn cysgodion yma'n mynd?" ebe fi.

"Wn i ddim," oedd yr ateb, "ond Genau Uffern y maent yn galw'r bau ar lan y môr i lawr acw."

I lawr i lawr yr aem i'r dyffryn cul,—coed ar un ochr a drain a grug yr ochr serth arall. Hyd bennau'r gwrychoedd yr oedd gwynwydd aroglus. Gwelsom dŷ ar ochr y ffordd, a dywedir hanes am dano glywais am le arall. Ceryddodd y gŵr ei wraig, ac yr oedd y cerydd yn rhy lym. Galwyd y gŵr o flaen y seiat, a dywedwyd wrtho fod cyhuddiad difrifol yn ei erbyn,—ei fod wedi curo ei wraig. Rhoddodd yntau daw ar ei gyhuddwyr trwy sicrhau'r frawdoliaeth na cheryddodd ef mohoni ond â'r Gair. Yr oedd wedi rhoi Beibl bychan ysgwar mewn cwd rhyg, ac wedi wabio'r wraig â hwnnw. I lawr a ni yn chwyrn tua Nanhoron. Daethom at bont. Pont Rhyd y Dŵr y galwai'r bobl hi, ond sylwasom mai Inkerman oedd yr enw arni. Yn nes ymlaen y mae ffordd Balaklava. Yr oeddynt ar ganol gwneyd y ffordd ar yr adeg yr oedd aer Nanhoron yn ymladd yn y Crimea. Pan ddaeth y newydd ei fod wedi syrthio yn y frwydr o flaen Sebastopol, cerfiwyd enw Balaklava ar ffordd newydd ei dad, ac arhosodd meddyliau am y frwydr honno yn fyw yn nhrigolion Lleyn hyd y dydd heddyw. Cafodd y gŵr ieuanc hwnnw un o brif feirdd ei wlad i ganu am dano,—

Ymlusgodd y gelyn i ymyl ein ffos,
Pan wyliem ein brodyr i huno;
A'i ddrylliau borfforent dywyllwch y nos,
A tharan ar daran wnai ruthro.
 
"Ymlaen!" medd ein Cadben,—"ymlaen!" oedd ei lef,
Aem ninnau ar warthaf y gelyn;
Ychydig feddyliem mai marw 'r oedd ef
Pan oedd yn anadlu'r gorchymyn.

Wrth inni ddychwelyd canfyddem y lloer
Trwy hollt yn y cwmwl yn sylwi;
Gan ddangos ein Cadben, a'i fynwes yn oer,
Mor oer â'r bathodyn oedd arni.

Golchasom ei ruddiau â dagrau diri',
Ac ar ei weddillion syrthiasom;
Ymgiliodd y wenlloer, ond aros wnaem ni
Yn ymyl y gŵr a gollasom.


Tra gwlith ar y ddaear a niwl yn y nen,—
A chyn i'r cyflegrau ymddeffro;
Fel milwr Prydeinig gogwyddodd ei ben
I'r bedd anrhydeddus wnaed iddo.

Lle huna Cimmeriaid boreuaf y byd
Mae yntau y dewraf o'u meibion;
O Walia fynyddig, o honot pa bryd
Daw milwr fel milwr Nanhoron!

Yn lle mynd i lawr i Nanhoron, troisom i fyny hyd ochr y Garn, gan weled golygfa newydd o hyd. I lawr yr oedd Porth Neigwl, neu Hell's Mouth fel y gelwir ef ar y mapiau. Pan yrrir llong iddo ar dymhestl dywedir nad oes obaith iddi ddianc. Ni fedr fynd heibio yr un o'r ddau benrhyn sydd yn cau am ochrau'r bau, ni welir ond dinistr yn ei haros. Dywedir fod gŵr bonheddig wedi ei droi o Ffrainc mewn cwch, a'r cwch i fynd ym mraich y gwynt i'r fan a fynnai. Daeth y cwch i Borth Neigwl, a daeth y gŵr dihangol yn hynafiad teulu Nanhoron. Dull pobl Lleyn o ddweyd Lorraine ydyw Nanhoron, meddai adroddwyr y chwedl hon. Nid wyf yn ameu na fuasai'n dda gan lawer brenin Ffrengig droi rhai o deulu Lorraine i'r môr; a buasai'n dda i Ffrainc pe buasai mwy o honynt wedi eu cyflwyno i drugaredd y gwynt,—hen erlidwyr chwerw fu llawer o honynt. Ail adroddiad ydyw'r hanes, hwyrach, o hanes Joseph o Arimathea; ond y mae mor debyg i wir a llawer ystori adroddir am achau boneddigion Lleyn.

Ond dyma olwg ardderchog ar y Garn, yr ydym wedi dechreu troi am dani. Ar ei llethr uwchlaw i ni y mae ardal o dai gwynion Garn Dolbenmaen. I lawr drachefn hyd riw serth at eglwys, a phentref bychan gwasgarog yn ei ymyl. Dyma bentref Llaniestyn. Eglwys, ysgol, ty to gwellt, ac ychydig dai ereill,—dyna'r cwbl sydd yno ond y fynwent. Ond gwyddem fod dau beth yn yr ardal hon na fynasem er dim beidio eu gweled,—cartref Ieuan o Leyn a bedd Robert Jones Rhos Lan. Cawsom afael mewn gŵr ieuanc nad ydyw ei enw yn anadnabyddus it, ddarllennydd mwyn, ac felly nid yn ofer y bu ein taith.

Ydyw," meddai, "y mae Robert Jones yn y fynwent yma, a dacw Dy'n y Pwll, cartref Ieuan o Leyn."

Cyfeiriodd ein sylw at ffermdy gwyngalchog, rhyw bedwar hyd cae uwch ein pennau, rhyngom a'r Garn. Yr oedd niwl yn crwydro hyd wedd urddasol y Garn, a honno'n edrych i lawr arnom dros gartref Ieuan o Leyn.

Ond cyn dringo'r Garn, troisom ein sylw at yr eglwys. Y mae rhesi o goed cysgodol o bobtu'r dramwyfa at ddrws yr eglwys; ac y mae eu cysgodion yn help i ddwyshau meddwl yr hwn elo iddi. Y mae golwg hynafol a dieithr ar yr eglwys pan eir iddi gyntaf. Gwelir eglwys ddwbl, gyda phedair colofn; y mae llofft uwch ben yr hen ddrws. Saif bedyddfaen hen ar ein cyfer, a charreg fedd ar ei phen yn y mur yn ei ymyl. Ar y garreg fedydd y mae llewpard rampant,—gallai fod yn rhyw greadur arall, o ran hynny, yn llew neu'n ddraig goch. O gylch y llun anifail y mae'r ymadrodd hwn,—

HIC JACET SEPULTUS
EVANUS SAETHON DE SAETHON
ARMIGER
OBIT XXIII FEBRUARII ANNO DNI 1639.

Os darllennais yr ysgrif yn iawn, dywed mai "yma y gorwedd yn gladdedig Ifan Saethon o Saethon, yswain; bu farw Chwef. 23, 1639." Nis gwn ddim o'i hanes, ond gwelir iddo gael marw ar fin y Rhyfel Mawr. Y mae'n ddigon tebyg mai o'r gwpan sydd yn y bedyddfaen y bedyddiwyd ef, fel cenhedlaethau o'i flaen.

Y mae pethau dyddorol yn yr eglwys. Y mae yno elor feirch; bu'n dda wrthi i gludo ffermwyr ochrau'r Garn ar hyd llwybrau anhygyrch i dy eu hir gartref. Yn y llofft uwchben y mae cist i gadw cofnodion y festri; y mae yno hefyd efail gŵn a'r dyddiad 1750 arni. Byddai cŵn y boneddigion a'r ffermwyr yn dod gyda hwy i'r eglwys unwaith, a byddai cryn drin ar y cwn weithiau. Pan ddechreuent ymladd, cymerai'r clochydd yr efail gŵn, a gwasgai hi nes yr ymsaethai ei throion cuddiedig allan, er mawr ddychryn i'r cwn a wthid ymaith ganddi. Os na welaist fegin gŵn, ddarllennydd, gwna nifer o groesau, a'r hoelen yng nghanol pob croes yn llac. Rhwyma bennau y croesau wrth eu gilydd, yn un gyfres hir, a bydd gennyt efail gŵn.

Y mae pen yr allor yn llai dyddorol, er mai yn y pen hwnnw y mae'r adeiladwaith hynaf. Y mae cymrawd o Goleg yr Iesu, Ellis Anwyl wrth ei enw, wedi ei gladdu yno er 1724; ac y mae coflech oreuredig yn dweyd am y gogoniant tanbaid y mae wedi mynd iddo.

Ond y mae'n bryd i ni fynd o'r eglwys, gan fod llawer o ffordd eto cyn y byddwn wedi amgylchu'r Garn. Awn at fedd Robert Jones Rhos Lan,—cawn weld ei gartref hefyd cyn diwedd y daith. Y mae'r bedd ym mhen uchaf y

fynwent, wrth y mur isel sydd rhyngddi a

ffordd gul. Oddiyno gwelir fod Llaniestyn mewn pantle hyfryd, a fod y fynwent ar lethr. Y mae tai ar dair ochr iddi. Ymgyfyd y Garn uwch ei phen, a niwl parhaus a welsom ni ar ei chopa. I'r cyfeiriad arall gwelem Fynydd y Rhiw'n codi'n las dros y gefnen. A dyma sydd ar y bedd,—

Er cof am
MAGDALEN,
Anwyl briod y Parch. Robert Jones,
Ty Bwleyn,
Bu farw Ebrill 25ain 1813,


Mewn lletty gwely gwaelwedd—yn dawel
Diau mae'n gorwedd;
Cyfyd o lwch y ceufedd,
O lun gwael yn lân ei gwedd.


Hefyd y Parch. ROBERT JONES,
Ty Bwlcyn.
Hunodd yn yr Iesu Ebrill 18fed 1824
yn 84 mlwydd oed.
Wedi bod yn pregethu yr efengyl am dros 60ain
ml. yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd.


Gorweddaf, hunaf mewn hedd—fer ennyd
I fraenu mewn llygredd;
Er y llwgr a'r hyll agwedd,
Onid gwych fydd newid gwedd.

Pwy ysgrifennodd Gymraeg gloewach? Pwy ymdrechodd fwy dros addysg Cymru yn amser yr anwybodaeth mwyaf? Erys ei Ddrych yr Amseroedd yn un o glasuron Cymru tra'r iaith mewn cof. Gresyn fod ei Leferydd yr Asyn a'i freuddwydion yn anhysbys hyd yn oed i rai sy'n gwybod yn dda am Rawn Sypiau Canan.

Heddwch i'r pregethwr ffyddlon a'r hanesydd campus,—un welodd ddrych amseroedd rhyfedd iawn.

Ond ein prif neges oedd ymweled â chartref Ieuan o Leyn. Tybiem o'r pentref ei fod rhyw hanner y ffordd rhyngom a chreigiau'r Garn. Cawsom lwybr troed oddiwrth yr ysgol, a dechreuasom dynnu i fyny hyd weirgloddiau a ffriddoedd. Collasom y llwybr yn fuan; ac oni bai mai haf oedd, gallasem fynd i byllau neu ffosydd. Ond yr oedd y ty bychan tlws yn y golwg o hyd, a'r coed y tu hwnt iddo, a'r Garn fawr ddifrifddwys yn ei chymylau o hyd. Yr un oedd y blodau bach siriol a'r blodau welir o gylch cartref pob bardd Cymreig, byddaf yn meddwl fod rhai blodau a beirdd yn mwynhau yr un math o awyr a gwlad. Wrth ddringo i fyny dychmygwn weled y plentyn

"Pan wrth y ffrwd yn eistedd
I wylio'r pysgod mân,
Neu'n rhedeg dros y werdd-ddol
Yn uchel iawn ei gân."

Heibio'r goeden ddraenen gysgododd Ieuan ymhell cyn iddo ddweyd beth sy'n hardd, daethom at y ty. Y mae wyres i Ieuan yn byw yno'n awr, ac yr oedd ŵyr ar ymweliad â'r lle y diwrnod hwnnw. Cawsom bob croesaw a charedigrwydd,—yn wir, ni welais yn unlle bobl mor drwyadl garedig a phobl Lleyn. Y mae'r olygfa o Dy'n y Pwll yn un sy'n esbonio llawer ar fywyd Ieuan o Leyn. Draw o'n blaenau yr oedd Porth Neigwl, a Phen Cilan a Mynydd y Rhiw o bobtu iddo. Ar y gwaelod odditanom yr oedd Llaniestyn dawel, fel pe mewn mwy o bant na'r môr. Rhwng y llan a'r môr yr oedd gwlad fryniog, a choed duon, ac ambell adeilad hyd—ddi.

"A oes rhywbeth enwog yn y fan acw?" ebe fi.

"O oes," oedd yr ateb, "y mae ysgol Botwnnog yn y fan acw, a J. R. Williams."

Cerddodd Ieuan o Leyn lawer i ysgol Botwnnog, yr ysgol sydd wedi bod o gymaint bendith i fechgyn Lleyn, a hawdd oedd iddo gyfeirio adre at y Garn o bob man. Ymgyfyd y Garn Fadryn yn fawreddog y tu ol i Dy'n y Pwll, ac yr oedd heulwen dlos yn chware ar ei phen rhwng y cymylau. Y mae'n ddigon tebyg mai'r cwmwl acw ddenodd sylw'r plentyn yn un o'r pethau cyntaf; a phan adroddodd adgofion ei febyd, daeth niwl pen y Garn i'w feddwl yn gyntaf peth,—

"Fe wisga'r cwmwl gwanllyd
Wrth gilio lawer gwedd,
Bydd weithiau'n wgus hynod,
Ac yna'n llawn o hedd;
Gwna weithiau wisgo mantell
Orbruddaidd galar du,
Pryd arall chwery'r wawrddydd
O gylch ei odrau'n gu."

Dyna ddarlun cywir o'r Garn fel y gwelsom ni hi. Edrychodd Ieuan oddiar ei bron i'r pellter draw ac i ddyfodol ei fywyd. Wrth edrych ar y môr pell, ac wrth feddwl am ras yr efengyl, daeth ato awydd mynd draw i adrodd am yr Iesu wrth frodorion Demerara,—

"Pan hwylus ddringwn ochrau
Carn Fadryn, bryn y bri,
Er gweld y llongau'n nofio
Ar wyneb glas y lli,—
Gwnai llygaid craff y nefoedd
Fy ngwylio bob rhyw gam,
A'i llaw fy hoff amddiffyn
Fel tyner law fy mam.

"Er colli rhiant hawddgar,
Er claddu mam a thad,
Er croesi dyfnion foroedd
I bell estronol wlad;
Er crwydro drwy beryglon,
Er mynd o fan i fan,
Ces gwmwl Duw yn gysgod,
A'i ras yn werthfawr ran."


Wedi golwg unwaith wedyn ar y cymylau ar y Garn,—"Beth sy'n hardd? Y cwmwl goleu,—ar Graig Bwlch y Groes, ar y pentref a'r fynwent, ac ar y môr draw, troisom i lawr yn ol. Ym Medi 1872 yr oedd Ieuan o Leyn ar ymweliad â'r lle hwn, ac yn dwedyd,—

"Mae popeth yma'n debyg
Ag oedd flynyddau'n ol,
Y defaid borant ar y bryn,
A'r gwartheg ar y ddol.

"Mae'r bechgyn yn y pentref
Yn chware'n llawn o stwr,
A'r eneth fwyn wrth odro'r fuwch,
Yn meddwl am gael gŵr.


"Caf wrando yr emynnau
A ddysgais gynta erioed,
Pan oeddwn yn fachgennyn llon
Rhwng pedair a phump oed."


Ac wrth weled y fynwent odditano, yn ddelw o orffwys y rhai lluddedig, lleddfodd ei gân,—

"Mynd heibio fel yr afon
Mae dyddiau goreu'r oes,
A dweyd am Ieuan wneir cyn hir,—
Ei einioes yntau ffoes."


Gan gydweled ag Ieuan fod y byd yn llawn o degwch a'r nef yn gwenu'n gu," troisom ein cefnau ar Laniestyn dawel, ac ail gychwynasom ar ein tro o amgylch y Garn. Yr oedd y mynydd mawr yn newid o hyd, a buom yn prysuro i fyny hyd gwm oedd rhyngddo a bryniau sy'n sefyll rhyngddo a'r môr. Cawsom ennyd o gwmni un o feibion Moses Jones,—gŵr a goleu diddan yn chwareu yn ei lygaid, a danghosodd i ni gyrrau'r wlad. Yn union o'n blaenau yr oedd agorfa yn y mynyddoedd, a gwelem Fynydd Nefyn yn codi'n las dros wastadedd. Arosasom beth ar gyfer Ty Bwlcyn, wrth draed y Garn, ond nid oedd gennym amser i fynd i mewn i weled hen gartref Robert Jones Rhos Lan. Melus oedd syllu ar y fan yr ysgrifennwyd "Drych yr Amseroedd" ynddo. Dyma ni wrth gapel y Dinas,—un wnaed yn adnabyddus ymhell o Leyn oherwydd ei gysylltiad â Moses Jones,—ac yn fuan iawn gwelem y môr.

Am ennyd anghofiasom y Garn, a chawsom olygfa ar wastadedd a môr nad anghofiaf hi'n hir. Wrth deithio hyd ochr y Garn ac i lawr at Felin Madryn, yr oedd gwastadedd cyfoethog fel meusydd canolbarth Lloegr odditanom. Ar ei fin yr oedd Porth Dinllaen, lle tawel hyfryd yn awr, ond lle welir yn nychymyg llawer un mor brysur a Chaer Gybi neu Lerpwl. Dros y môr gwelem ymylon Mon, i fyny at Gaer Gybi. Ar yr ochr arall ymgodai Carreg y Llam a'r Eifl megis o'r môr. Ymagorodd yr olygfa o'n blaenau ar unwaith, yng ngogoniant lliwiau tyner hwyr brydnawn ym Medi.

Yr oedd cartref un arall o feibion Carn Fadryn heb i ni ei weled. Gwyddem fod unigedd a thristwch ar gartref gwag ac anrheithiedig Syr Love Jones Parry. Yr oeddwn wedi darllen hanes gwerthu llestri arian yr hen deulu i estroniaid yn Llundain. Clywswn fod ei ystafell wely eto fel yr oedd pan gyrhaeddodd hi i farw—ei glud gelfi fel y gadawodd hwynt pan wysiwyd ef o flaen ei Farnwr. Na chofier ei feiau, er lliosoced oeddynt, efe oedd un o arwyr cyntaf gwerin ddeffroedig Cymru. O fysg tirfeddianwyr hynod, hyd yn oed ymysg eu rhyw, am eu gorthrwm ac am eu gelyniaeth at ryddid ac addysg, cododd ef i arwain gwerin i fuddugoliaeth. Bu'n anwylyd sir Gaernarfon; ac y mae enw "Syr Love," er pob ffaeledd, yn anwyl eto. Meddai gyfoeth, athrylith, a chariad gwlad,—ni fu neb erioed yn gyfoethocach; ac ni fedrodd neb wneyd ei hun yn fwy tlawd. Heddyw y mae llawer yn cofio am y fuddugoliaeth heb son am ei enw, ac ni ŵyr neb pa un ai gwesty ynte cartref rhyw ddieithr ddyn fydd cartref y rhai olrheinient eu hachau i Lywelyn Fawr.

Ond dyma ni mewn coed hyfryd, a'r dail yn dechreu troi eu lliw yn y fan gysgodol dawel. A chyn i mi gael amser i sylweddoli ymhle yr oeddwn, wele blas Madryn o'n blaenau. Gwelais lawnt yn disgyn yn raddol oddiwrth wyneb y plas at y ffordd, a thybiwn mai dyma'r lle tecaf a welais erioed. O flaen y plas y mae rhag-adeilad, a'r drws i'w weled trwy fynedfa. Y mae grisiau'n arwain i fyny at y fynedfa hon, ac y mae'r mwswgl a'r glaswellt yn cael tyfu hyd—ddynt yn ddiwahardd. Y tu ol i'r rhag—adeilad ymestyn gwyneb hir y ty, tŵr yn y canol, ac aden o bobtu. Y mae popeth ar ddull henafol,—y twll baredig yn y drws i siarad drwyddo, a lle i'r saethyddion,—ond gwelir fod yno le i holl gysuron oes heddwch a llwyddiant. Peth prudd iawn ydyw gweled cartref mor gysurus yn wag, a'r aer olaf wedi marw. Prudd yw meddwl am ddiwedd teulu anrhydeddus, hyd yn oed pe diweddai fel y ffordd Rufeinig enwog honno,—mewn cors. Prin y gwelais beth pruddach erioed na chartref fu mor anwyl i werin Cymru wedi mynd mor lwyr ddiobaith.

Dros y plas gwelir copa Carn Fadryn. Bu agos i mi ddychrynnu pan godais fy ngolwg ati,—edrychai mor agos, fel pe'n gwylio Madryn, ac yr oedd cymylau fel gwisgoedd gweddw dros ei hysgwyddau. Am ennyd, bum yn ansicr pa un ai drychiolaeth ynte'r Garn oedd. Temtir fi i gymharu dyheadau Ieuan o Leyn a Syr Love wrth edrych arni pan yn blant,—mae ei gwedd yn fwy cuchiog uwchben bwthyn Ty'n y Pwll nag wrth ben plas Madryn,—ond ni waeth i mi heb fynd dros yr hen ystori am fendithion tlodi ac am felldithion cyfoeth.

O wyneb y plas gwelir coed tewfrig, ond o un cyfeiriad. Ac yn y cyfeiriad hwnnw ymgyfyd yr Eifl draw yn y pellter, a'u glas gwan yn hyfryd i'r llygaid trwy wyrddlesni'r coed. Ac i lawr odditanodd y mae Nefyn a'i morfa.

Gadawsom y plas gwag, ac aethom ymlaen. Yr oeddym erbyn hyn wedi bod o amgylch y Garn, yr oedd Nefyn odditanom, yr Eifl ar ein de, ac yr oedd ein gwynebau tua Phwllheli. Arweiniai'r ffordd ni drwy goed, ond yr oedd y môr a'r gwastadedd yn y golwg rhyngddynt o hyd. A phan ddaethom o'r coed i ffordd uchel fynyddig, gwelem yr Eifl, yn fawreddog lonydd, a niwl goleuwyn ar eu pennau. Yr oedd yn dechreu nosi erbyn hyn, ac yr oedd y dyffryn odditanom yn mynd yn aneglurach, a chopau pigfain yr Eifl yn duo rhyngom a'r awyr.

Daethom yn ol i ffordd Pwllheli, a gwelem Garn Fadryn o'n holau. Yr oeddym wedi bod o'i hamgylch ac wedi gweld hyfrydwch Lleyn. Oddiyno i Bwllheli ni siaradsom ond ychydig, nid am nad oedd gennym ddim i'w ddweyd, ond oherwydd fod ein meddyliau'n llawn.

Nodiadau[golygu]