Tro Trwy'r Gogledd/Pen y Bryn

Oddi ar Wicidestun
Llan ym Mawddwy Tro Trwy'r Gogledd

gan Owen Morgan Edwards

Bryn Melyn


VII. PEN Y BRYN.

Yn oedd croesi'r Berwyn i gartref Ceiriog yn beth y rhoddaswn fy mryd arno er ys blynyddoedd lawer. Y mae llawer o amser er hynny, ond yr wyf yn cofio'n dda fod y wlad y tu hwnt i'r Berwyn, a'r mynyddoedd yr oedd Ceiriog mor hoff o ddweyd ei fod yn fab iddynt, yn fwy mawreddog a thawel nag yr oeddwn wedi dychmygu am danynt, er mai dychymyg byw plentyn oedd gennyf yr adeg honno.

Gadawsom y trên bore yng ngorsaf fechan Llandrillo, ar waelod Dyffryn Edeyrnion. O'n blaenau, dros wastadedd cul dyffryn Dyfrdwy, codai ochrau'r Berwyn, porfeydd gwartheg a defaid, sydd yn gwahanu gwlad Dyfrdwy oddiwrth wlad Ceiriog. Bore haf oedd, a hawdd y gallem gredu fod heddwch a llawnder yn teyrnasu bob amser yn y wlad hyfrydlon hon, hyd yn oed

"Pan fo rhyfel yn y byd,
Godrau Berwyn gwyn eu byd."


Wedi mynd drwy bentre Llandrillo, a chroesi afonig, yr ydym yn dechreu dringo ochrau'r Berwyn. Cawn ffordd yn myned gydag ochr uchaf clawdd ffriddoedd, ac yr ydym graddol esgyn uwchlaw Dyffryn Edeyrnion, ac yn cael golwg sy'n ymehangu o hyd ar wlad Owen Glyn Dŵr ac ar wlad yr Ysgol Sul. Ond dylid cofio fod Dyffryn Ceiriog erbyn hyn mor hynod am ei Hysgol Sul ac am ei gwerin feddylgar ag ydyw gwlad cryd yr holi ac efrydu'r Ysgrythyrau. Wrth edrych ar fynyddoedd mawr Penllyn draw, daw teyrnged mab Dyffryn Ceiriog i Charles o'r Bala i'r cof,—

"Ei einioes megis coelcerth wen
Oleuodd ein mynyddoedd;
Ond tymor bywyd ddaeth i ben,
Ac aeth y fflam i'r nefoedd;
Bu farw Charles, os marw yw
Ymollwng i orffwysfa,
Ond llosgi mae y marwor byw
Adawodd Charles o'r Bala."

Ond gadewch i ni droi ein wynebau tua'r mynydd, a dacw ben Cader Ferwyn yn edrych arnom. Nid oes fawr o lun ar y ffordd; bu unwaith yn ffordd dramwyol, pan fyddai gyrroedd gwartheg, wedi eu pedoli yn y gwaelod, yn cael eu gyrru ar hyd—ddi i farchnadoedd Lloegr. Heddyw y mae unigedd mawr. Gellid treulio dyddiau yma heb weled neb ond defaid ac adar y mynyddoedd. Rhedyn a grug,—ceir hwy yma mewn gwyrdd a choch nad oes eu tlysach yng ngerddi'r de. Nid ysblander hyf sydd yn eu lliwiau hwy, ond tynerwch gostyngedig purdeb a mawredd y mynydd. Y fantell Fair euraidd fechan, ceir hithau'n gwenu oddiar lawer llechwedd o laswellt byrr a gwyrdd. Mae pob peth yn fawreddog, pob peth yn wylaidd, pob peth dan ddistawrwydd nerth yma. Nid yw rhuthr y storm ond swn bychan byrr ei hoedl dros y mynyddoedd mawr, y tawelwch distaw yma sy'n rhoi syniad i ni am wir gadernid.

"Clywir llais y dymhestl gref,
A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau'r nef,
Ond huno wna'r mynyddoedd."

Bum yng nghanol storm yn y grug, ac yr oedd yn fawreddog iawn. Ond tawelwch hirddydd haf sydd ar y mynyddoedd heddyw. Y mae ambell lais er hynny. Weithiau croesem ffrwd o ddwfr glân grisialaidd, yn dwndwr ac yn chwerthin wrth lithro dros y graig. Dro arall clywem fref dafad, ac ar ddamwain adlais cri uchel o'r gwastadedd odditanodd. Ond dacw ehedydd bach, yr aderyn y mae Ceiriog mor hoff o ganu iddo, yn codi'n uwch uwch i'r awyr lâs, ac yn tywallt nodau melus i lawr. Ac onid yw melusder y nodau hynny yn y gân,—

"Clywch, clywch foreuol glod,
O fwyned yw'r defnynnau'n dod
O wynfa lân i lawr.
Ai mân ddefnynnau cân
Aneirif lu ryw dyrfa lân
Ddiangodd gyda'r wawr!

"Mud yw'r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth gryn;

Gwrando mae yr aber gain,
Yn y brwyn ymguddia'i hun.
Mor nefol swynol ydyw'r sain
Sy'n dod i ddeffro dyn.

"Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd
Yn uwch, yn uwch o hyd;
Cân, cân dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
Adawodd boen y byd—
Canu mae, a'r byd a glyw,
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne;
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe."

Dyma ni ar ben y bwlch. Yr oedd y ffordd wedi colli mewn llawer man, ond cawsom olion o honi, a dyma ni'n gadael Cader Ferwyn ar y dde, ac yn cychwyn i lawr i Lanarmon. Y mae cwm hir iawn o'n blaenau, yn fynydd—dir am filltiroedd, a thraw yn ei waelod gwelwn y gwrychoedd a'r caeau yn dechreu. O darddle'r afon Ceiriog, y mae ei dyffryn yn debyg iawn i ugeiniau O ddyffrynnoedd Cymru, caeau gwyrddion cysgodol a mynyddoedd eang mawr yn gorwedd o bobtu iddynt. Ac oni bai am Geiriog,—er fod Huw Morus yn un o feibion yr un dyffryn,—ni buasai pob Cymro'n gwybod mwy heddyw am yr ardal fynyddig hon nag am laweroedd o ardaloedd tebyg yn ein gwlad. Ond cofia llawer un y gallai awdwr "Alun Mabon" ddweyd am dano ei hun hefyd,—

"Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngo a'r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
Lle nad oedd carreg ateb."

Wrth fynd i lawr i gyfeiriad y dyffryn, mae adgofion am ganeuon Ceiriog yn lliosogi. Onid dyma'r olygfa oedd o'i flaen pan yn breuddwydio yn "y gwely o Gymru,"—

"Ar fawn dolydd Ceiriog mae'm pen,
A'm traed a gyrhaeddant Lanarmon;
Ac un o bob ochr im' mae
Moel Sarffle a Phen Cerrig Gwynion!"

Wedi hir daith dyma ni yn y caeau, ac y mae ffordd rhwng dau wrych yn newid hyfryd ar ol blino bron ar brydferthwch eangderoedd y mynydd gwyllt. Awn heibio capel Llywarch; dacw Ddolwen ar y dde, cawsem groesaw mawr yno pe amser i droi, ac ysgwrs am hanes y byd, ac am gynnwys y Faner; y mae'r Sarffle yn rhywle yn ymyl, gyda'i hadgofion am hanes crefydd y dyffryn.

Yn y man down i bentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Ar y dde y mae Nant y Glog, ac yno y mae cartref tri Richard Morris. I ddau o honynt hwy y mae Dyffryn Ceiriog i ddiolch am lawer o'i ddiwylliant a'i feddylgarwch, a da gennyf glywed fod yr ŵyr yn meddu gallu a dylanwad y tad a'r taid. Yr oedd y Richard Morris adwaenwn i, y canol o'r tri, yn un o'r gwŷr mwyaf galluog a mwyaf dymunol a adwaenais erioed,—gŵr teilwng i fod yn dywysog gwlad oedd. Y mae Migin yn ymyl; y mae'r gŵr yn frawd i wr Pen y Bryn. Os hoffwn droi yno, cawn luniaeth i'n nerthu i ddringo'r bryn. "Na, gwell i ni fynd yn ein blaenau."

O'r gore, trown ar y chwith, a dechreuwn ddringo'r bryn. Yr ydym yn rhy flinedig i edrych ar y dyffryn,—cawn ei weled yfory wedi dadluddedu. Y mae'r ty'n union fel y darlunia John Thomas ef. Yr oeddwn wedi gweled y gŵr o'r blaen, yn chwilio am hesbwrn gollasid, ac wedi gwneyd fy meddwl i fyny ei fod yn un difyr ac—ond cyn i mi gael dweyd wrthych ddim o'i hanes, dyma ef yn ein cyfarfod. Y mae gwên ar ei wyneb o hyd, y mae'r llygaid duon yn llawn o chwerthin at yr ymylon bron bob amser, ac wrth ysgwrsio ag ef ar hyd y mynyddoedd, yn fwy na thrwy ddim arall, y deuais i i ddeall mwyaf ar y teimladau roddodd fod i rai o ganeuon perffeithiaf Ceiriog. Mae Mrs. Hughes yn nith i Geiriog, a hi sy'n awr yn hen gartref y bardd. Pryd o fwyd mewn ty croesawgar yn Nyffryn Ceiriog,—y mae pob ty yn groesawgar yno o ran hynny, a chwsg ar ol crwydro hyd y mynyddoedd,—dont yn ol mewn adgof i ddadluddedu'r meddwl wedi llawer adeg o orlafur a phryder. Cawn olwg ar rai o bobl Llanarmon,—hwy ddarlunnir yng nghaneuon Ceiriog. Ond gadewch i ni orffwys heno, ac adlais ambell gân am y mynydd yn dwyn breuddwydion esmwyth,—

"Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon;

Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd ynghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
Wyliant uwch eu pennau'n fud."

———

"Glogwyn anwyl, hoff gan i
Yw hamdden am funudyn,
Taflu carreg i fy nghi,
Neu eistedd ar dy gribyn;
Gwylio'r afon glir islaw,
A gollwng fy myfyrion
I'r terfysglyd drefydd draw,
Ym miwsig ei murmuron.'

———

"Gyda phraidd y mynydd gwyllt,
Tynghedwyd ni a'n dyddiau;
Llwybrau defaid, wyn a myllt,
Yw'r llwybrau deithiwn ninnau;
Weithiau tan y creigiau certh,
Yng nghanol y mynyddoedd,
Dim i'w wel'd ond bryniau serth
A thyner lesni'r nefoedd."

———

Y mae llawer blwyddyn faith er pan oeddym yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ac er pan adewais fy nesgrifiad egwan o'r fro ar ei hanner. Nid yw'r brodyr yn byw ym Migin a Phen y Bryn mwy. Yn wir, nid wyf yn sicr a oes rhywun yn byw yn hen gartref Ceiriog; hwyrach i mi glywed mai ceidwad helwriaeth sydd yno.

Ond y mae enw Ceiriog yn dod yn fwy adnabyddus o hyd; a'i ganeuon yn fiwsig beunyddiol, fel yr hen benhillion telyn, hyd yn oed i rai na wyddant ei enw. Yn ddiweddar cefais y fraint o ddarllen llu o'i lythyrau at gyfeillion. Teimlwn eu bod yn rhoi esboniad i mi ar beth o'i ddylanwad; teimlwn mai Ceiriog y dyn, syml a naturiol fel plentyn, yw Ceiriog y bardd. Y mae rhywbeth yn dryloew a gonest iawn ynddo; nis gallwn ddychmygu y medrai ffugio teimlad na gwyrdroi'r gwir. Unwaith y gwelais ef erioed, cip arno yn ei orsaf wrth basio i arholiad, a'r un argraff adawodd yr olwg arno ag a adawodd ei lythyrau a'i ganeuon. Dyn uniawn, yn canu'r gwir o'i galon, yw i mi.

Yr oedd ganddo beth meddwl o hono ei hun fel bardd, ar brydiau. Dro arall, ni chanai byth mwy. Ond yn ei afiaith ac yn ei brudd-der yr oedd yr un mor dryloew onest. Codid ef i nerth ambell dro, hefyd, wrth feddwl am alluoedd oedd uwch nag ef. Breuddwydiodd lawer am Brifysgol i Gymru, ac am Eisteddfod ail—anedig, gwnaeth ei ran at sylweddoli'r ddau freuddwyd.

Gonestrwydd syml Ceiriog sy'n cyfrif am swyn ei gân. Natur hoffus, hapus, oedd ei natur ef. Ni threiodd fod yn neb arall. Hiraethai am Lanarmon, am ei fam, am ddyddiau ei blentyndod,—a rhoddodd ei hiraeth ar gân. Ac yn hyn bu'n adlais i fywyd gwerin bur, naturiol, a gonest. Yn ei gân adnebydd Cymru ei llais ei hun.

Nodiadau[golygu]