Tro Trwy'r Gogledd/Ty'n y Groes

Oddi ar Wicidestun
Harlech Tro Trwy'r Gogledd

gan Owen Morgan Edwards

Llan ym Mawddwy


V. TY'N Y GROES.

MAE cred etifeddol ym mhobl rhannau o Feirion nas gallant gwbl wella o afiechyd heb fynd i dreulio wythnos ar dywod yr Abermaw. Y mae "mynd i'r Bermo" neu "fynd i'r môr,"—dwy frawddeg gyfystyr i bobl y tir yr wyf yn meddwl am dano,—yn dod yn naturiol i'r meddwl pan fydd y meddyg wedi peidio rhoddi ei fys ar yr arddwrn, a phan fydd y botel ola o aqua lliwiedig wedi ei dihysbyddu fesur llond llwy de.

"Aros mae'r mynyddau mawr," aros mae afon Mawddach, ac aros y mae pobl y Bermo. Eto y mae cyfnewidiadau mawrion wedi mynd dros yr ardal swynol hon er pan y mae rhai canol oed yn cofio. Nid oes brysurdeb yn awr yng nglanfa Aberamffra; a cha afon Mawddach lonydd gan gychod, oddigerth gan ager-fad bychan fydd yn gwthio yn erbyn ei thonnau yn yr haf pan fydd y tywydd yn foddlon, a phan fydd digon o "fyddigions" am dreulio peth o'u gwyliau ar yr afon.

Wrth "ŵr bynheddig," rhif liosog, "byddigions,"—yn y Bermo y meddylir gŵr yn siarad Saesneg, yn gwisgo clos pen glin, yn darllen papur newydd, ac yn ceisio mwynhau ei hun. Yn eu plith eu hunain geilw'r gyrwyr a'r cychwyr ef weithiau'n "bysgodyn" hefyd. Dywedai gyrrwr wrthyf unwaith, gan gyfeirio fy sylw at gwch rwyfid gan un cychwr—"Dacw Owan Sion wedi câl pysgodyn." "Ym mhle gwelwch chwi'r pysgodyn?" ebe finnau. "Dacw fo, ym mhen ol y cwch." Nid oedd yno ond Sais tew, yn eistedd mor dawel a phe buasai'n ddelw llareidd—dra.

Ychydig o bobl y wlad, rhagor a fyddai, sydd yn y Bermo. "Byddigions" sydd yno yn awr, "byddigions" ar y tywod yn gwrando ar "fyddigions" yn nad-ganu ac yn lluchio eu heglau o'u cwmpas, "byddigions" ar y stryd, "byddigions" yn y cychod, "byddigions" yn yr orsaf, "byddigions" ymhob man ond yn y capel. Mae pobl y Bermo yn naturiol garedig, ac nid oes bosibl cael gwestywyr gonestach na mwy gofalus, a pheth rhyfedd ydyw fod eu hysbryd a'u hiaith mor Gymreig tra'n mwynhau cymdeithas "byddigions" am rai misoedd o bob blwyddyn. Llenyddiaeth y Bermo, tai'r Bermo, cychod y Bermo, er mwyn y "byddigions," erbyn hyn, y maent oll yn bod. Nid oes gennyf air, cofier, i'w ddweyd yn erbyn y "byddigions." Gwir fod llawer o honynt wedi gadael eu h ar eu holau, ac yn dynwared llediaith werinaidd Birmingham. Ond ni waeth beth adawsant ar eu holau os daethant a'u pwrs gwyliau; ac er cymaint gwahaniaeth sydd rhwng Saesneg a Saesneg, y mae delw'r frenhines yr un fath ac aur o'r un ansawdd o ba boced bynnag y dêl.

Bum innau yn y Bermo, yn nyddiau Medi, a blinais ar y "byddigions" yn lân. Gwell gennyf bobl garedig frawdol y Bermo na hwynt o lawer, ac eithrio rhyw deulu neu ddau sy'n ceisio dynwared dull eu "lojars" o fyw. Y diwrnod cyntaf, pan godais yn y bore,—wele'r môr o flaen fy ffenestr, yn uchder ei lanw gogoneddus, a thybiais ei fod yn dod a iechyd a gorffwys gydag ef o rywle o wledydd pell. Croesaw, hen donnau anwyl, yr wyf fel pe'n adnabod pob un o honoch,—

"Mae gan yr enaid gydymdeimlad syn
A swn eich pell—ddisgyniad, donnau per,.
A'ch adsain wan a gollaf ynnof f'hun
Ar ryw bellderoedd o feddyliau prudd
A redant hyd fy anfarwoldeb pell."

Anodd ydyw meddwl meddyliau fel hyn yn hir, oherwydd wele'r "byddigions" yn dechreu cymeryd meddiant o lan y môr. Mae rhai yn cario llian ar eu breichiau, llian ymsychu, a gwnant hynny mor wych rodresgar ag y gwelais hwy'n gwneyd yn restaurants Llundain a shaving saloons Birmingham. Dacw lusgo hen blatfform i'r traeth sy'n melynu yn yr haul wedi i'r don fod yn chware drosto. Dacw ddyn yn esgyn arno, dacw redeg o bob cyfeiriad, ac ymdyrru o'i flaen. Wele ef yn rhoi ysgrech, yn rhoddi hergwd i un goes, yna hergwd i goes arall; wele ef yn rhoi un law ar ei ochr, ac yna yn ei gyfeirio i fyny,—O fel y mae'r byddigions yn hiraethu, ar y traeth barbaraidd hwn, am y Little Slum Music Hall. Mae'r môr yn cilio, mewn ffieidd—dod, ac yn cras ruo ei ddirmyg o'r dynionach a'r merchetos ynfyd. Cyn hir y mae hanner gwlad o dywod o'm blaen, a'r môr yn bell bell. Nid oes yma orffwys i glust na llygad; mae eithafion dau le mwyaf anifyr y ddaear wedi ymgymysgu,—tref or-boblog a diffaethwch, mangre haint a chartref newyn.

Onid ellir dianc i rywle nes y bo'r "byddigions" wedi troi adre? Maent yn mynd yn lluoedd heddyw; gwelaf "wisio gwd bei," chwedl pobl y Bermo, ar lawer carreg drws. Gallwn fynd draw hyd y forlan yn ddigon pell o swn y "canu," a chael rhyw Gymro gwladaidd, diwylliedig, ac yr wyf bron a chredu fod gwladaidd a diwylliedig yr un peth,—i ymgomio am ryw fardd ac i deimlo fel

"O flaen efrydion maith y môr,
A'r golwg ar ei ddyfn di—ddôr,
Ymloewa bod i'w ddyfnder pur
A'i anfarwoldeb ynddo'n glir,
Ymbura'r enaid trwyddo i gyd
Mor bell i maes o dwrf y byd,
Nes derbyn ar ei ddyfnder gwell
Ser tragwyddoldeb a'r dydd pell."

Neu, oni allem gael cerbyd, a gyrru i rywle i bellderoedd rhyw gwm mynyddig, lle na chlywem ond murmur ambell ffrydlif, a distawrwydd y mynyddoedd,—ni chredaf byth nad oes rhyw fath o ddistawrwydd y gellir ei glywed ar y mynyddoedd. Dyna Ddrws Ardudwy, neu Fwlch Tuthiad, neu Dy'n y Groes. Ty'n y Groes,—nid oedd gennyf ond adgof dyddiau pell am y lle hwnnw, gadewch i ni fynd yno.

Cawsom addewid am gerbyd i redeg gyda min afon Mawddach,—rhyw ddeuddeng milldir o ffordd, i Dy'n y Groes. Cawsom gwmni hefyd, er nad oeddym wedi bargeinio am hynny; yr oedd hanner dwsin o "fyddigions" yn mynd i'r un cyfeiriad. Yr oeddynt hwy yn nhu fewn y cerbyd; ac yr oeddym ninnau ar y pen blaen gyda'r gyrrwr, ac nid oedd gormod o honom i fod yn gysurus.

Wrth basio'r orsaf, gwelem dyrfa ffwdanus, yn gwau trwy eu gilydd, o bobl yn mynd oddiar eu gwyliau, ac adre. Dywedwyd llawer am golliadau pobl y ffordd haearn, ac nid heb achos; yr wyf wedi treulio llawer hanner awr yn ofer yn y tren yn y Junction, gan glywed rhyw swyddogyn botymog yn gwaeddi "All right" bob pum munud, a minne'n gwybod nad yw'r tren yn osio cychwyn. Ond y mae bai mawr ar y cyhoedd hefyd, er fod yn rhaid i aelodau seneddol ac ereill gymeryd yn ganiataol fod "y cyhoedd" yn berffaith. Beth feddyliech chwi am ymddygiad y cyhoedd y bore hwnnw? Yr oedd pawb yn dod a'i glud enfawr i'r orsaf ar unwaith, pawb eisieu ticed ar unwaith, pob un fel pe'n meddwl fod ffyrdd haearn y byd wedi eu gwneyd ar ei gyfer ef yn unig. Ac oherwydd y diffyg meddwl hunanol hwn, yr oedd y tren yn colli hanner awr ym mhob gorsaf, a'r "Cambrian," druan, yn cael mwy o fai nag erioed am gamdrin y cyhoedd.

Yr oedd ein cerbyd ni a'r tren yn cyd-gychwyn. Teimlem ein bod yn meddu y fantais fawr feddai'r hen ddull o drafaelio ar y newydd,—yr oeddym ni'n carlamu drwy heol y Bermo, a phopeth harddaf yn y golwg; tra yr oedd yn rhaid i'r tren lithro ymaith drwy'r cefn, a chollasom olwg arno, fel pe buasai dwrch, mewn twll yn y ddaear.

Wrth gael ein golwg gyntaf ar afon Mawddach, hawdd iawn y gallasem benderfynu, dan swyn yr olygfa, mai mewn cerbyd, yn yr hen ddull, y teithiem byth. Odditanom yr oedd yr afon yn llawn, a throsti gwelem ochrau coediog Arthog, a thrumau'r Gader, fel uchel gaer, yn codi y tu cefn iddynt. Ar y chwith codai llethrau grugog eithinog, a'u lliwiau coch a melyn tanbaid yn cystadlu à lliwiau tynerach gwyrdd a glas yr ochr bell.

Ac mor lawn o adgofion i'r Cymro darllengar yw'r holl fro, o ben Cader Idris yn y fan acw, gyda'i hen draddodiad am gwsg yr awen, at Lwyn Gloddaeth yn ein hymyl, cartref bardd nad yw ei wlad eto ond wedi cael prin amser i weled ei werth. Toc daw Marian Dolgellau i'n golwg, gyda'i adgofion am Ddafydd Ionawr; a thu hwnt iddo, ond odid, cawn gipolwg ar y dyffryn coediog fu'n gartref i Ieuan Gwynedd.

O ie, y "byddigions" oedd yn y cerbyd y tu ol i ni,—fu ond y dim i mi anghofio popeth am danynt wrth syllu ar ardderchawgrwydd afon Mawddach. Tri thailiwr o Wolverhampton oeddynt, a'u tair cariadau. Pobl bach hoffus ddigon oedd y chwech, a mwynhaent eu hychydig ddyddiau gŵyl yn llawer mwy addysgiadol na'r rhai oedd yn gwylio coesau'r canwyr gwagedd ar y tywod. Rhoddai y gyrrwr iddynt hwy Saesneg a'u syrio i fyny ac i lawr; rhoddai i ninnau Gymraeg a charedigrwydd cartref. Peth difyr i mi oedd clywed beth ddanghosid i'r "byddigions." "There, sir, is the Giant's Face, sir," ebai, gan gyfeirio ei chwip at amlinell crib y mynyddoedd. "We are now, sir, passing through the Fiddler's Elbow, sir," meddai wrth redeg am drofa droellog yn y ffordd.

Druan o'r "byddigions!" Daear, a daear yn unig ydyw Cymru iddynt hwy. Nid yw ei phrydferthwch ond prydferthwch pridd. Iddynt hwy, nid oes iddi hanes nac adgofion. A dyma yrwyr y Bermo yn dychmygu enwau iddynt. Iddynt hwy y mae Traddodiad a Hanes yn fud.

Nid wyf yn eu beio. Deuant hwy i'r Bermo i dreulio eu gwyliau byrr, yr ychydig ddyddiau gânt ymysg dyddiau gwaith diddarfod y flwyddyn. Ond yr ydym ni i'n beio,—am ein gwaseidd-dra, am ein llwfrdra, am ein diffyg cydnabyddiaeth â hanes ein hardaloedd ein hunain. Dowch i Gymru a chewch genedl o bobl yn ceisio eich boddhau, gan gredu mai Sais ydych, trwy geisio eich dynwared, a chadw eu gwlad eu hunain o'r golwg. Ewch i'r Alban neu i'r Iwerddon, ac yno cewch bobl yn ymorfoleddu yn hanes eu tadau, a hwnnw a adroddant wrthych. Yng Nghymru ceisir dysgu Sais i ddirmygu'r gweinieithwyr sy'n ceisio dangos iddo. mewn gair a gweithred, mai efe yw arglwydd pawb yn yr Alban ceisir dangos iddo, er cymaint feddylio o hono ei hun, nad yw ef neb. Os daw rhyw ddydd cof am Wallace neu Bruce ymysg y dyddiau yn yr Alban, bydd pob dosbarth, gwreng a bonheddig, yn ei ddathlu. Ond yng Nghymru, a oes rhywun yn galaru ar ddydd cwymp Llywelyn, neu yn cofio am seren Glyn Dŵr? Edrychir ar ddewrion eu gwlad gan ein huchelwyr fel pe byddai son henwau'n deyrn-fradwriaeth; a phan ddeffrôdd y werin, oni anurddwyd adeg coffa arwr trwy waith y mân sectwyr yn ceisio penderfynu i ba sect, a'r sectau hynny, ysywaeth, heb eu geni yn ei amser ef,—y perthynai? Dywedir i un o'n haelodau seneddol ofyn yn ddiweddar a yw Llywelyn y Llyw Olaf yn fyw yn awr,—nad oedd ef wedi clywed ei enw o'r blaen. Hyd nes y cyfyd ein balchder cenhedlaethol, hyd nes y parchwn ein hunain, hyd nes y ffieiddiwn addoliad pob peth estronol am ei fod yn estronol, hyd nes y rhoddwn ddyledus barch i'n tadau ein hunain, ni wiw i ni ddisgwyl parch gan bobl gwledydd ereill.

Y mae dyddiau gwell yn siwr o fod ar wawrio. Dywedai'r gyrrwr fod mwy o Gymry wedi bod yn ei gerbydau eleni nag erioed. Y gwir ydyw fod Cymry'n talu mwy o barch i'w hiaith na chynt, ac yn ei siarad, er eu bod, trwy hynny, yn colli eu lle fel "byddigions,"—yng Nghymru. Oni ddaw addysg, yn enwedig addysg ganolraddol, i roddi syniadau gwell i Gymry am danynt eu hunain? Daw. Ond rhaid cofio fod llywodraethwyr ysgolion, y dydd hwn, wedi dewis Saeson anghymwys o flaen Cymry cymwys. Yn yr uchel leoedd hefyd y mae'r Cymro. a'i wyleidd-dra'n wasaidd, yn plygu o flaen "byddigions."

Ond waeth i mi heb daro tôn mor hen. Gadewch i ni fwynhau yr olygfa ar fynyddoedd Meirion,—ni wargrymasant hwy mewn gwaseidd—dra erioed. Cawn gipolygon arnynt o bobtu i ni, ac ambell gipolwg ar yr afon sydd

yn ein hymyl o hyd, trwy goed tewfrig, a'u dail

yn dechreu troi eu lliw. Pa le mor ramantus a'r Bont Ddu? A mwyn fuasai dilyn rhai o'r ffrydlifoedd sydd yn croesi ein llwybr i'w tarddiad yn y mynydd fry,—i fwynhau arogl coedwig ac arogl y mynydd. Dyma gapel ar graig yn codi'n syth o'r afon; mae'n amheus gennyf a oes gapel yn y byd a golygfeydd mor hyfryd o'i ffenestri. Wrth droi ychydig yn ol, dacw Bont y Bermo, a'i phileri'n edrych yn fân ac aml yn y pellder. Ymlaen wele ddolydd gwastad gwyrddion, ac eglwys a mynwent Llanelltyd ar fryn y tu hwnt iddynt. Oddiyma eto y mae'r olygfa yn un nas gall hyd yn oed yr arlunydd, fedr gymysgu ei liwiau i ddynwared pob lliw na fo'n symud, roddi syniad cywir am dani ond i'r neb a'i gwelodd. Oddiyma, fel rheol, y byddai yr hen deithwyr yn cael eu golwg gyntaf ar dlysni afon Mawddach, wrth groesi o Dal y Llyn i Drawsfynydd trwy Ddolgellau. Yr oeddynt oll yn unfryd unfarn mai un peth oedd yn hagru'r olygfa, a hynny oedd y teisi mawn. Dyna ddywed Pennant, a dyna ddywed llawer ar ei ol.—mae llawer iawn yn cael fod Pennant o'r un farn a hwy, yn enwedig am leoedd y maent yn ddesgrifio heb eu gweled. Ni welais i ddim teisi mawn yno; a phe gwelswn un, ni fuaswn yn gweled dim hagrwch mewn tas mawn. Mae adgofion yn ffurfio chwaeth i raddau pell, ac y mae gen i adgofion hyfryd am fawn,—am iechyd wrth eu codi yn yr haf ar bennau'r mynyddoedd, ac am gysur wrth weled eu tân glân croesawgar ar nosweithiau gaeaf.

Yn union wedi gadael Llanelltyd y mae adfeilion y Fanner yn y ddôl islaw inni, yr ochr arall i'r afon. Bob tro y gwelaf adfeilion mawreddog hen fynachlogydd y Cisterciaid, byddaf yn galaru am y golled genhedlaethol gafwyd pan roddodd Harri'r Wythfed eiddo'r mynachlogydd i'r rhai fu'n ei ddysgu sut i ysbeilio'r eglwys, rhai y mae eu disgynyddion heddyw, yn ddigon aml, yn uchel eu cloch dros hawliau crefydd a chysegredigrwydd gwaddoliad. Murddyn, neu breswylfa rhyw Ysgotyn ariannol, yw mynachlogydd y gwn i am danynt. Maent oll, fel y Fanner yn y fan acw, mewn lleoedd dymunol a thawel,—mor werthfawr fuasent fel ysbytai, fel gwestai, neu fel amgueddfeydd. Daw llawer golygfa i'r cof wrth weled y muriau llwydion acw yn eu gwisg o eiddew,—meibion rhyfelgar Owen Gwynedd yn eu sylfaenu, y mynachod yn ymdeithio o Gwm Hir i'w cartref newydd cynhesach a diogelach, Llywelyn Fawr yn dod a'i roddion yn ei law.

Ond edrychwn ymlaen, yr ydym yn awr yn dilyn afon Mawddach,—ffrwd fynyddig erbyn hyn, ac nid afon fordwyol,—i'r Ganllwyd. Toc dyna ni'n aros o flaen gwesty Ty'n y Groes.

Nis gwn ddim o'i hanes. "Hen dy tafarn " oedd yr unig beth fedrwn gael wrth holi; ac adeilad gweddol newydd, heb fawr gamp ar ei gynllun, yw'r ty sydd yno'n awr. Gofynnais a allem gael lluniaeth, yn Gymraeg; a gofynnwyd i mi yn Saesneg beth oeddwn yn ddweyd. Agos gan mlynedd yn ol daeth Mr. Bingley, y teithiwr, yma; a dywed ef mai Sais gadwai'r dafarn y pryd hwnnw, ac mai prin ddigon o amser oedd wedi gael i ddysgu Cymraeg. Ychydig o dyniad sydd i Gymro at rai galwedigaethau. Gwelais ŵr mawr barfog yn fy nghyfarfod, a golwg byd da a helaethder beunydd arno,—ystiward oedd, ac Ysgotyn; y mae eu tynfa hwy i leoedd Cymreig fel hyn. Ac yntau'r Cymro, gwell ganddo dreulio ei fywyd i gau clawdd y mynydd ac i yrru ei wartheg i'r ffair na meddwl am fentro i'r byd, fel y gwna'r Ysgotiaid, i ennill cyfoeth a dylanwad.

Y mae'r olygfa o ddrws Ty'n y Groes yn un o'r golygfeydd hynny sy'n aros yn y meddwl, ac yn goreuro llawer breuddwyd. Yn ein hymyl y mae blodau hinsawdd gynhesach,—rhosynau, nasturtiums, a dahlias ysgarlad a gwyn. A throstynt gwelir prydferthwch gwyllt cyfrin Cymru. Tyrr yr afon yn ewyn yn y glyn dwfn odditanom; ymestyn mynyddoedd mawr i fyny ac ymhell ar ein cyfer, mewn gwisg o redyn a'i gochder bron fel cochder fflam; ymgyfyd y lartswydd tal cymhesur yn dawel i fyny o ymyl dwndwr y dŵr; estyn llawer derwen,—gweddillion hen aristocratiaid gwlad "brenhinbren y Ganllwyd,"[1] eu canghennau cedyrn y gellid tybio oddiwrthynt fod llwybr arferol y storm o bob cyfeiriad.

Yma hefyd y mae y "swn distawrwydd pell" y gŵyr plant y mynyddoedd am dano. Temtir fi i ddweyd nad oes gwesty yng Nghymru a golygfa mor arddunol i'w gweled o ddrws ei dŷ,—dyna glywais gan bob un fu'n sefyll ar ben ei ddrws.

Rhyfedd fel y mae chwaeth gwerin yn newid. Heddyw nid oes odid Gymro na wel ryfeddodau yn y Ganllwyd; ond bu adeg na welai gwerin Cymru brydferthwch yn natur wyllt, ac nid ymhell iawn yn ol y dysgodd ei weled. Ebe hen bennill am y fangre swynol yma,—

"Mae llawer pen boncyn o'r Dinas i Benllyn,
A dolydd i'w dilyn hyd lawr Dyffryn Clwyd;
Er garwed yw'r creigie sy' o gwmpas Dolgelle,
Gerwinach nag unlle yw'r Ganllwyd."

Clod i'r beirdd sydd wedi ehangu ein cydymdeimlad, ac wedi ein dysgu i weled prydferthwch mewn lleoedd oedd yn erwin i'n tadau, ac wedi ein dysgu i garu y gaeaf a'r ystorm. Onid yw hyn yn fwy o ychwanegu cyfoeth hyd yn oed na chynllunio ffordd neu adeiladu pont?

Ni fedrem fynd ymhell o Dy'n y Groes. Yr oedd Llanfachreth yn rhy bell; yr oedd y ddau bistyll,—Cain a Mawddach,—yn rhy bell hefyd. Ond cofiasom fod y Rhaeadr Du yn ymyl, a dywedid y gallem ei gyrraedd mewn rhyw ugain munud. Cychwynasom ar hyd y ffordd lydan sy'n rhedeg gyda godrau

"Hen greigiau mud Ardudwy,
Er pob rhyferthwy fu,
Sy'n gwrando'n syn—fyfyriol
Ar drwst y Rhaeadr Du."


Ar y chwith gwelem Ddolmelynllyn, o'i amgylch y mae y distawrwydd hyfryd a'r dolydd braf gysyllta'r meddwl â phob hen blasdy. Daethom at afon Camlan, a gwyddem ar ei gwylltineb wrth ruthro dan y bont ei bod newydd gael rhedfa chwyrn. Troisom i lwybr sydd yn mynd i gwm cul coediog Camlan. Yr oedd heulwen, trwy ambell gawod, ar y coed; a byddaf fi'n meddwl nad oes dim mor iach ac mor hyfryd a'r ddau beth yma,—heulwen rhwng cawodydd ac arogl coedwig. Yr oedd yr heulwen honno fel pe'n ymhoewi yn ei balchder. Fflachiai weithiau ar y dail, oedd eto dan wlith y gawod, gan weddnewid eu gwyrdd ar amrantiad; ond ei hoff fan i ddisgyn oedd ar ewyn y mân raeadrau, neu ar frig crych rhyw don,—weithiau gwnai hwy'n ddisglair, dro arall rhoddai wawr euraidd iddynt, lliw y byddai raid i frenhines y weirglodd blygu ei phen ger ei fron.

Wedi cerdded ychydig hyd y llwybr trwy'r coed, a'r afon yn dawnsio o graig i graig odditanom, daethom yn sydyn i olwg y Rhaeadr Du. Yr oeddwn wedi bod hyd ffordd y Ganllwyd o'r blaen, ond ni ddychmygaswn fod golygfa mor arddunol mor agos i'r ffordd,—dim ond gwaith rhyw ddeng munud i droed chwim. Gellir dweyd am dano, fel y dywedai John Owen, Ty'n Llwyn am y Niagara, nad yw'n ddim ond pistyll. Ond y mae mor fawreddog ac mor brydferth fel y gallasai un heb fawr o natur bardd ynddo ddychmygu fod y coed sy'n tyfu i fyny'n uchel uwch ei ben yn ymgrymu i edrych i lawr arno, ac yn crynnu gan arswyd. Wedi dysgu englyn Dewi Wyn, ni fedraf fi feddwl am geisio darlunio rhaeadr mwy, ac am hynny waeth i mi roi fy ffidil yn y to yn fuan nac yn hwyr. Ni welais un darlun yn gwneyd cyfiawnder â'r Rhaeadr Du; nac aed neb trwy'r Ganllwyd heb ei weled.

Yr oeddwn wedi meddwl mynd i fyny'r cwm coediog, i eangderau unig y mynydd, i ymorffwys yn nistawrwydd "hen greigiau mud Ardudwy." Ond yr oedd y nerth yn pallu; a gorfod i mi droi'n ol i orffwys. Gwelem fynwent draw, ac fel dynoliaeth luddedig, troisom i honno. Daethom at gapel ar ganol ei adgyweirio; ac ar ei dalcen yr oedd y geiriau Saesneg "Independent Chapel," paham y rhaid i gapelau, fel tafarndai, fynnu iaith y tu allan na chlywir hi y tu mewn?

Ond yn y fynwent y mae popeth yn Gymraeg. Mynwent hyfryd yw mynwent y Ganllwyd, wrth droed y bryniau coediog, a rhu dwfn yr afon odditanodd i'w glywed yn ddibaid. Ond ni wna hynny ond dwyshau'r tangnefedd perffaith geir yma, yng nghwmni mud y coed a'r beddau, ac arogl y blodau gwylltion yn pereiddio awel y mynydd. Enwau gyfyd adgofion yw'r enwau sydd ar y cerrig, dieithr ac eto'n adnabyddus,—Rhedyn Cochian, Gwndwn, Dôl Frwynog. Cwmheisian, Hafodlas, Polgoed, Buarthre. Y cyntaf roddwyd i orwedd yn y fynwent dawel oedd John Jones,—yn haf 1855. oedd hynny. Ac er ys deugain mlynedd y mae teuluoedd y Ganllwyd wedi prysur fudo yma, oherwydd y mae'r fynwent yn weddol lawn. Dvma'r englyn sydd ar fedd y cyntaf gladdwyd,—

"Cristion o galon ddi—gêl—oedd Ioan
Trwy'i Dduw daeth yn uchel;
Ffodd y sant, llawn ffydd a sel,
Fry o'r ing i fro'r angel."

A dyma fedd canwr,— y mae swn trwm y dŵr i'w glywed oddiwrth ei fedd, a sua'r gwynt yn y derw sy'n tyfu am y mur ag ef. Morris Pugh, Maes Caled, oedd ei enw, bu farw'n wyth ar hugain oed,—

"Ei einioes yn ei wanwyn—a wywai
Yr awel fel rhosyn;
Yma mae'i lais a'i emyn
Tan glo yn tewi'n y glyn."

Yr wyf wedi sylwi'n ddiweddar mor lawn o blant yw pob mynwent. Ac nid yw mynwent y Ganllwyd yn eithriad. Dyma fedd dau o blant Cae'n Coed. Bu Enoch farw'n wyth mlwydd oed. Gŵyr llawer am yr ing deimlir wrth weled plentyn yn cario hen enw anwyl teulu i'r bedd yn anamserol. Felly rhoddwyd enw y bychan gollasid ar y baban nesaf, a bu'r Enoch hwnnw farw'n wyth mis oed.

"Isod dau frawd hynawswedd—a hunant
Mewn anwyl neillduedd;
Donnir hwy â dihunedd,
Iesu a bia eu bedd.

"Wyth calan oedd rhan yr hynaf,—un wedd
Wvth mis gai'r ieuengaf;
Y ddau Enoch, ddianaf,
Alwyd yn ol i weld Naf."


Dyma sydd ar fedd bachgen bach Pen y Ganllwyd, fu farw'n dair oed,—

"Ar ei rudd daear roddwyd,—yn fore
At feirwon fe'i dodwyd;
Ag unllef, fry o'r Ganllwyd
At ei gân Risiart a gwyd."

Yr oedd awel terfyn dydd yn anadlu rhwng y bryniau, a thybiwn ei bod yn aros yn hwy ar feddau'r plant. Felly y tybiai'r bardd wrth ganu am William, mab pedair oed Cae Cyrach,—

"Yr awel fwyn ar ael ei fedd—chwery
Ei chywrain gynghanedd;
Nes yn fad i wlad y wledd,—un anwyl
Gwyd o'i noswyl gyda hynawsedd."

Bydd gŵr y cerbyd a'r byddigions yn disgwyl am danom. Cawn awel y môr i'n gwynebau, a dyffryn Mawddach bob cam o'n blaen, wrth deithio ein deuddeng milltir yn ol i'n gwesty cysurus yn y Bermo.

Nodiadau[golygu]

  1. Derwen hynod am ei maintioli oedd hwn, dros bedair troedfedd ar hugain o amgylch. Erys darnau ohono fel paladrau olwynion melin ac fel dodrefn,—byrddau a chadeiriau,—ymhell ac yn agos. Y mae minion Mawddach a'i changhennau yn hynod am eu, coed,—hawdd iawn eu tyfu yno.