Tro Trwy'r Wig/Bore Teg
← Nyth Deryn Du | Tro Trwy'r Wig gan Richard Morgan (1854-1939) |
Carwriaeth y Coed → |
Y DRYW BACH.
"Hed i'r prysgwydd, ac o'u canol-nid o'r brigyn fel robin-tery dant ewafriol, gwefrol, nes adsain o'r goedwig."
Tud. 54.
BORE TEG.
"Wele gawellaid o ffrwythydd haf."—Amos.
DYWED, ddarllennydd, a gefaist ti ddigon ar droion drwy'r wig? Naddo? Os felly ti ddeui, 'rwy'n sicr, am dro arall drwyddi? Gallaf dy sicrhau dy siomi nis cei. Pan roisom dro ddiweddaf ymylai ar hirddydd haf. Diwedd y gwanwyn, gwyrdd, gwenog ydoedd; er hynny 'roedd yn hinon naf y prydnawngwaith hwnnw. Y noson desog honno, ti gofi, suddai Phoebus mewn ysblander, yng ngherbyd fflamliwiog yr Haul, dros gaerau gwridog y gorwel nid nepell o'i heulorsaf haf[1] yn y gogledd. Odidoced oedd lliwiau teryll y cerbyd! Ei groglenni oedd o ysgarlad a phorffor, fel gwahanlen y Deml; a'u cyrf—ymylau oedd o liw'r aur melyn a fermilion. A wyt ti'n cofio'r olygfa? Misoedd a lithrasant ymaith er hynny, ebrwydded! mor ddiaros ag y llithra'r cwmwl acw dros gaeau lathrlas y Nefoedd! Erbyn hyn mae'r Huan, ar ei rawd diymaros i'r de, wedi croesi cyhydedd yr Hydref[2] hanner ffordd rhwng arwydd yr Afr[3] ac arwydd y Cranc,[4] a nos a dydd ogyhyd sydd. Dechreu yr Hydref braf symudliw ydyw.
Season of mists and mellow fruitfulness!
Close bosom-friend of the maturing sun,
Conspiring with him how to load and bless
With fruits the vines that round the thatch-eaves run."[5]
Boregwaith teg heulog ydyw. Awn allan. Onid yw yn hyfryd? Chwyth awel ffraw arnom oddiar Ddyffryn Clwyd. Cwyd cymylau ysgeifn brigwynion eu pennau dros derfyngylch y gorllewin. Cipdremiant, megis, dros drum y mynydd. Ymddyrchant. Daw eu sider-odrau modrwyog yn raddol i'r golwg, a gwelir rhimyn o'r wybr, fel môr o wydr, rhyngddynt a thrum linell banylog y mynydd. Ymledant. Daw'r awel hoew—sionc heibio iddynt. Chwery â hwy mewn direidi, ymgiprys â hwy mewn aspri, tyn hwy yn gudynau, crib hwy yn edefau, chwal hwy yn llinynau, a gyr hwy o'i flaen, gan eu dolenu, a'u fillio, eu crychu, a'u cyrlio, draws lawntiau'r asur, yn wanafau o wyn-wlan, ac yn Hochenau cannaid o fân-blu sidan. Hwythau, yn eu tro, fig-chwareuant â'r awel. Ymwasgar-ant; ymlechant yn y dyfnlas tawel. Ymrithiant drachefn drwy loewder yr asur; a'r haul, â phwyntil ei belydr, a'u lliwia cyn wynned a brig ewynnog y waneg! Dawnsiant, dawnsiant, ar lwyfan dryloewferth y wybren, a diflannant yng nghwmni yr awel dros orwel y dwyrain!
Ond awn i'r wig. Pan fuom drwyddi ddiweddaf deced ydoedd yn ei harddwisg werddlas —ysgafnwisg gwanwyn a haf! Gorwychid hi gan ysnodenau, a garlantau, a phlethdorchau of Hodau amryliw, o binc, ac o wyn, ac o goch, ac oliw'r hufen melynwyn. Enhuddid hir-gangau'r geiriosen, a'r yspyddaid, yng nghyda cheinciau ysbinog yr eirin-bren, a'r ddreinberth, gan fflurblethau lluganol,
Wynned a'r donnog luwehfa,
Neu eira un-nos ar lechweddi'r Wyddfa."
Prydferthwch y blagur a'r blodau, hawddgarwch y gwanwyn-tymor gobaith-ydoedd. Ond arall yw harddwch gwanwynol y wig ac arall ei harddwch hydrefol. Gwelwch! Erbyn heddyw mae'r coed a'r llwyni a'r prysgwydd wedi ymwisgo yn rhwysgfawr mewn "siaced fraith" o ruddgoch a llwydgoch, a melyn o eiliw'r eurafal a'r lemon Mae'r ffluron wedi rhoi lle i ffrwythau ac aeron ffloewgoch a phorffor. Mae blodau cann y fieren wedi troi yn fwyar duon. eirin duon bach,[6] ddued a'r muchudd, a'r glasbaill ar eu grudd, wedi cymeryd lle gwullion eirianwyn yr eirinberth. Wele dlysineb y ffrwythau a mireinder aeddiedrwydd yn gymysgedig a phrudd-degwch gwywedigaeth!
Nature strips her garments gay
And wears the vesture of decay."
Mae'r gwlithwlaw yn drwm ar y glaswellt. Mae dyferynau trybelid ddyhidlwyd o fynwes ddihalog y Wawr, fel gleinresi o risial ar lesni y borfa. Croga perl-ddatnau, dryloewed a
gemau Golconda, ar fein-flaen aflonydd yr irwellt. Pefriant. Ergrynant yn yr awel, fel tannau telyn Eolaidd, a flamia o honynt gynghanedd o liwiau fel seithliw eiriandeg yr Iris. Mae plygion y fantell Fair[7] sy dan ein traed, a rhidens ei chyrfymylau, yn dry frith o fân emau; a chrynna, crynna dagrau claerwyn perlog ar wrid aeron y ci-rôs, ac ar ruddgoch cyrawel y ddraenen wen oddiarnom.
Mae'r deryn du a'r bronfraith ar y donnen las yn prysur gasglu eu lluniaeth o falwod, a chynron, a thyrchfilod—dyna eu bill of fare cyffredin—er y dewisant weithiau, hefyd, saig o ryfon, a mafon, a mefus, ac o rawn aeddfed y gerddinen a'r ysgawen. "A roddech iddynt a gasglant." Pigant y pryfetach uchod o'u tyllau, a'u llochesau, a'u hymguddfeydd; tyllant a thiriant am danynt â'u pigau blaenllym, crynion, hyd wraidd y llysiau. Tynnant y malwod o'u cregin, y llindys o'u hamwisg harddfanog, a'r maceiod o'u cocoons sidan, ac ysant hwy yn gegrwth—with a relish! Gwelwch fel y chwalant dwmpathau pridd y wâdd, a thom gwartheg a cheffylau, yn wasarn, am y cyfryw arlwy amheuthyn. Mae'r bronfraith acw, wrth chwilio yn y mwsogl, wedi cael gafael ar falwoden iraidd mewn cragen. Pa fodd y tyr y gragen? dywedwch. Gadewch i ni weled. Mae yn ei chymeryd ar frys gwyllt, yn ei gylfant, ac yn disgyn yn y fan draw ar gyfyl carreg. Tery hi'n ddeheuig wrth honno, dro ar ol tro, dro ar ol tro. Gyfrwysed onide? Ysbiwch! Mae'r cogwrn o'r diwedd yn deilchion, a'r chweg dameidyn—y rare-bit—yng nghylfin y deryn! Llwnc ef yn ddihalen. Y fath flas a ga arno! A oes dwr yn rhedeg o'ch dannedd? dywedwch.
Mae'r mwyeilch wedi crogi eu telynau ar yr helyg, ac ni chlywir hwy, weithian, ar frig pren yn pyncio cân. Mae'r gerdd arwest berorol wedi distewi am dymor. Ond nid di-gân i gyd yw'r côr asgellog. Welwch chwi, dacw frongoch yn disgyn yn ysgafndroed ar gangen y pren ysgaw cyfagos. Sionced ydyw! Gorffennodd fagu ei deulu ac y mae yn ysgyfala. Mae mewn gwisg newydd danlli. Mae newydd fwrw ei hen bluf—ei ddillad haf—ac wedi ymdrwsio 'yn ddestlus mewn gwasgod goch gynhes-glyd a chôt ddiddos werddliw—o eiliw'r olewydden. Mae yn gosod ei hun i ganu. Na; cymer ei aden a hed i frigyn uchaf draenen gerllaw. Mae yn edrych i'r ffurfafen loewlas wanafog, egyr ei big pibell ei organ-a dyhidla o honi hudolgan. uchel folianus. Ymchwydda ei fron ruddwawr, ymgrynna cyhyrau ei gorff gan mor egniol y cana. Cana, pyncia, telora ei hoewgyngan drosodd a throsodd. Yn ddisymwth hed i lwyfan uchel arall. Glywch chwi? A dros ei erddygan yr un mor ddygn yno.
"Ship!" "ship!" Be sy yna? Ha, dacw'r dryw bach, byw, syw, hoew, cynffonsyth, yn y llwyn wrth y mur yn pigo ei bryd o fân bryfaid. Wisgied yr ysgoga wrth gasglu'r pryd rhwng osglau'r pren! Mae yn chwimwth ac ysgafn esgeiddig! Nid cynt y disgyn ar un gangen nag y mae ar arall; a chyda ei fod ar honno, mae ar un arall drachefn yn pigo, pigo. Mae wrth y mur—mae ar y mur yn pigo, pigo. Ymlithra fel cysgod dros ei ymyl, ac ymfacha yn dyn yn ei ochr gan bigo, pigo. Mewn eiliad mae ar y llawr yn rhedeg yn hoewfyw fel llygoden faes ac yn pigo, pigo yno. Yr ydym yn ei darfu. Hed i'r prysgwydd, ac o'u canol— nid o'r brigyn fel robin—tery dant cwafriol, gwefrol, nes adsain o'r goedwig. Un arall, ac arall. Gliried yw'r nodau! Eofned yw'r tinc! Pwy feddyliasai y cawsid miwsig mor llawn, mor nerthol, o delyn fychaned! Clywch! Ym mon y gwrych tery gwas y gog dant ar ei delyn yntau. Mae tinc, tinc ysgafnglych yr eurbinc a'r deryn coch, a twinc, twinc sionc yr asgellarian yn disgyn ar ein clustiau o'r prysglwyn draw; a trill y llinos swil o'r wybr uwchben.
O'n blaen mae hen gloddfa gwaith plwm a adawyd ers talm. Gorchuddir y graith gan gwrlid gwyrdd o blufwsogl mwyth-ysgafn. Drwyddo yr ymwthia y llawredyn,[8] a'r gandwll,[9] a'r filddail,[10] a'r syfi teirdalen,[11] a'r goesgoch[12] aroglus arianflew. Mae ymylwe deilgangau mân, delicate, y mwswgl yn wyn-glaer gan berlog wlith. Lleda ac estyn y goesgoch ei hesgeiriau ysgafn drosto, ac o'i haml gymalau y cyfyd coesigau yn dwyn naill ai blodau rhosliw, rhesi arian, neu ynte hadgibau tlws, fel tassels, a'u meinflaen ar ffurf mynawyd neu big yr aran. Gwelwch dlysed yw'r dail o wyrdd ac o goch. Mae fel ysnodenau cyrliog ar fron y cwrlid! Llenwir y rhigolau sy rhwng y cerrig gan y
ROBIN A'I NYTH.
garanbig llachar[13] —câr agos i'r goesgoch.[14] Fel eiddo honno, mae'r coesau a'r crynddail bumllabed miniylchog, rai yn wyw-goch amliw, a'r lleill yn wyrdd-dirfion gan ireidd-der ieuenctid. Ffynna swp o glych yr eos[15]—the blue bells of Scotland
"With drooping bells of clearest blue,"
ar gyfyl y dyryslwyn sy yn ymyl. Crynna, sigla, y elychau goleulas ar flaenau fflurgoesau bron feined a blewyn. Y chwa-awel dyneraf a'u gyr i ganu. Gelwir hwy yn "Glychau y Tylwyth Teg," am y tybid, mewn ffansi, fod clustiau y bodau Liliputaidd hynny yn ddigon teneu i glywed tinc-seiniau isel y clychau asur. Gwelwch, rhwng brigau'r pren y gwyl-lecha'r breninllys—[16] aelodau o dylwyth persawr y mintys.[17] O gesail y dail y tardd troelleni o fân fluron lliw'r rhosyn. Hygared y gwridant rhwng dail gwyw-liw melynwawr y coed cyll a'r mieri Dygant i'n cof ddwy linell enwog-dilys na wnawd dwy dlysach—y bardd Gray,
"Full many a flower is born to blush unseen,
And waste its sweetness on the desert air,"
yng nghyda chyfieithiad rhagorol Dafis Castell Hywel o honynt sy cystal a'r gwreiddiolGwrandewch,
"Ac mae'r blodau teca'u lliwiau,
Lle nas gwelir byth mo'u gwawr;
Ac yn taenu 'u peraroglau
Lle na sylwa neb o'u sawr."
Ple mae'r myrdd blodau arian harddai wyrdd lethrau'r fron? Gwena swynfri[18] ar fwyn lesni'r twyn gyferbyn. Welwch chwi ef? Hoffed ydyw o'r haul! Gwyra ar agwedd cariad tuag ato, a cheidw ei lygad arno tra deil hwnnw i d'wnnu. Edrychwch! Mae ei osgo a'i ystum ymestynnol yn ardeb byw o ddyhead serch am wrthrych ei ddyhewyd. Awn yn agosach ato. Dyma fe! "A little Cyclops with one eye "[19] a'r llygad hwnnw, welwch chwi, fel o aur dilin wedi ei osod yn dwtnais mewn mortais beithynog o lafnau emerald, a'r emrynt serenog yn arian claerwyn wedi ei fannu gan frychau dyfngoch y ruby. Dyna i chwi gyfuniad goludog o liwiau! Sylwch deced yw'r gwrid ar wynder yr emrynt! Mor gain yw'r cyferbyniad sy rhwng melyn y boglwm a gwyn cannaid y cwmpas! Y gwyl flodyn bychan! Nid rhyfedd ei alw gan y Rhufeiniaid wrth enw[20] a olyga "y peth del," neu "yr un tlws." Onid un od o ddel ydyw? Gelwir ef gan y Ffrancod yn marguerite[21] a chan yr Italiaid yn margarita —dau air cyfystyr â'r enw Margaret—a gŵyr pob Marged, a Phegi, a Maggie mai "perl" neu "em yw ystyr hwnnw. Ai nid parod ych i ddweyd mai priodol yw'r enw?
Craffwch arno'n fanylach. Ond, gan gofio, dyma chwyddwydr,—rhoddwch hwn arno chwi a welwch ar unwaith y gwneir y llygad argrwn—unlliw ag aur—i fyny o nifer mawr o foglymau bychain, del—neu lygadenau, os mynnwch wedi eu gosod yn eisteddog, ochr yn ochr, ar glustog bigyrnog ymylwen.[22] Onid ydynt yn daclus o glos ac yn odiaeth o glws? Tebyg ydynt i fân balmant o aur pwyedig neu facets llygad trychfilyn. 'Rwan chwi synnwch pan ddywedaf wrthych fod pob un o'r llygadenau hyn yn flodyn perffaith wedi ei gynysgaeddu â phrydferthwch lliwiau ac â chymesuredd ffurf, ac yn meddu ar bob ermig anhebgor er adgynyrchu ei ryw! Yng nghylch cyfyng y llygad llai na chwarter modfedd ar ei draws-gellir cyfrif o'r cyfryw flodionos gynifer ag o bedwar ugain i gant-weithiau ragor a phob unigolyn o honynt-pob un, cofiwch yn cynnwys blodamlen,[23] a choronig,[24] a phaledryn,[25]25 ac wyfa,[26] a rhithion,[27] a phump o gydau[28] gorfychain tyn-lawn o baill,[29] yn hongian ar bump o frigerau[30] meinion, unionsyth glaerwyned bob un a phibonwy!
Ai nid ydych yn coelio? Wel, hwdiwch; dyma chwyddwydr cryfach. Edrychwch drwy hwn. Welwch chwi, mae'r blodionos sy ar ymylgylch y llygad aur—ar ororau yr arian—yn llydan agored. Cil-agored yw y rhai sy uwch i fyny—fel pe ond hanner effro; tra y mae y rhai sy ar y trum mewn trymhun mor dlws-ddigyffro chwsg plentyn! 'Rwan, sylwch-drwy'r chwyddwydr eto—ar un o'r blodionos llawn agored. Mae'r goronig ar ffurf pibell fain, a'i genau bum-llabed yn ymledu a rhaiadu fel pelydr seren. Welwch chwi hi? Yng nghanol y goronig, ac yn uwch o'i phen na hi, y saif y golofnig dal fenywaidd, a'i brig deupen gloew yn frith gan baill; yng nghyd a phump o frigerau gwrywaidd, ysgwydd wrth ysgwydd, amgylch ogylch iddi yn ei gwylio'n eiddig, fel gwarchodlu trefnus o filwyr cefnsyth. Llecha'r wyfa a'i rhithion ynddi yng ngodre'r paledryn, ac nis gellir ei gweled oni rwygir y blodyn. Drwy'r gwydryn chwi welwch y rhannau. A goeliwch chwi 'rwan?
Rhoddwch y chwyddwydr heibio, ac edrychwch hebddo. Chwi allwch, fe allai, wrth graffu, o'r braidd weld y blodionos gyda'r llygad noeth, ond anodd ydyw eu gwahaniaethu y naill oddiwrth y llall. Ond am y cydau paill, wel, mae y rheini, gallwch feddwl, ar "riniog cudd yr anwel," gan fod pump o honynt, yng nghyd â'u brigerau, yn cael lle ehelaeth, yng nghwmni'r golofnig, yn ystafell gul, fain, y goronig. Wyddoch chwi! Os ydyw y cydau eu hunain mor fychanig—mor or—fychanig —fel y rhaid wrth fwyadur cryf i'w canfod, pa mor anirnadwy fychain, pa mor anamgyffredadwy ddiswm raid fod y gronynau —y llychynau—sy ynddynt pan y cynnwys onid un cwdyn o'r pump ugeiniau, os nad cannoedd, o'r cyfryw ronynau. Ac eto, sylwch, mae'r gronynau hyn, er mor anfeidrol fychain ydynt, eu hunain yn gelloedd neu gydau llawn o hylif a themigau manach fyth. Rhwng gwerchyrau y temigau hyn—rhywle, rywle, yng nghilfachau eu tra-gorfychander—y cloir i fyny ac y trysorir yr elfen fywydol, gyfrin, gudd, sy drwy gyfrwng rhannau ystlenol y blodyn i ffrwythloni ac i fywhau hadrithion diymadferth yr wyfa.[31] Welwch chwi y gofal a gymerir i ddiogelu y wreichionen fechan fywydol. Cauir hi i fyny, gell yng nghell, rhwng muriau triphlyg, a phedwar plyg, neu ragor, rhag myned o honi i golli cyn cyflawni ei swyddogaeth.
Y swyniri siriol! Er bychaned ef, onid yw'n gyfanwaith meindlws cymesur? Mae ei adeilwaith o'r fath deleidiaf. Edrychwch arno unwaith yn rhagor. Mewn llun mae gryned a chant y lleuad. Onid yw, mewn gosgedd, yn od o dlysgain? Pwy ddel-luniodd ei ddalennau arian? Pwy fu'n gloew-lyfnu ei fain golofnau? Pa law fu'n trwsio'r pileri crisial? Pwy gyfunodd ei or-fan rannau ac a'u pert asiodd yn eu morteisiau? Pwy, â'i bwyntil, fu'n ei deg baentio? Pwy, ond yr Hwn sy'n "peri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd" ac yn dilladu'r lili a'r rhosyn, y naill mewn gwyn a'r llall mewn coch? Onid meddwl dwyfol wedi ymflodeuo ydwyt, aspygan dlos, del lygad y dydd!
A gawn ni symud ymlaen? O'r gore. Yr ydym yn dod i ganol y prysglwyn cymysgliw. Welwch chwi'r lliwiau? Mor dlws-amliwiog yw'r deilios yma? Mor firain yw'r fieren! Mae ysgarlad ac aur ar ei harwisg hi. Ochr yn ochr, ar ein cyfer y cyd-dyfa draenen wen a chollen oleulwyd. Estyn y naill ei changau, 'n gyfeillgar, rhwng brigau y llall, gan gain leoli y dail gwahanliw. Mae dail y ddraenen, oedd drwy y gwanwyn o liw'r geninen, erbyn hyn yn loewgoch clir unlliw a'r claret. Cydrhyngddynt, fel tywyniadau haul melyn, y rheiddia eurddail crynddel y gollen. Cymhletha y gwyddfid[32] eu breichiau yn hardd gan ruddemau-am yddfau y ddeubren; ymddirwyn meinwlyddyn melynddaily winwydden ddu[33] am danynt fel plethdorch gymhendlos wedi ei haddurno â gleiniau emerald ac ambr; a choronir y cyfan âg eiron cwrel cangau y ciros. Unwaith eto, welwch chwi'r lliwiau?
Beth sy'n taflu ei gysgod arnom? Edrychwn i fyny. Mae haid o adar y drudwy[34] yn pasio fel cwmwl oddiarnom a "Swish—sh—sh—shs!" eu hadenydd yn suo'n yr awyr fel chwyrnelliad dengmil o saethau. Maent yn gwneyd am y cae acw lle y pora ychydig adefaid ym mhlith haid o dda blithog. Disgynnant arno'n chwap, mor ysgafn a manblu'r ysgall, ac ymgymysgant â'r twr brain sy yno'n barod. Crawcia'r brain pwyllog; dadyrdda'r drudwenod. Nesawn atynt yn ddistaw, gan gadw'r gwrych rhyngom â hwy. Gloewddu, gydag adlewyrchiadau wyrdd copraidd neu o las, neu neu o borffor, yw lliw eu clogau, a phob plufen loewlefn yn ymyledig â gwyn a melyn. Brydferthed mentyll yr adar gwisgi! Sidan wisgoedd symudliw ydynt, a myrdd o ffloew emau yn fflamio arnynt.
Mor fyw yw'r adar! Rhedant, gwibiant, tasgant ar hyd y cae gan bigo'r pryfaid sy ar y borfa. Dacw ddau o'r adar yn ysboncio'n orwyllt i'r awyr, big ym mhig, gan ymgiprys yn drystiog am ddim ond abwydyn. Cogrant—glywch chwi hwynt?—yn ddoniol-gwerylgar. Ymlaen a'r haid adar. Ceisiant, fel glewion, flaenu eu gilydd. Cwyd twrr yma a thwrr acw ar eu hedyn yn sydyn, a disgynnant yn eofn y tu blaen i'r fintai. A dyna drystio, a dwrdio, a chlochdar, a ffraeo! Tarfir hwy gan rywbeth; codant gyda'u gilydd; a disgynnant chwaff mewn man arall. Beth wna un o'r adar ar gefn gwlanog y ddafad acw? Chwilio mae yno am dorogenod. Mae'r mathau hynny o bryfaid yn amheuthyn iddo. Paham yr ymdyrra'r drudwys o amgylch y gwartheg? Wyddoch ohwi ddim? Gwyddoch, ond odid, mai nid â'u dannedd y pora eidionau. Torrant y glaswellt trwy ei blicio â'u tafod. Fel hyn ysgytir ychydig ar y gwreiddiau, a llacia'r gweryd o'u cwmpas ac aflonyddir ar noddfeydd y mân bryfaid sy yno.
Mae'r ysgwydiadau ysgeifn hyn yn ddaiargrynfau, iddynt hwy. Rhuthrant yn gyffroedig i'r wyneb, yn drychfilod ac yn gynron, yn lledwigod ac yn rhilion, et hoc genus omne, a chipir hwy'n chwipyn gan bigau yr adar sy'n disgwyl am danynt. Lle mae lluniaeth, yno yr ymgasgl yr ednod. Mae profiad yn eu dysgu lle mae hwnnw i'w gael.
Mae'r adar ar wasgar dros ran fawr o'r maes, fel foragers byddin yn ymofyn am borthiant. Mae'r lliaws, chwi welwch, yn dal i bryfeta yn agos i'r praidd. Mae rhai yn fân dyrrau—detachments—yn chwalu ysgarthion ac yn chwilio'n y llanastr am chwilod y dom. Cant afael mewn chwilen, ysgwydant eu hedyn, llamhedant, meinleisiant mewn hoen. Rhown floedd, "Shw-w-w-w!" Yn sydyn, gyda'u gilydd, ar unwaith, codant yng nghwmni'r brain trwm-edyn, fel crinddail o flaen corwynt, a disgynnant gyda "Whish-sh-sh-sh!" gan glegar a chogor, ar y gwrychoedd a'r coed sy ogylch y cae. Cadwn yn llonydd a distaw. Yn union deg disgynnant o'r cangau, ar y cyntaf o un i un, yna yn ddau ac yn dri ac yn bedwar, neu chwaneg, fel dail yr Hydref pan chwyth yr awel, ac ymchwalant eilchwyl, rhai yma rhai acw. Ail-ddechreuant bryfeta a gwancus fwyta. Unwaith eto, "Shw-w-w-w!" Adlamant, rhuthrant i'r rheng, llithr-hedant fel cysgod cwmwl, codant dros y gwrych a diflannant o'n golwg.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Summer solstice: alban hefn.
- ↑ Alban elfed.
- ↑ Alban arthan (Rhagfyr 21ain), lle mae'r haul ar ei rawd ar y dydd crybwylledig.
- ↑ Alban hefin, lle mae'r huan Mehefin 21ain.
- ↑ Keats
- ↑ Eirin perthi, eirin tagu, eirin surion (sloes).
- ↑ Alchemilla Vulgaris: Common lady's mantlemantell Fair gyffredin, palf y llew, troed y llew.
- ↑ Polypodium: polypody—llawredyn y fagwyr.
- ↑ Hypericum perforatum: perforated St. John's Wort —candoll, eurinllys trydwll.
- ↑ Achilla Millefolium: common yarrow, milfoil—gwilffrai, llysiau y gwaedlif.
- ↑ Fragaria Vesca: wood strawberry—mefus y goedwig.
- ↑ Geranium Robertianum: Herb Robert—troed-rudd, llysinu Robert.
- ↑ Geranium lucidum: shining crane's bill-pig yr aran disglaer.
- ↑ Mae'r ddau yn aelodau o deulu pig yr aran" [Germaniceae] neu mynawyd y bugail." Gelwir y llwyth yma felly am fod eu hadgibau yn dwyn delw pig yr aran neu fynawyd.
- ↑ Campanula rotundifolia: harebell—glas y llwyn, croesaw haf: clychlys.
- ↑ Calamintha Clinopodium: Wild basil—brenin-llys. gwyllt.
- ↑ Calamintha.
- ↑ Llygad y dydd.
- ↑ Llinell o folawd Wordsworth iLygad y Dydd."
- ↑ Bellis neu bellus yw'r gair Lladin arno. Ei ystyr yw "del," pert," "tlws" (pretty).
- ↑ Gelwir y gold gwynion (ox-eyed daisy) gan y Sacson yn marguerites.
- ↑ Perthyn y swynfri neu lygad y dydd i dylwyth pwysig a lliosog y blodau cyfansawdd (compositae). Cymharer ef â charn yr ebol, yr curwialen (golden rod), greulys (groundsel), gold (chrysanthemum), dant y llew, a'r ysgall—yr oll o'r un tylwyth—a gwelir ar unwaith y tebygolrwydd sy rhyngddynt. Dygant, un ac oll, nodau amlwg y teulu.
- ↑ Calyx.
- ↑ Corolla.
- ↑ Pistil: yr ermig benywaidd.
- ↑ Ovary.
- ↑ Embryo
- ↑ Anthers.
- ↑ Pollen, yr elfen fywiol sydd i ffrwythloni'r rhithion yn yr wyfa.
- ↑ Stamens, yr ermigau gwrywaidd. Cyfeiriais at yr holl rannau yma o'r blaen yng nghyswllt a dail suran y gog.
- ↑ Dangosais, mewn ysgrif flaenorol, pan yn son am ddail suran y gog, sut y dygir y weithred o ffrwythloni'r rhithion oddiamgylch.
- ↑ Lonicera Periclymenum; Honeysuckle, woodbine.— Melog, sugn y geifr, tethau y gaseg. Coch fel rubies yw eu grawn addfed.
- ↑ Tamus Communis: Black bryony.—Coedgwlwm, paderau y gath, rhwymyn y coed, afal Adda. Yn nechreu Hydref gwyrdd a melyn yw lliwiau'r aeron, ond tua'i ddiwedd gwridant i ysgarlad disgleiriol, ac er teced eu golwg maent yn wenwyn nerthol.
- ↑ Starlings. Gelwir hwy yng ngogledd Ceredigion yn "adar yr eira." Paham?