Neidio i'r cynnwys

Tro Trwy'r Wig/Priodas y Blodau

Oddi ar Wicidestun
Coch y Berllan Tro Trwy'r Wig

gan Richard Morgan (1854-1939)

Nyth Deryn Du

GWENOLIAID.
Yn fflachio, fflachio, fel lluchedyn o wawl oddiar risial."
Tud. 27.

PRIODAS Y BLODAU.

"I know a bank where the wild thyme blows,
Where oxlips, and the nodding violet grows;
Quite over-canopied with luscious woodbine,
With sweet musk-roses, and with eglantine."
—A Midsummer Night's Dream.

"From branch to branch the smaller birds with song Solaced the woods, and spread their painted wings Till even." —Paradise Lost.

A holl goed y maes a gurant ddwylaw." —Isaiah.

PRYDNAWNGWAITH hyfryd o Fai ydyw. Mae'r hin, fu'n oer yn hir, wedi tyneru megis ar unwaith. Mae naws haf ar yr awel. Mae newydd fwrw cafod—drwy haul—o wlith-wlaw maethlon, esmwyth. Erbyn hyn—pump ar y gloch mae'r cymyl teneuwe fu'n brychu wyneb y wybren wedi ymwasgaru fuaned bron ag yr ymgasglasent, ac wedi diflannu fel "niwl boreol. 'Rwan lleufera'r Huan, heb bylni, yng ngloew lesni'r nefoedd, ac y mae iddo eto encyd o ffordd cyn cyrraedd ei "gaerau yn y gorllewin." Mae côr y wig, mewn asbri'n canu. Clywaf y gynghanedd o'm cadair yn y ty, gliried, ucheled yw cywair y gân. Os mynnwch glywed y côr asgellog ar ei oreu—yn ei afiaith min nos tawel o Fai, 'rol defnynnu o'r wybrennau wlith, yw'r adeg. A fuoch chwi 'rioed yn gwrando arno ar brydiau felly? Naddo? Wel, awn allan, unwaith eto, i'r wig gerllaw'r ty.

Dyma ni. Safwn ar y bryncyn llawn blodau yma. Mae "hardd garped y gwanwyn gwyrdd" dan ein traed. Mae ysbryd yr haf yn ymrithio'n mhobman. 'Does ryfedd fod yr adar yn canu. Cyffroir hwy gan dlysineb anian. Llenwir hwy â llonder. A chanu a wnant! Bloeddiant bron na wichiant—ysgafned, hoenused y teimlant! Clywch chwibaniad y bronfraith, chwibanogl y deryn du, teloriad y brongoch, cyngan llwyd y gwrych, tryliad y llinos, telyn yr hedyau, carol yr asgell arian, dyri yr eurbinc, cathl y dryw, "gwew!" " gwew! y gog, a "swit!" swit!" "swit!" trystiog aderyn y to! Dyna i chwi restr o artistes!

Cân rhai yn ein hymyl. Cân ereill ym mhellach, ac ereill ym mhellach wedyn-ac wedyn -ac wedyn yn y pellderau draw, draw, draw. Ymdodda y lleisiau pellaf i'w gilydd, a chynhyrchant gynghanedd swyngyfareddol—weird—sy'n disgyn ar ein clustiau fel siffrwd dieithrol neu fiwsig suol, cyfriniol o fyd arall. Eto. Gwrandewch fel y dychlama'r seiniau yn yr awyr hydwyth, ac y dawnsiant yno. Ymdonna'r beroriaeth drwy'r wybr eang, ym mhob cyfeiriad; ymleda, ymleda fel cylchdon ar lyn -gan edwino wrth fyned ymlaen, a graddol ddistewi vn y pellafoedd draw, draw. Dyna gân yr adar. Beth feddyliwch o honi? Onid yw yn odidog?

"Wennol fwyn ti ddaethost eto." Dacw hi, yn wir, o'r diwedd! Ysbiwch! Bu hir ein disgwyliad am dani Ple buodd cyd? Gwelwch gyflymed, hardded, ei hediad! Mae'n dod, fel saeth o fwa, ac yn cyfeirio at y ty. Mae'n disgyn chwap gyda "twit-twit-twit-twit!" sionc ar furiau ei hen nyth llynedd sy dan y bondo. Ymfacha ynddi, ymlyna wrthi dan drydar yn wyllt drystiog. Edrycha o gwmpas gan symud ei phen bychan claerddu hwnt, yma, ac acw, i fyny, ac i lawr, mor aflonydd a llygedyn haul ar for. Ymwrendy. Dealla fod rhywbeth o'i le. Be sy'n bod? Mae aderyn y to—yr intruder!—wedi trawsfeddiannu'r nyth ac wedi ei annhaclu â'i ddodrefn ei hun, nid amgen gwair, gwlan, pluf—and rovings of a worsted mat!—ac yno, yn nursery y fwyn wenfolen y maga ei gywion. Clywch hwynt yn cogor, cogor. Ymsaetha'r wennol yn ol i'r wybr; "nofia wyrdd fôr y nefoedd; daw i lawr eto "fel arf dur yn gwanu'r gwynt;" ymlithra, eheda'n ysgafn dros. y cae gwyrddlas; tasga i'r wybr eto; i fyny, i fyny; gwibia, troellwibia yn yr asur. Welwch chwi dduwch ei chefn?--mae fel nos! a chlaerwynder ei chwman?—mae fel dydd! Daw i lawr, lawr, yn hoew-wyllt, a gwna am y bondo yr ail waith-hoffed ydyw o'i hen gartref! Twit-twit-twit!" Ymaith a hi drachefn. Chwyrn-deithia. Mae o'n gol—na, dacw wyn ei chwt yn fflachio, yn fflachio, fel lluchedyn of wawl oddiar risial! Diflanna. Ddaw hi'n ol? Daw, hi ddaw'n ol i'w hen gynhefin i nythu. Gwna ei nyth yng ngolwg yr hen.[1]

Sylwch ar yr eirinberth[2] sy draw. Mae wedi ei thlws hulio â blodau ganned ag ewyn y don. Mae ei changau duon, pigog-sy eto heb arliw o irlesni—wedi eu gwynnu megis â chaenen o eira newydd ddisgyn. Mae gwawr farwaidd y pren ynghyd â gwedd eiryaidd ei geinciau yn dwyn inni adgof o'r gaeaf. Onid yw fel touch o Ionawr yng nghanol Mai? Ysbiwch ar y ddraenen wen sy acw. Awn ati. Gwerddliw'r emerald—ydyw ei gwisg hi, a dyferynnau o'r gawod gynneu, fel gloew emau, yn ei boglynu. Y dafnau crisialaidd, gemog! Yng ngwên haul odidoced ydynt! Dyma nhw, ar y gwyrdd-ddail—fel y perlau tryloewaf ar lainau o emerald—yn seiriannu, yn peiru, ac yn adlewyrchu-rhai yma, ereill acw-holl gain liwiau yr enfys! Erioed ni fflachiodd y diamonds puraf—of the finest water— ar addurnwisg pendefiges gyda mwy o ysblander nag y gwreichiona "mân emau'r gwlith" ar ddillyn fantell y ddraenen.

Rhaid symud ymlaen. Ond aroswch! Edrychwch i'r ddraenen. Dacw nyth-nyth yr asgell arian-ar fforch isel yn y pren. Mae'r iâr yn eistedd arni. Welwch chi hi? mor llonydd! Mae ei phen—gyda llygaid fel dwy ellygen—yn gorffwys ar erchwyn mwsoglaidd y nyth, a'i chynffon yn syth i fyny gyferbyn. Mor gomfforddus dan dô o wyrdd-ddail! Ust! Mae yn ein clywed. Cwyd ei phen i fyny, a llithra ymaith, ddistawed â llygoden, i lawr, rywle i'r cangau, ac allan i frig onnen gyfagos. "Pinc!" "pinc!" Mae'n galw ar ei chydmar. Dacw hwnnw'n dod yn ffrom a thrysfawr. Wyllted ydynt! Ehedant o'n hamgylch—bron na chyffyrddant ni â blaen eu hedyn. Gwibhedant yn aflonydd anesmwyth, o bren i lwyn, o lwyn i dwmpath, oddiyno i'r gwrych gan roddi mynegiad i'w cyffrawd mewn "twinc!" "twinc!" "twit-twit-twit!" clochog, diorffwys, pryderus. Y pethau bychain cariadus! Ofnant fod eu nyth mewn enbydrwydd. Raid iddynt ddim. Pwy dorrai nyth deryn mor dirion? Ond beth am y nyth? Craffwn arni. Gywreinied ydyw ei gwneuthuriad! Ei magwyr sy o fwsogl, a gwlan, a main-wreiddiau wedi eu cymysgu, a'u cordeddu, a'u gweithio i'w gilydd agos mor glos a durfin a brethyn llawban. Coedgen gwyn siobynog a'i haddurna o'r tu allan, tra o'r tu mewn hulir hi â blew yr eidion, pluf dofednod, ynghyda'r manblu cann sidanaidd sy'n adeinio man hadau'r ebolgarn.[3] Ar lawr esmwyth-glyd y nyth y mae pump o wyau del o borffor a gwyrdd yn frith gan yspotiau a rhesi igam-ogam o liw llwydgoch. Parha yr adar i drydar. Symudwn a gadawn y nyth iddynt. Y nhw a'i piau.

Dyma ni wrth y gwrych. O dani y tyf toraeth o'r llysieuyn bychan tyner-un o lysiau swil y cysgodion-a elwir suran y coed neu bara cann y gwcw.[4] Sylwch ar y dail. Tebyg ydynt i'r meillion, ond gwannach yw eu gwyrdd. Maent ar ffurf calon, ac wedi eu gosod, flaen wrth flaen, ar frig coesigau meinion, melfedaidd, penoblygol, sy'n tarddu o'r ddaear drwy garped o fwsogl. Yn ystod y dydd, tra haul yn gwenu, mae'r dail yn llawn agored. Maent felly 'rwan, fel y gwelwch. 'Mhen rhyw ddwyawr dechreuant edwino, llaesant eu pennau yn raddol, ac erbyn naw o'r gloch byddant wedi plygu yn llwyr, i lawr at y goes, a'u gwyneb ucha tuag allan, ac felly, yn yr ystum yma, "cysgant" "gefn yng nghefn",[5] drwy gydol nos.

Mor wylaidd, mor brydferth yw'r blodyn! Plyg ei ben liliaidd a rhydd ef i orffwys ar y ddalen sy wyleiddied ag yntau. Torrwn ef i

YR ASGELL ARIAN.
"Ysgafned yw ei alaw ef a'r chwa sy'n chware â'i bluf."
Tud. 16.

ffwrdd er craffu ar ogoniant ei degwch. Sylwch ar y pump fflurddalene[6] hardd sy'n ffurfio coronig[7] y blodyn. Mae eu gwyn pincliw wedi ei farcio â rhesi, fel gwythi, o liw'r lilac, ac â chyffyrddiad o aur yn y bôn. Tynnwn un o honynt i ffwrdd, ac edrychwch arni drwy y chwyddwydr bychan yma. Onid yw yn ddisglaerwyn, ac yn lluganu fel milfyrdd ronynnau'r barrug yn haul y boreu?

Sylwch eto. O dan y goronig-yn ei chofleidio, megis y mae pump o ddail bychain gleision,[8] wedi eu hymylu â phorffor. Gelwir y cylch yma o ddeilios yn flodamlen.[9] Bu i hon ei gwasanaeth, sef oedd hwnnw, enhuddo y fflur yn ei fabandod, a'i ddiogelu rhag oerwynt, ac efe eto onid blaguryn egwan a chyn agor o hono ei lygad, a gwenu yn haul y gwanwyn.

Ond cyn mynd ymhellach, hoffwn i chwi ddeall fod rhyw yn perthyn i lysiau. Am a wn i, carant; ond sicr yw, ymbriodant, ymgysylltant, ac epiliant.

Wel, rwan, rhannau adgynhyrchiol, neu beiriannau epiliol llysiau, ydyw blodau. Ym mha le, gan hynny, mae y tad, ym mha le mae y fam? Ac mi hoffech wybod, wnaech chwi?

Pliciwch ymaith y fflurddail. Beth welwch chwi ar ol, yng nghraidd y flodamlen? Defnyddiwch y chwyddwydr bychan yma eto, fel y canfyddoch yn well. Edrychwch. Yn union yn y canol mae colofnig wedi ei hollti yn bump, a chnap bychan plufog, tryloew, yn coroni pob cainc. Y golofnig yma ydyw ermig menywaidd y blodyn, ac a o dan yr enw paledryn.[10] Mae bôn y paledryn, ysbiwch, yn freisgach na'r rhelyw o hono, ac yn wyrdd. Y rhan chwyddog yma yw yr hadgell[11]—yn cynnwys ynddi ei hun bump ystafell—ac o'i fewn y mae rhith yr hadau, neu annelwig ddefnydd epil y llysieuyn—eto heb ei ffrwythloni. Pa beth a'i ffrwythlona? Cawn weled.

Edrychwch eto. Beth sy amgylch, ogylch y paledryn, fel rheng o sawdwyr sythion yn ei wylied? Tusw o fain linynnau, fel gwifrau arian—pump yn fyr a phump yn dâl—a boglyn[12] bychan rhigolog, wynned â'r ôd, ar ben pob un—fel talaith. Beth ydynt? Wel, dyma ermigau gwrywaidd y blodyn, a gelwir hwy'n frigerau.[13] Pan addfedo'r brigerau, ymrwyga'r boglynau sy ar eu blaen—canys cydau in miniature ydynt a dyhidlant eu cynnwys yn fân lwch, blodiog. Dyma y paill.[14] A sylwch, dyma'r elfen fywiog, wrywaidd, yr hon drwy gyffyrddiad â'r hadrithion yn yr hâdgell â'u ffrwythlona—mewn modd cyfrin. Pa fodd y dygir y cyffyrddiad y briodas—oddiamgylch? Nis gallwch lai na gwenu, mi welaf.

Cymerwn flodyn arall add fetach; mae o honynt gyflawnder dan ein traed. Dyma un. Edrychwch iddo drwy'r chwyddwydr cryfaf o'r tri yma. Chwi welwch fod cydau bychain, cannaid, brigerau hwn wedi ymdorri, a'u cynnwys —y paill—yn llanastr hyd rannau'r blodyn. Mae peth o hono, fel llwch arian, ar aur y fflurddail; a chyfran arall, sylwch—ac y mae hyn yn bwysig—wedi glynu ar gnapiau tryloew, gludiog, y paledryn. Wel, dyma yr egwyddor fywiol, wrywaidd wedi ei dwyn i gyswllt â rhannau uchaf—allanol—yr organ fenywaidd. Dyma'r cam cyntaf ym mhriodas y blodau.[15] A ydych yn dilyn?

Mae'r paill, eto, chwi welwch, y tu allan i'r hâdgell—ac ymhell oddiwrthi. Wel, 'rwan, meddwch, sut y ffrwythlonir—y bywheir y rhith, sy rhwng gwerchyrau cauedig y gell, gan sylwedd sy o'r tu allan iddynt? Rhoddwch ychydig o'r paill yma, sy fanach na "mân lwch y cloriannau," dan chwyddwydr cryfach lawer nag un o'r tri hyn. Syndod edrychwch! mae pob llychyn o hono yn gell gron, glôbaidd, ac yn llawn o hylif a mân ronynau! Yn sicr, rhyfeddach yw ffaith na chwedl.

Gwelsoch fod rhai o'r gronynau anfeidrol fechan yma wedi glynu ar gnapiau'r paledryn. Beth wedyn gymer le? Mhen ychydig tyf pibell fain-anamgyffredadwy fain—o waelod pob un o honynt. Treiddia y mein—bibau hyn drwy sylwedd masw'r golofnig hyd nes cyrraedd o honynt yr hâdgell. Beth wedyn? Wel, yn naturiol, mae cynnwys hylifaidd y paill—ronynau yn llifo drwyddynt i'r gell, ac yn cyffwrdd ac yn ymgymysgu â'r rhithion yno. Dyma berffeithio'r briodas. Mae effeithiau'r cyffyrddiad fel eiddo hudlath y swynwr, neu "Fydded" Creawdwr. Mae'r hadrithion—oedd gynt yn ddiymadferth—yn neidio i fywyd! Tyfant, dadblygant, addfedant, llanwant y gell, ac yng nghyflawnder yr amser torrant drwy ei magwyrydd, a syrthiant yn gawod i fynwes y ddaear. Dyna ystori Priodas y Blodau. A goeliwch chwi hi?



Nodiadau

[golygu]
  1. Yn nhylwyth y Gwenoliaid [Hirundinidae] ceir amryw aelodau,—
    (1) Hirundo Rustica,—Swallow. Gwennol.
    (2) Hirundo Urbica,—House Martin. Gwennol y Tai. Gwna ei nyth o dan y bargod, a hi a ddesgrifir uchod.
    (3) Hirundo Riparia,—Sand Martin. Gwennol y Glennydd.
    (4) Cypselus Apus,—Common Swift. Gwennol Ddu. O'r tylwyth buan hwn, dyma y fuanaf a'r fwyaf diflino. Mae ar ei haden o'r plygain hyd y cyflychwyr, bron yn ddiorffwys.
  2. Prunus Communis,—Sloe, blackthorn; y ddraenen ddu.
  3. Coronir hadau blodau cyfansawdd (compositae). megis carn yr ebol (coltsfoot), dant y llew (dandelion), yr ysgallen (thistle), barf yr afr felen (yellow goat's beard neu John-go-to-bed-at-noon) &c., â mân flew plufog, ysgafn (pappus). Trwy hyn cludir hwy'n mhell o'u cartref, ar aden yr awel i wladychu. Defnyddir y pappus yma gan dylwythi y pincod i wynebu eu nythod.
  4. Oxalis Acetosella,—Common wood sorrel. Suran y gog, suran teirdalen, triagl teirdalen. Gelwir ef hefyd "Aleliwia" am ei fod yn ymddangos tua'r Pasc, pan genir "aleliwia." Bernir, gan rai, mai hwn ac nid y feillionen yw y Shamrock of Ireland, ac mai drwy hwn, yn ddamegol, yr eglurodd Padrig Sant athrawiaeth y Drindod i'r Gwyddel.
  5. Mae dull y meillion o gysgu yn wahanol. Gyda'r nos codant hwy eu pennau yn raddol, gan droi cu hochr isaf allan; felly cysgant hwy wyneb yn wyneb a'u pennau i fyny.
  6. Petal.
  7. Corolla.
  8. Petals.
  9. Calyx, cwpan.
  10. Pistil.
  11. Ovary, yr wyfa
  12. Anther.
  13. Pollen.
  14. Manflawd blodau neu "fara gwenyn."
  15. Yn aml yn amlach nag y tybir—ffrwythlonir hadrithion un blodyn gan baill o flodyn arall, drwy gyfrwng gwynt, cylion, gwenyn, &c. Er esiampl, hed y wenynen o flodyn i flodyn, cluda ymaith ychydig baill ar ei phen, ei choesau, neu ei chefn. Glyn peth o hwn ar gnapiau gludiog paledryn y blodyn nesaf yr ymwel âg ef, gan ei ffrwythloni, fel y desgrifir yn yr ysgrif, a cha ddyferyn o fêl fel tâl. Mae y wenynen bob amser ar un daith, yn cadw at yr un rhywogaeth o flodau, felly atelir cenedliad planhigion cymysgryw (hybrids). Gelwir ffrwythloniad un blodyn gan y llall yn groes-ffrwythiant, a thuedda hyn i gynhyrchu hadan a llysiau cryfach, mwy ffynadwy, a golygus. Fel y mae ym myd yr anifail a dyn,—mae "cymysgu gwaed " yn fuddiol yno-felly hefyd ym myd y blodyn,