Neidio i'r cynnwys

Tro Trwy'r Wig/Telor yr Helyg

Oddi ar Wicidestun
Crafanc yr Arth Tro Trwy'r Wig

gan Richard Morgan (1854-1939)

AETH y blwng Aeaf, a'i rew, a'i oerni, a'i bluf eira heibio. Camasom dros riniog y Gwanwyn, a safwn yn awr yn ei gyntedd. Gwelir blodau yn dryfrith ar y ddaear; daeth y wennol yn ol i'w chynhefin i chwilio am le nyth o dan y bondo; ac yma ac acw, ond anaml eto, clywir hyfrydlais y gwew lwydlas yn ein gwlad.

Dydd Sadwrn ydyw,—boregwaith teg rhywiog o Ebrill,—mis y mill a'r briallu, mis gwyn y ddraenen ddu, a mis difyr yr adar. Bob bore, ar lasiad y dydd, pan egyr y Wawr â bysedd rhosliw eurddorau y dwyrain, telora deryn du ei fawlgan blygeiniol oddiar irigyn pren gerllaw'r ty. Bore-goda yr ehedydd o'i iwth o flodau ar lawr y weirglodd, ymdorra i oroian, esgyn ar esgyll gwlith-emog i lasfro yr entrych, a chana ei ddyri yno fel cyngan angel, pan ddwyrea yr Haul,—llygorn y dydd, mewn urddas dros drum y mynyddoedd. Eilir y carolau hyn gan odlau hyawdl y ceiliog bronfraith. Tincia ei nodau perorol fel cyngan ariangloch Q yn awyr y cynddydd. Mewn eiliad ymdyr y mân adar i orfoleddu. Dan swyn a chyfaredd cydgord y plygain, ymgynhyrfa'r blodau, ymysgydwant o'u cwsg, lluchiant y mân-wlith fel perlau oddiar eu hemrynt, ac ar goesigau o felfed ymsythant i wrando ar fawlgerdd yr ednod. Agora yr aspygan, a'r anemoni, a melyn y gwanwyn, a dant y llew, a bara cann y gwcw eu llygaid mewn mewn syndod, ac ymestynnant ar flaenau eu traed i roesawu pelydrau cyntaf y wawrddydd.

Mae'n braf heddyw. Mae Natur yn ei hwyliau gore, a'i threm fu'n hir yn sarrug yn awr yn siriol. Ddowch chwi i'r wig eto am dro? Dyma hi o danom, a dim namyn y gwrych rhyngom â hi. Ymleda fel darlun o'n blaen. Welwch chwi, mae'n fyw ferw drwyddi. Mae pob coeden sy ynddi yn curo dwylaw. Maent yn estyn eu breichiau hirion, cyhyrog, allan, ac yn eu cwhwfan, cwhwfan, fel pe'n llawen gyfarch eu gilydd ar ddychweliad y Gwanwyn. Cyfarch yr onnen sy fan yma, y lwyfanen sy fan draw, a honno y fasarnen sy acw, a chwardda'r blodau yn y cysgod danynt. Cludir peroriaeth yr adar o'r pellter, ar edyn yr awel, i'n clustiau. Onid yw'r felodi'n swynol, a'r fawl-odl yn ein synnu? Gwrandewch,—

Glywch chwi dwrw'r telori, glywch chwi daro'r telynau?
Glywch chwi ar gangau yr irgoed swn yr organau?

Dyma ni yn y wig, yn sefyll ar y boncyn y safasom arno llynedd. Mae carped o fwswgl faswed a gwlan cribedig wedi ei ledu dros y llecyn.

Y FRONFRAITH.
"Eilir y carolau hyn gan odlau byawdl y ceiliog bronfraith. Tincia ei nodau perorol fel cyngan arian-gloch yn awyr y cynddydd."
Tud. 98.

Gwresog yw'r haul ar gnufau'r mwswgl. Teifl bedwen arian garedig gysgod ei changau deildlysog drosom. Wynned yw pelydr yr haul ar y paladr arian! Croga y briger meindwf dros fwnwgl y pren fel llywethau ffluwchog dros wddwf llaethwyn,—chwifiant fel cnufau o hirwallt dros ysgwyddau o ifori. Unwaith eto,maddeuwch i mi,—mae'r fedwen yn hardd. Saif yn dalsyth, fel rhian delaid, ym mysg prennau garwach a thalgryfach y wig. Wele yma fasarnen wasgarog; wele acw onnen braffgeinciog; ac wele draw lwyfanen frigog,-i gyd yn ffyrfach na'r fedwen feindlos. Yn ei hymyl, mewn clog o eiddew clymog, fel pe'n ei gwylio'n eiddig, saif pren derw rhwysgfawr, garw ei risgl, a diysgog ei osgedd, yn ardeb byw o Gadernid yn serch-noddi Prydferthwch.

Mae ysbryd y peth byw—ysbryd y Gwanwyn—fel dylanwad cyfrin yn cyniwair drwy'r lle. Ymrithia ym mhobman. Anadla ar y wig; neidia honno i fywyd fel o dan gyffyrddiad hudlath y rhiniwr. Ymchwydda, a dychlama 'r briddell dan ein traed; llydna y tyweirch cyfebron; ac esgorant ar brydferthwch ar bob llaw. Gwreichiona blodau yn fil ac yn fyrdd o groth epiliog y ddaear, cil-agorant eu hemrynt, a gwrid-wenant yn serchoglawn ar arffed aroglber eu mam. Ymsaetha'r irwellt rhigolog drwy'r gweryd, mewn gwisg dlos o las gloew, ac ymsythant gan falchder tra y rhydd pelydr melyn yr haul arliw o aur ar geinder eu hemerald. Blaendardda y coed o flaen ein llygaid. Ymwinga y blagur—y dail-fabanod—yn eu dillad magu, ymystwyriant yn eu cewylllythau crynedig, ysmiciant drwy eu cwcyllau, ymddiosgant o blygion eu gaeafwisg, a gwylwthiant eu pigau allan i dderbyn o gusanau yr heulwen loew sy'n cydgam â hwy ar sigl-lawr y cangau. Daw'r awelon ysgeifn, hoewfyw, ystwyth heibio dan suo-suo-ganu, cyffyrddant hwythau â min yr egin, gogleisiant hwy, ymlapiant am danynt, ac esgud-lithrant i lawr yr osglau gyda si-si a rhugldrwst i chware â glas glychau'r hyacinths sy'n hongian ar fain-goesigau wrth fôn y prysglwyn.

Pwy fu'n lluchio aur ac yn gwasgar arian dan y gwasgodlwyn? Serena milfil o fluron gwyn a melyn goludog dan gangau moelion y tewgoed—siriolant aneddau 'r Cysgodion. Edwyn y blodau, fel yr adar, eu tymhorau. Oer yw'r plygeiniau yr adeg yma, ac anwydog yw'r nosweithiau, felly ymdyra'r blodau dan ynn a deri, ac ymgasglant at eu gilydd yn llu mawr cyfeillgar i ddiddosrwydd llwyn a thwyn a pherth, ac ychydig welir ar y llecynau agored. Wrth fon y berth yn y fan yma cartrefa'r arllegog hirdwf eofnsyth. Gelwir hi gan y Saeson, oddiwrth ei blas a'i harogl, yn garlic-mustard. Ar lafar gwlad a dan yr enw Jack-by-the-hedge a sauce-alone. Dan y mieri, ar y naill ochr i ni, ffynna marddanadlen wen ac eiddew'r ddaear; ac yng nghysgod y llwyn, yr ochr arall tyf mefusen goeg,[1] a'r moschatel, a phidyn y gog. Llathra brieill gwynfelyn lethrau glaswelltog y clawdd dan gysgod y gwrych sy o'n blaen, a disgleiria'r mill fel amethysts yng ngwyll y drain a'r prysgyll gerllaw. Ymfwa'r fieren, a phlyg ei phen i ymgomio a'r blodau sy'n gwenu ogylch ei thraed. Edrych y ddraenen, sy eto'n ddiaddurn, i lawr fel delw o syndod ar dlysni y blodau. Ond aroswch, bydd hithau 'n deg ddihefelydd toc, dan haul melyn Mai, pan y bydd ei llyfnddail fel liainau emerald, a phob cangen lathrwen fel pleth o eira.

Ar bwys y mur sydd rhyngom â'r ysgol saif rhes o yspyddaid preiffion, a'u cangau'n ymdaflu allan droedfeddi i bob cyfeiriad. Ymsigla'r cangau hyn yn ysgafn, tra y cân yr awel hwiangerddi suo eu blagur tyner i gyntun. Yn eu cysgod, wrth draed a than odreu y coed, ymlecha llu mawr o lysiau bychain disglaer, deuliw eu dail. Tyfant finfin â'r llawr fel rosettes, ac ymwasgant mor glos ac mor dyn at eu gilydd fel nas gwelir difyn o'r ddaear rhyngddynt. Tew-frithir y carped lathr yma gan flodau melynion yn pelydru fel ser aur, ac yn gwreichioni fel lliw efydd gloew. Pipiant, fel cariadon oddi dan gwrr y llwyni; ymddangosant drwy y dellt, ac edrychant drwy'r ffenestri allan ar ogoniant teryll y dydd. Safant ar eu traed, ymogwyddant oll yr un ffordd fel pe am gychwyn am dro o'r gwyll i wawl yr heulwen. Bron na welwn hwy'n symud, ac yn cerdded yn rhengau trefnus tuag allan. A ydynt yn cychwyn, dywedwch? A ydynt yn symud? Dyma rai, welwch chwi, wedi cyrraedd y trothwy, ac ereill wedi camu drosto i'r lawnt sy o flaen eu cartref, ac yno, yng nghwmni daint y llew, a llygaid y dydd, ymheulant yn braf rhwng llafnau'r glaswellt.

Beth, ynte, yw y blodau eurlliw dysgleinio! yma? Buttercups, meddwch, dyna eu gelwir y ffordd yma.' Wel, ar yr olwg gyntaf, maent yn ddigon tebyg, ond gadewch i ni weled. Plygwn yn nes atynt. Welwch chwi, mae i'r blodau yma wyth—weithiau ragor—o fflurddail lathraidd—braidd na welwn ein llun ynddynt—tra nad oes i'r buttercups, fel y dangosais i chwi yn ystod un o'r troion o'r blaen, ond pump. Sylwch eto, mae y fflurddail yma'n hirgul, ac ni chyffwrdd un y llall—mae gwagle rhyngddynt, pan yn llydan agored. Pelydrant. Felly ffurfiant flodyn un ffunud a seren. Crynion, fel y cofiwch, yw fflurddail y buttercups, yn ymlapio'n ddel draws eu gilydd, ac gwneyd coronig ar lun cwpan heb fod yn ddwin. Eto, tynnwn un o'r blodau. Edrychwch dan y goronig. Welwch chwi, nid oes ond tair dalen yn gwneyd i fyny y flodamlen yma, tra y cyfansoddir blodamlen y buttercup, os ydych yn cofio, o bump o gibrannau—un am bob fflurddalen. Welwch chwi ddail y llysieuyn? Mae pob dalen yn gyfan—ar lun calon—yn dew, ac yn wyneblefn fel enamel. O'r ochr arall, blewog a geirwon yw dail y buttercups yn gynwysedig o ryw dair labed, a phob un wedi ei rhicio'n ddwfn, a'i daneddu, a'i minfylchu yn y ffurf fwyaf prydferth a chymesur. Unwaith eto. Sylwasoch, mae'n debyg—canys nis gallesech beidio—fod y blodau yma'n ymddangos, dan lwyn a gwrych, yn gynnar yn y flwyddyn. Parhant i oleuo gwyll eu lloches, ac i addurno eu cyniweirfan o ddechreu Mawrth i ddiwedd Mai. Ond am y buttercups, dadblygant hwy eu prydferthwch a lledant eu fflurddail i'r haul yn ddiweddarach, 'rol edwino a darfod o'r blodau yma, a phan fo barrug gloewlwyd y nos wedi hir gilio, a gwres a thes yr haf braf yn ei anterth. Carant hwy arogl y corfeillion,[2] a chwmni y swynfri[3] aur-lygad ar y llanerchau heulog agored. Cyn pen hir melynant wyneb y meusydd; gwelir cwpan aur wrth bob irwelltyn; a bydd gwawr golud ar y gweirgloddiau.

"Buttercups," meddwch, ond dywedais ddigon wrthych i brofi nad buttercups mo honynt. Unwaith eto, beth ydynt ynte? Wel, dyma lygaid Ebrill, neu'r milfyw, neu felyn y Gwanwyn, neu wenith y ddaear, neu wenith y gog, neu lygad dyniawed. Mae iddynt enw gwerinol arall. Tynnwn un o'r llysiau, yn wraidd a chwbl, o'r ddaear. Mae i'r gwreiddyn, fel y canfyddwch, nifer mawr o fân gnapiau hirgrynion, rhywbeth tebyg i gloron bychain yn dechreu ymffurfio. Tybiai'r hen bobl-a mawr oedd eu darfelydd-fod y cnapiau yma'n debyg ran ymddangosiad i glwyf y marchogion (hæmorrhoids neu'r piles) a chredent, o ganlyniad, fod trwyth neu isgell neu eli o'r llysiau yn feddyginiaeth rhag y cyfryw ddolur,[4] felly galwyd hwy ganddynt-a gelwir hwy eto ar lafar gwlad yng Ngheredigion, mi wn, a mannau ereill, fe allai-yn "ddail piles." Coleddid yr un syniad—cyfeiliornus mae'n ddiau—yn Lloegr, ac un o enwau cyffredin y Saeson, hwythau, arno yw "pilewort." Y milfyw melynliw yma yw y "little celandine," a gerid gan Wordsworth, ac y torrwyd darlun o hono, fel y crybwyllais dro yn ol, ar garreg fynor ei fedd. Camenwid ef yn buttercup yn ei oes yntau, a dygai hwnnw—flodyn yr haul—y clod ddylasai ef—flodyn y gwyll—gael, fel yr awgrymir gan y bardd yn ei folawd iddo,

Ill befall the yellow flowers,
Children of the flaring hours!
Buttercups that will be seen
Whether we will see or no;
Others, too, of lofty mien ;
They have done as worldlings do,
Taken praise that should be thine,
Little, humble, celandine!

Ydynt, y maent yn ddigon tebyg i'r buttercups. Nid rhyfedd hynny, canys perthyn y naill a'r llall o honynt i'r un tylwyth. Er nad ydynt frodyr, eto maent yn geraint agos, efallai yn gefnderwyr. Cydneseifiad iddynt yw crafanc yr eryr,[5] a'r poethfflam,[6]. a gold y gors[7] a'r arianllys.[8] Mae'r oll, fel hwythau, â blodau melyn. Y mae iddynt berthynasau o liwiau ereill. Gwyrdd ydyw blodau crafanc yr arth,[9] a thafod y llygoden.[10] Ysgarlad fel iris yr edn yw llygad y goediar.[11] Porphor yw blodyn y Pasc[12] a'r columbine. Glas fel yr awyr yw yspardun y marchog,[13] a chwewll y mynach.[14] Gwynion yw blodau yr anemoni, a barf hir y gŵr hen,[15] ac egyllt y dwr,[16] a chrafanc y frân eiddew-ddail,[17] a llysiau Christopher.

Ceir y peony o amryw liwiau—coch, porphor, pinc, melyn, a gwyn. Aelodau ydyw yr oll o'r blodau gwahanliw yma o lwyth mawr a changhennog, yr egyllt neu grafanc y fran, a dygant oll ddelw y tylwyth. Hoffech chwi eu hadnabod?

Os cawn hwyl a hamdden, fe allai y cawn eu dangos a'u desgrifio i chwi, bob un yn ei dro.

Gawn ni symud ymlaen? Cerddwn gydag ochr yr hen fagwyr yma. Mae Natur garedig wedi gwisgo ei cherrig geirwon didreigl â thrwch O fwswgl gwyrddfelyn. Cuddia y mwswgl yma rigolau dyfnion y cerrig, rhed yn fân gangau plufog, fel traceries rhew ar wydr, ar hyd eu llyfnedd, ac ymdeitl dros eu hymylon yn eddi modrwyog. Oddirhwng cysylltiadau'r cerrig, a thrwy y cwrlid tyner tyf llysiau Robert, a phig yr aran, a lledant eu hesgeiriau rhuddgoch, cymalog, drosto mewn ystum o hawddfyd ac esmwythyd. Welwch chwi'r llyseuyn bitw bychan canghennog yma sy'n codi ei ben o'r mwswgl yn y fan hyn? Tri darn yw ei ddail, fel tri bys. Mae o wawr goch, ac yn flewog a gludiog i gyd drosto. Cyffyrddwch ef a glŷn wrth eich bysedd. Coronir pob cangen gan flodeuyn gloew bychan gyda phump o flurddail gwynion. Dyma y tormaen tribys (rue-leaved saxifrage). Tyf y planhigyn yma, fel rheol, yn agenau y cerrig. Tybid yr holltai ei wreiddyn galedwch y graig er gwneyd lle iddo ei hun, ac am hynny y galwyd ef yn "tormaen." Yr un ystyr sydd i'r gair Saesneg saxifrage.

Trown ar y dde, a cherddwn ychydig ymlaen. Dyma ni yng nghanol y wig. Mae'r adar duon celgar yn clwcian, clwc, clwc, clwc, wrth ymgaru yng nghysgod y llwyni sy o'n hamgylch. Tarfir hwy gennym wrth basio, a hedant ymaith yn drystiog, fel arfer, gan whit-whit-whitio'n wyllt a chlochaidd yr adar gwirion! glywch chwi hwy?—nes disgyn o honynt yn y fan draw, bellter diogel, fel y tybiant, oddi wrthym. Edrychwch, mae nyth bronfraith yn y llwyn drain ar ein cyfer, a'r deryn yn eistedd arni. Nis gwelwn namyn ei big yr ochr yma a'i gynffon yr ochr draw. Mae ei gorff o'r golwg, yn llenwi cwpan y nyth. Mae yn deori. Clyw ni; neidia'n ddistaw oddiar ei nyth; a saif ar ei hymyl fel delw, gan edrych arnom yn synofnus, heb symud na chyhyr, na migwrn, na phlufen. Yr ydym yn symud ac yn cyffwrdd â'r llwyn. Tarfa yntau, edrych oddiamgylch, a llithra ymaith fel saeth ddistawed ag y gall, gyda "twit" isel, a "sw-i-i-sh" ysgafn—mor wahanol i'r deryn du, onide?—i un o'r llwyni. cylchynol i'n gwylio. Sylwn ar y nyth. Gwneir ei muriau allanol i fyny o fwswgl, a meuswellt, a main-wreiddiau, a dail, a mân frigau wedi eu cydwau a'u plethu i'w gilydd fel gwaith basged. O'r tu mewn dwbiwyd hi â haen o laid a thom gwartheg. Wynebwyd yr haen yma, drachefn â chaenen deneuach o bren pwdr weithiasid gan yr edn yn gymrwd drwy gymorth ei bawr gludiog. Defnyddiodd ei big i'w roi yn ei le, a'i fron, frech, gron, i'w lyinhau. Erbyn hyn mae wedi sychu a chaledumae fel cwpan Delfft,-ac nis gall na dwr nac awyr ei dreiddio. Angenrhaid yw'r ddarpariaeth yma, gan y nytha y bronfraith, fel y deryn du, ar ddechreu'r Gwanwyn, pan yw'r hin, fel rheol, yn oer ac afrywiog. Onid yw'r wyau,—bump o honynt,—yn ddel ar waelod llyfn y nyth? Glas yw eu lliw, ac wedi eu brychu, yn eu pen praffaf, ag yspotiau dyfnlwyd, bron yn ddu. Dywedwch i mi, pa un ai hwy ai yr awyr lâs-fannog uwchben sy dlysaf?

Ust! glywch chwi'r siffrwd rhwng cangau'r pren cyfagos? Y deryn yswil, pryderus, sy yna -dacw fe, welwch chwi-yn dychwelyd yn araf a gochelgar i ysbio sefyllfa y gelyn. Cadwn yn reit ddistaw a llonydd. Daw yn nes, nes, nes, o fesur cangen a changen. Disgyn ar frigyn yn ein hymyl, ac edrych oddeutu. Mae ei gynffon-o liw'r orange—tuag atom; a'i gefn gwineulwyd llyfn yn crimpio. Yn sydyn try ei ben y ffordd yma. Welwch chwi ei fron wenfelen fannog? a'i cenfydd ni; ymwylltia; rhydd here y ffordd hyn, a herc y ffordd acw. "Swith!" "Sw-i-i-sh!" dacw fe i ffwrdd eilwaith. Daw'n ol toc.

Pyncia aderyn bychan, llai na'r cyffredin, ar un o'r cangau oddiarnom. Tebyg yw ei gathl i roundelay yr asgell arian—y ji-binc—ond ei bod yn fwy tyner a merchedaidd. Mae'n fwy yn y cywair lleddf na honno. Dechreua mewn nodyn a chywair uchel, rhed i lawr y raddfa, a chan dyneru'n raddol wrth fynd ymlaen, ymdodda 'r seiniau olaf fel murmuron i'r awyr. Gwisg seml, lwydwerdd, fel gwawr yr olewydd, sy ganddo, heb liw llachar ynddi oddigerth ychydig aur, fel hanner cylch, uwchlaw pob llygad. Dyma DELOR YR HELYG[18]—"bi-fach neudryw'r ddaear" plant Talybont Ceredigion. Mae yn un o'r adar crwydr—birds of passage. Daeth yma yn niwedd Mawrth neu ddechreu Ebrill, o'r de heulog, a dychwel yno yn niwedd Medi neu ddechreu Hydref. Mae ei delyneg fel acen gobaith neu lais y gwanwyn—clywir hi cyn "cwcw" cog, na "thwit" gwennol. Aderyn bychan sioce! dygi di, a dwg dy ysgogiadau buain, adgofion fyrdd i'm meddwl. Mae dy gân yn union yr un fath a chân dy geraint ddeugain haf yn ol, yng Nghoed Pryse, a Choed Dafis, a Banc Seiri—hen wigfaoedd ardderchog fy nghartref. Caraf hwy hyd y dydd hwn.

"How dear to this heart are the scenes of my childhood
When fond recollection recalls them to view,
The orchard, the meadow, the deep-tangled wildwood,
And every lov'd spot which my infancy knew."
—Wordsworth.

Mae ei gorffyn bychan del fel pe wedi ei wneyd o arian byw, neu wedi ei wau o belydrau'r goleuni gan mor nwyfus a sione y symuda. Neidia, picia, llamsacha o gangen i gangen i chwilio am drychfilod, a chynron, a mân bryfed ereill, canys dyna ei ymborth. Piga hwynt oddiar y brigau, a thynn hwy o'r blagur. Rhwng y tameidiau ar ol pob golwyth-cana. 'Rwan mae ar frig y pren; mewn eiliad mae'n is i lawr; mae yma; mae acw; ac ymhen winciad mae yng nghanol y llwyn yn pigo, ac yn canu bob yn ail.

Glywch chwi ef? Edrychwch, wele ef rwan ar flaen cangen, yn ysbio allan dros ei hymyl, ac yn pyncio, pyncio. Gwel wybedyn yn ei basio dan ganu, fe allai. "Dyma damaid da," meddai, a llama'n bing i'r awyr; hed ar ei ol, igamogam, i fyny, i lawr, yn ol, ym mlaen, deil ef—llwnc ef—brysia'n ol i'r gangen, a chana eto. Ar amrantiad disgyn i'r llawr i hel arlwy rhwng yr irwellt. Chwilia am damaid yng nghwpanau'r milfyw, a phiga'r lindysyn o aur lygad y dydd. Ymsaetha i lwyn bychan sy o'i flaen—cana. Oddiyno adlama, crychneidia fel pêl, i fyny, i lawr, ar ol gwybedyn anffodus arall, ysglyfia hwnnwwith gusto-a disgyn yn ol, chwap, i'r llwyn, a phyncia drachefn. Gwarchod ni! mae yn chwimwth. Nid buanach, nid sydynach, yw crwydriadau astrus gwenfellten fforchog nag ehediadau gwibiog, trofaog yr edn bychan hwn. Mae wrthi eto. Rhed yn ysgafndroed ar hyd y cangau; estyn ei big i fyny; estyn ei big i lawr; teif hi'n ol dros ei ysgwydd a chipia. bryfyn bob tro. Dacw ef 'rwan ar y brig yn canu.

Wele delor arall, nwyfused ag yntau, yn dod heibio iddo,—ymgiprysant, tarawant fin wrth fin, ymsuddant i'r llwyn gerllaw. Ymnwyfusant yno, ffrilliant, cogrant, tasgant allan, ymwahanant, ac ehedant, y naill i'r goeden yma a'r llall i'r goeden acw.

Cyd ganant gathl wedi ei chymhlethu â chariad. Glywch chwi hwy?



CAERNARFON:CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.), SWYDDFA "CYMRU."

Nodiadau

[golygu]
  1. Potentilla Fragariastrum: Strawberry—leaved cinquefoil—un o flodau bychain cynaraf y Gwanwyn. Camgymerir hwy yn aml gan lysieuwyr ieuaince am y mefus gwylltion. Gorweddant ar y ddaear tra y tyf y mefus yn sythion i fyny.
  2. Lotus Corniculatus: Common Bird's-foot trefoil Blodeuant ym Mehefin. Gelwir hwy weithiau yn "traed-yr-oen," a chan y Saeson yn "shoes-and-stockings.
  3. Llygaid y dydd neu'r aspygan.
  4. Rhoddwyd "llysiau'r ysgyfaint" (lungwort) yn enw ar blanhigyn adnabyddus arall am fod ei ddail yn ysmotiog fel yr ermyg hwnnw. Credid oherwydd hynny eu bod yn rhinweddol at ddoluriau yr ysgyfaint. Oherwydd eu tebygolrwyd i'r afu (iau) galwyd llysiau cyffredin ereill yn "llysiau yr afu" (liverwort). Tybid, wrth gwrs, fod y rheiny yn llesol at glefydon yr organ honno.
  5. Celery-leaved crowfoot.
  6. Spearwort
  7. Marsh marigold.
  8. Meadow-rue.
  9. Hellebore.
  10. Mouse-tail.
  11. Pheasant's eye.
  12. Pasque-flower.
  13. Larkspur.
  14. Monk's hood.
  15. Traveller's joy.
  16. Water crowfoot.
  17. Ivy-leaved crowfoot.
  18. Willow-warbler.