Tro yn Llydaw/Rhagymadrodd
← Tro yn Llydaw | Tro yn Llydaw Rhagymadrodd gan Owen Morgan Edwards Rhagymadrodd |
Mynd i'r Môr |
I
WERIN
AC I
BLANT
CYMRU
Y CYFLWYNIR Y GYFRES HON.
AM MAI IDDYNT HWY Y CYFLWYNODD
OWEN M. EDWARDS
LAFUR EI FYWYD.
Cyflwynir i
Syr H. Ll. Watkin Williams Wynn,
Barwnig,
y llyfryn hwn am werin sydd eto'n llawn
parch tuag at ei hen deuluoedd.
RHAGYMADRODD.
MEDDYLIAIS, cyn cychwyn i Lydaw, y cawn y wlad honno'n llai dieithr imi nag un wlad arall dan haul, ond fy ngwlad fy hun, oherwydd yr un bobl yw'r Llydawiaid a'r Cymry, a'r un yw eu hiaith. Ond, wedi byw ychydig o wythnosau ymysg y Llydawiaid, a rhoddi tro amgylch ogylch eu gwlad, teimlais fod eu tebygolrwydd mawr i'r Cymry yn rhoddi rhyw ddieithrwch rhyfedd ar y bobl hyn, — ar eu hwynebau, ar eu harferion, ar eu hiaith.
"Ail Gymru ydyw Llydaw." Ie, ond gyda gwahaniaeth mawr.
Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw. Nid ydyw'r hen arferion ofergoelus, gyda'u prydferthwch dieithr, wedi eu halltudio o'r wlad; nid oes yno yr un seiat i ddinistrio "difyr-gampau diniwed y werin, ac i droi crefydd lawen y bobl yn rhagrith sur." Eithaf gwir, ac y mae yn Llydaw anfoesoldeb y buasai meddwon Cymru yn gresynnu ato.
Cymru heb ei Hysgol Sul ydyw Llydaw. Y mae'r Llydawiaid yn ofergoelus ungred,—ni agorwyd eu llygaid i weled dirgelwch yr Arfaeth a'r Gair; y mae'r Llydawiaid yn byw yn ofn yr offeiriaid, ac yn wasaidd gaeth i'w huchelwyr, ni chawsant Ysgol Sul i roddi iddynt gred yng ngwerth eu henaid, i roddi iddynt ddemocratiaeth Cymru. Y mae'n amhosibl i Gymro ddirnad anwybodaeth ei gefnder Llydewig.
Cymru wedi sefyll tua dechre'r ddeunawfed ganrif ydyw Llydaw, — mewn crefydd, mewn moesoldeb, mewn gwybodaeth. Wrth fynd i Lydaw, y mae'r Cymro'n mynd ymhellach na thros fôr, y mae'n mynd ddwy ganrif yn ol. Y mae'r Llydawiaid eto yn "eglwys eu tadau," eto'n dilyn arferion eu tadau, — yn canu'n ddiddan, yn dawnsio'n dda, yn meddwi'n chwil. Y mae Llydaw mewn perigl, ac ni fedd nerth Cymru i'w wynebu. Y mae anffyddiaeth andwyol Ffrainc yn prysur dreiddio i'w chyrrau eithaf. Y mae'r offeiriaid anwybodus hunanol am eu bywyd yn ceisio cadw'r bobl dan hud ofergoeledd; y mae'r bobl hynny, dan ddylanwad ysgolion a phapurau newyddion Ffrainc, yn dyheu am ryddid. Ond nid i'r rhyddid sydd yng nghyfraith yr Arglwydd y maent yn prysuro, ond i ben-rhyddid anfoesol digrefydd Ffrainc. Wyneb Cymro sydd gan y Llydawr, — eto heb ei feddylgarwch; canu Cymru ydyw canu Llydaw,— eto heb dân gwladgarwch a dyfnder argyhoeddiad crefydd. Ond, Os na chyfrynga Rhagluniaeth yn fuan, ni bydd y Llydawr ond Ffrancwr, — heb awen, heb athrylith, heb Dduw yn y byd. Cwyna Victor Hugo, bardd mwyaf Ffrainc, fod adlais llais Crist yn mynd yn wannach wannach yn y wlad, — {{Dyfyniad| “Mais parmi ces progrés dont notre age se vante, Dans tout ce grand éclat d'un siècle éblouissant, Une chose, O Iesus ! en secret m'epouvante, C'est l'echo de ta voix qui va s' affaiblissant."
_________________
NODYN GOLYGYDDOL. Gwyddis yr ysgrifennwyd y llyfr hwn a'r awdwr yn fachgen ifanc. Diau pe bai wedi ei ysgrifennu yn hwyrach yn ei fywyd y buasai ambell i beth ynddo yn wahanol. Ceir ynddo Llydaw fel ei gwelid gan Brotestant, eto gan un oedd yn ei charu. Dywed y Llydawyr Catholig nad ydyw y llyfr yn rhoddi eu crefydd yn yr olwg briodol, ac felly nad ydyw yn gwneud cyfiawnder a hwy. Dylai'r Cymry sydd yn cymeryd diddordeb yn eu perthynasau agos, y Llydawyr, geisio deall y ddwy olwg ar y wlad, ac wedi iddynt ddarllen "Tro yn Llydaw," ddarllen dau bamffled y Bonwr Pierre Mocaër, — "LLYDAW A CHYMRU," a "TUEDDIADAU LLENYDDIAETH LLYDAW"; Cyhoeddwr: A. LAJAT, 38 Rue des Fontaines, Morlaix, Llydaw. Dylai y gwledydd Celtaidd dynnu yn agosach at ei gilydd, dylem gymeryd mwy o ddiddordeb yn ein gilydd.