Trwy India'r Gorllewin/Rhagdraeth

Oddi ar Wicidestun
Trwy India'r Gorllewin Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Cynhwysiad

RHAGDRAETH.

GAN Y PARCH. WILLIAM LEWIS,
PONTYPRIDD.

Yn oedd yn dda iawn gennyf glywed ei fod yn mwriad fy nghyfaill a'm cyd-deithiwr, y Parch. D. Cunllo Davies, i ysgrifenu hanes y daith trwy Ynysoedd India'r Gorllewin,—taith hapus a dyddorol dros ben. Gwyddem o'r blaen ei fod yn ddyn sylwgar; a gwelsom ef ar y daith lawer o weithiau yn arfer y gallu hwnnw sydd mor werthfawr i deithiwr, ac yn cymeryd nodiadau ar dir ac ar fôr; yr oeddem yn disgwyl gan hynny rhywbeth o'i law gwerth i'w ddarllen pan y cyhoeddid ei gynyrchion. Ac ni chawsom ein siomi. Ychydig ddyddiau yn ol daeth y copi mewn llawysgrifen i'n llaw, a darllenasom ef rhag blaen, gydag aiddgarwch nid bychan; ac wrth ei ddarllen teimlem ein bod yn tramwy y llwybrau a mwynhau y golygfeydd unwaith eto.

Taith i'w chofio ydoedd i ni ein dau. Bu yn adferiad iechyd i un o honom ac yn arbediad bywyd, ac yn adgyfnerthiad mawr i'r llall, ac yn estyniad einioes, ni gredwn, ac ychwanegiad i ddefnyddioldeb bywyd y naill a'r llall, ac eangiad i'n meddwl. Rhoddodd hefyd awch newydd i'n gallu i fwynhau bywyd. Daeth addewid werthfawr gennym o ddechreu y daith hyd y diwedd. Dyma hi:—"Ac wele fi gyda thi: ac mi a'th gadwaf pa le bynnag yr elych, ae a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon, o herwydd ni'th adawaf hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt." Bu yr addewid hon i ni gystal a'i gair.

Cymaint wêl ambell un ar daith fwy nag arall! Mi welaf fod Mr. Davies wedi gweled llawer, ac y mae wedi llwyddo i ddesgrifio y pethau a welodd mewn iaith goeth, gref, gyfoethog, a phrydferth. Fe ga darllenydd y penodau hyn syniad clir beth yw mordaith. Nid oes ei chyffelyb i dreulio gwyliau; ac un rhyw un sydd yn hoffi haf o hyd cymered y daith hon. Bydd darlleniad y llyfr hwn yn sicr o greu awydd yn y darllenydd i weled yr ynysoedd hyn drosto ei hun. Ceir yma lawer o wybodaeth am gaethion duon India, ac anwariaid gwledydd pell," ac am brydferthwch digyffelyb y parthau hyn o'r byd. Ceir yma hanes darganfyddiad yr ynysoedd hyn a'r digwyddiadau ynglŷn â hwy hyd yn awr. Prin iawn yw llenyddiaeth y gangen hon o wybodaeth yn yr iaith Gymraeg, ac ychydig o Gymry sydd wedi gwneuthur y daith hon. Un Cymro welsom ar y daith fedrai siarad iaith ei fam. Gwelsom lawer i Scot, ac Americaniaid luaws.

Clywsom ein cyfaill droion yn pregethu gyda chryn arddeliad i gynulleidfa o bobl du eu crwyn. Yr oeddynt yn gwrando yn astud a byth nid anghofiwn y bonllef o Amenau godai o'r gynulleidfa yn awr ac eilwaith yn response i'w ddeisyfiadau taer ar eu rhan. Addawn i bwy bynnag a ddarlleno y pen- odau hyn wledd o ddanteithion, ac ychwanegiad gwybodaeth am India Williams Pantycelyn.-- gwledydd y perlau, ynysoedd y siwgr a'r or- enau a'r bananau, a "glannau'r palmwydd gwyrdd."