Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgof am Ieuan Glan Geirionnydd.djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol X, Rhif 55, 15 Chwefror 1896, tudalen 124-125

Adgof am Ieuan Glan Geirionnydd.

GANWYD EBRILL 20, 1795. BU FARW ION. 21, 1855.

Ah! Ieuan, dy gân, dy gof,
Ni ludd ing—ni ladd anghof.
Eben Fardd.


MAE y rhan fwyaf ohonom yn hoff o dderbyn llythyr—beth bynnag am ei ysgrifennu. Yr ydym yn hoffi clywed a gweled y bod dyddorol hwnnw—y postman—ar ben boreu, wrth y drws. "Llythyr oddiwrth ———" Yr ydym yn teimlo yn falch fod ein cyfeillion yn meddwl am danom; mae llawer llythyr fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith y dydd. Y mae arnaf led ofn fod y gelfyddyd gain yma yn dioddef yn y dyddiau hyn. Nid ydyw yn cael ei choleddu fel y bu. Oes y post-card a'r telegram ydyw ein hoes ni, ac y mae perygl i'r ddawn ohebol ddirywio o'u herwydd.

Ond, dichon fod y darllonnydd yn barod i ddweyd, fel y dywedai Michael Roberts, Pwllheli, ar ryw achlysur—Come to the point!" Pa berthynas ddichonadwy all fod rhwng y sylw uchod a'r pennawd—Ieuan Glan Geirionnydd?

Eithaf cwestiwn; ac yr wyf yn bwriadu. ei ateb, ond goddefer ychydig eiriau arweiniol ar y pwnc. Son yr oeddym am lythyrau, a'r mwynhad a roddir drwyddynt. Fel rheol, y mae eu gwasanaeth drosodd yn ebrwydd. Ar ol eu darllen unwaith neu ddwy, dodir hwy o'r neilldu, a gwelir llu o honynt yn gwasanaethu fel cyfryngau i oleuo'r bibell. Ond y mae,—neu, yn fwy cywir, hwyrach,—yr oedd ambell lythyr yn dianc rhag y merthyrdod hwn. Cafodd ei warchod gan rywun oedd yn hoff o drysorau cuddiedig. A phan ddaw un o'r rhai'n i oleuni dydd, ym mhen hanner cant neu drigain mlynedd, ar ol ei ysgrifennu,—onid ydyw yn wrthrych dyddorol, a pharchedig? Ac yn arbennig, os bydd ei awdwr yn adnabyddus fel un o gymwynaswyr llenyddol Cymru fu, onid ydyw ei ddarllen yn cynyrchu ias yn y galon? Ydyw, y mae hen lythyr, a'i ddail wedi melynu gan oed, yn meddu mwy o ddylanwad a swyn, i rai o honom, na'r ffug—chwedl ddiweddaraf.

Ac am un felly y mae gennyf air i'w ddweyd yn awr. Daeth i'm llaw dan amgylchiadau ffafriol. Yr oedd yn ddiwrnod pruddaidd a llaith. Anhawdd oedd darllen anhawdd oedd gwneyd dim amgen na synfyfyrio, ac edrych ar y tân a'r tywydd, bob yn ail. Ond dyna guro wrth y drws, a phwy ddaeth i fewn ond un o "wyr mawr Mon"; un sydd yn byw yn agos i Lys Dulas, ac un o ddisgynyddion William Elias, Plas y Glyn;—y gwr yr ysgrifennai Goronwy Owain ato, gan ei annerch fel "y celfyddgar Frytwn a'm hanwyl gyfaill gynt." Ar ol moesgyfarch a gofyn yr holiadau arferol, dywedodd fod ganddo rywbeth y caraswn ei weled a'i ddarllen, a chyda'r gofal hwnnw sydd yn nodweddiadol o'r hynafiaethydd, tynnodd ddarn o bapur o logell ei frest, gan ddweyd—"Edrychwch ar hwn." Dalen o foolscap ydoedd, wedi ei phlygu yn ol y ddefod gynt cyn bod envelopes a phostage stamps. Agorwyd y papur, a bu llawenydd mawr. Anghofiwyd y tywydd a'r pruddglwyf yn y fan. A pha ryfedd? Nid oedd y papur bregus, melynliw, yn ddim amgen na llythyr Ieuan Glan Geirionnydd —llythyr wedi ei ysgrifennu yn 1822,—74 o flynyddau yn ol. Ar y pryd hwnnw yr oedd yr awdwr yn efrydydd yn Berriew (neu Aber—rhiw" yn ol Ieuan ei hun), sir Drefaldwyn. Ond cyn gwneyd dim nodiad pellach, y mae yn fwy na thebyg y byddai yn well gonnyt, ddarllennydd, gael gweled y llythyr drosot dy hun. Y mae wedi ei gyfeirio at Mr. Thomas Jones, c/— Mr. Elias Jones, Glan'rafon, Nr. Llanrwst, Denbighshire.

Dyma fe, air am air,—

LLYTHYR Y BARDD.

Aber—rhiw,

Medi 1, 1822,

Anwyl Gyfaill,

Wrth ddechreu y llythyr hwn y mae yn dyfod i'm cof ddameg y barnwr anghyfiawn, yr hwn, rhag cael ei syfrdanu gan y wraig honno, a'i dialodd hi ar ei gwrthwynebwyr. Efelly finnau, rhag cael fy syfrdanu genyt ti ac eraill, cyfansoddais ryw fath o bennillion ar "Hiraeth y Cymro," megys y cai weled ar fyr. Yr wyf yn awr wedi fy nwyn i gaethiwed hirfaith a galarus Babilon, ac y mae y delyn oedd a'i thannau mewn cywair yn nyffryn paradwysaidd Conwy wedi myned ar yr helyg

Y delyn aeth o'm dwylaw
Olwg drwm ar helyg draw
I angof aeth, saeth i'w sôn—
Ysywaeth gerddi Seion.

Trwm yw colli cyfaill arab (dyddan)
Trwm yw mam ar ol ei hunmab,
Trymach yw fy nghalon filmwy,
Ar ol ceinwych ddyffryn Conwy.