Llanfor. Ryw noson aeth sant ar gefn ei farch at yr eglwys ar haner nos, a gweddiodd ar ei gydseintiau am gael ymwared â'r "Ysbryd Corniog." Felly fu, daeth yr hwrdd allan, a neidiodd wrth sgil y sant, carlamodd yntau ei farch yn nghyfeiriad y Geulan Goch, a rhoddodd hergwd i'r bwgan i'r trobwll; ond ni foddwyd y gwalch, oblegid aflonyddwyd ar lawer a ddigwyddent dramwy y ffordd hono am lawer o flynyddoedd; yn wir, hyd yr adeg y daeth diwygiad crefyddol mawr, nid i ymlid ymaith y bwgan, ond yr ofergoeliaeth.
Uwchben y llyn hwn y mae Bryn Pader, lle y cartrefai gynt Peter Jones, y Goat, un o ferthyron brwydr etholiadol Wynne o Beniarth a Dafydd Williams, Castell Deudraeth. Fe ddywedir mai yr achos i'r lle hwn gael yr enw "pen liniol" hwn ydyw a ganlyn,— Yr oedd hen ffordd Rufeinig yn myn'd dros y bryn hwn, a hono yn serth a charegog, a phan y deuai y pererinion o ardaloedd pellenig Llawr y Betws i addoli i eglwys Llanfor, a chyraedd pen y bryn, hwy ddeuenț i olwg yr hen eglwys, ac yna syrthient ar eu gliniau mewn ymostyngiad defosiynol. Dyna y stori fel y clywais i hi gan hynafiaethydd enwog o'r Bala, a dyna fel yr oedd yntau wedi clywed y stori gan ei hen daid, yr hwn hefyd oedd wedi ei chlywed gan ei hen daid yntau.
Yn awr yr ydym yn dyfod at ddwy ffordd gyfarfod, ac er mwyn dilyn y Ddyfrdwy cymerwn y ffordd isaf, yr hon a'n harwain i bentref hynafol
LLANDDERFEL.
Deuwn yn ol i'r Bala y ffordd arall. Awn heibio Melin Meloch, a'r Bodweni, a Dewis Gyfarfod. Yr oeddym wedi clywed yr enw diweddaf lawer tro, ond erioed nid oeddym wedi deall ei ystyr. Ond dyma hen wr ar y ffordd, gofynwn iddo ef. "Wel," meddai yntau, "yn siwr i chi wn i ddim yn iawn, ond mi glywes rywun yn deyd mai dyma y fan y darfu i ddau Wyddel ddewis i gyfarfod i gwffio.' "Wel, meddem ninau, "os oedd