bethau dyddorol. Bu farw yn Llundain yn y flwyddyn 1824, yn 76 mlwydd oed, wedi byw yno dros haner can' mlynedd. Trown yn awr i gael golwg ar
HEN EGLWYS DERFEL GADARN.
Mab ydoedd Derfel Gadarn Santi Emyr o Lydaw, ac adeiladwyd yr eglwys gyntaf tua'r chweched ganrif. Dangosir hen ysgrin uwchben pa un y safai delw o'r nawdd sant Derfel. Dangosir hefyd ddarn o geffyl Derfel, ond gallasai y ceffyl fod yn rhyw greadur arall o ran dim tebygolrwydd sydd ynddo i'r anifail defnyddiol hwnw. Dywed ereill mai llew oedd y "ceffyl," ond mae yn fwy tebyg mai y "doethion a'r philosophyddion" diweddaraf sydd agosaf i'w lle, y rhai a honant mai "carw" ydoedd y "ceffyl." Ond da waeth, nid ydyw yr hyn sydd weddill o'r pedwar troediog yn dda i ddim, nag yn addurn i Eglwys Derfel Sant. Mae yma hefyd "ffon Derfel," ac os hon oedd y wir ffon a ddefnyddiai y gwr cadarn ddeuddeg cant o flynyddoedd yn ol, mae lle i obeithio y bydd ffon ein brenhines Buddug ar gael ac yn relic gwerth edrych arni mewn cynifer a hyny o flynyddoedd. Mae yr ystori beth a ddaeth o ddelw bren Derfel Sant yn ddigon hysbys i blant yr ardal, ond rhag digwydd y bydd pob llyfr Cymraeg ond yr adgofion hyn wedi myn'd ar goll mewn mil o flynyddoedd rhoddaf hi yn fyr yn y fan hon. Gymaint o barch oedd gan yr ardalwyr i goffadwriaeth yr hen Sant fel ag y byddent yn gwneyd eilun o'r ddelw ac yn ei addoli, ac yr oedd traddodiad y byddai i'r ddelw bren hon roddi fforest ar dân rhyw ddydd. Fodd bynag, yn y flwyddyn 1538, awd a'r ddelw i Lundain o gyrhaedd y werin bobl, ac yn y flwyddyn hono fe gondemniwyd mynach o'r enw Fforest am wadu uwchafiaeth y brenin, i gael ei losgi wrth y stanc yn Smithfield, a thaflwyd delw Derfel Gadarn i'r goelcerth, yn mhresenoldeb Arglwydd Faer Llundain, a'r Esgob Latimer, a gwŷr o awdurdod ereill. Felly gwiriwyd yr