Yn ystod teyrnasiad Siarl yr Ail, ymfudodd llaweroedd o ardal Llandderfel i'r Amerig oherwydd yr erledigaethau, ac i ddangos eu cariad at eu hen wlad, ceir hyd y dydd heddyw laweroedd o enwau Cymreig ar rai o'r ardaloedd, megis Berwyn, Bryn Mawr, ac yn y blaen. Ond rhaid i ni gychwyn o'r "Llan er cymaint a garem aros yn hwy, y mae yr haul yn prysur gerdded tua'r gorllewin, rhaid i ninau gerdded yn gyflym tua'r dwyrain. Ar ol myn'd dros Bont Llandderfel down at ddwy ffordd, mae yr hon sydd yn troi ar y dde yn myn'd a ni i Dre' Rhiwaedog. Efallai y cawn fynd ar hyd-ddi ryw dro eto. Trown ar yr aswy heibio yr orsaf, ac awn yn nghyfeiriad
LLANDRILLO.
Mae genym ddau neu dri o leoedd i alw ar y ffordd. Y cyntaf ydyw Bryn Bwlan, cartref olaf Mr. Edward Ellis, gynt o'r Ty Cerig, Llangower, a brawd i'r gwr hynaws, tad yr aelod anrhydeddus dros Feirion. Yma y mae rhai o'r teulu caredig yn byw yn awr. Dipyn yn mhellach down at y Bryn Melyn, cartref Melinydd y Ddyfrdwy, Mr. Thomas Jones, is—lywydd Cyngor Sirol Meirionydd. Mae cân Seisnig a Chymraeg hefyd, o ran hyny, am "Felinydd y Ddyfrdwy," a chân hefyd i'r " Jolly Miller." Mae ein cyfaill o'r Bryn Melyn yn ateb i'r ddau. Mae hefyd yn gerddor trwyddedig, oblegid ni a'i gwelsom yn myn'd o dan y corn olew, a'r cledd, yn ngwyneb haul a llygad goleuni, yn Eisteddfod Porthmadog, yn y flwyddynos ydym yn cofio yn iawn—1873. I Mr. J. M. Jones, Caerlleon, mab y Bryn Melyn, yr ydym yn ddyledus am y darluniau sydd yn yr ysgrif hon. Dyma ydyw hoff waith ein cyfaill pan yn treulio ei ddyddiau hamddenol ar lan yr afon Ddyfrdwy yn Nyffryn prydferth Edeyrnion. Y tro diweddaf y buom yn y Bryn Melyn,"melyn" a thlws odiaeth oedd y dolydd, wedi eu hardd wisgo â briallu Mai. Ond dylem ddyweyd nad ydyw Mr. Jones yn aelod o "Gyngrair y Briallu."—Yma