CADER BRONWEN.
Dyma frenhines bryniau y Berwyn, yn sefyll ddwy fil a haner o droedfeddi o uchder, ac oddiar ei chopa ceir golygfeydd ardderchog. Edrychwn i'r gogledd, gwelwn Moel Famau, eilun trigolion glanau yr afon Clwyd, sylwi ar gopa yr hon fydd yn codi hiraeth ar y Llyfrbryf pan yn rhodiana yn Everton Brow, yn Lerpwl, ei ddinas fabwysiedig, am fyned i'w hoff Ddyffryn ac i ardal Castell yr Iarll Grey de Rhuthyn. Trown i'r gogledd-orllewin, gwelwn gopâu mynyddoedd Eryri, y "Wyddfa gyrhaeddfawr a Charnedd Llywelyn yn ymryson am y llawryf o uchder. I'r gorllewin, fe welir Llyn Tegid fel drych ardderchog, wrth ba un y mae y ddwy chwaer, yr Arenig Fach a'r Arenig Fawr yn ymbincio fel "Morwynion Glân Meirionydd" cyn cychwyn i gyfarfod eu cariadau yn min yr hwyr. Dacw ddwy chwaer arall yn y de-orllewin, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy, yn ymgystadlu am sylw Cader Idris. Gwelwn hefyd o ben Cader Bronwen gopâu bryniau Maldwyn, ac yn y pellder gwelwn frig y Wrekin, hoff gyrchle gwyr beilchion yr Amwythig ar ddyddiau hafaidd Mehefin. Ie, lle ardderchog ydyw "Cader Bronwen" i gael golygfa ysblenydd,
Dair milldir o Landrillo y mae Cynwyd, lle nodedig yn y dyddiau gynt fel man lle y cynhelid cwrtydd gan dirfeddianwyr y fro i benderfynu terfynau eu hetifeddiaethau. Ar y cyfryw amgylchiadau cawn fod y " cwrw da" yn cael lle pur amlwg yn eu plith, yn gymaint felly, fel yr ydym yn cael un tro i drwyth yr heidden effeithio gymaint arnynt yn nghyfeiriad cariad brawdol ac ymddiriedaeth fel y darfu iddynt gyduno i daflu gweithredoedd eu tiroedd i'r tân.
Yr ydym yn awr yn prysur agoshau i ben ein siwrne, ond rhaid i ni droi i gael golwg ar hen eglwys Llangar, neu "Llan y Carw Gwyn." Saif yr eglwys henafol hon yn ymyl llinell rheilffordd y Bala a Chorwen, ar y llaw dde wrth fyn'd i gyfeiriad y lle olaf. Mae