Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYNLAS

AR ol gadael Cefnddwysarn, a cherdded tua dau gan' llath yn nghyfeiriad y Bala, deuwn at lidiart ar y llaw dde. Agorwn hi ac awn i fyny ffordd serth, ac ar ol cyraedd pen yr allt cawn ein hunain yn muarth taclus Cynlas Fawr, "Cyn y Loes," medd rhai, sef cyn dyfod at faes lle bu brwydr rhwng yr hen Gymry a'r darostyngwyr. Dywed ereill mai oddiwrth Cunyg Las y tardd y gair, sef am hen dywysog Cymreig. Gwr doeth arall a ddywed mai ystyr yr enw Cynlas ydyw llanerch yn ngwyneb yr haul yn glasu yn gynt na llanerchi ereill yn yr ardal. Beth ydych chwi bobl Ffestiniog yna yn feddwl o'r esboniad diweddaf, onid ydych yn cael ynddo rywbeth lled awgrymiadol? Ond gadawn ystyr y gair i'r doethion a'r deallus, digon yw i ni wybod mai yma y ganwyd ac y magwyd Mr. Tom Ellis, yr aelod anrhydeddus dros Feirion, a phrif Chwip y blaid Ryddfrydol. Dyna beth ydyw yn awr, ond beth fydd mewn deng mlynedd, mwy neu lai, nis gwyddom.

Daeth Mr. Thomas Ellis i fyw i Gynlas yn y flwyddyn 1855, o'r Ty Cerig, Llangower. Hen balasdy, mae'n amlwg, oedd Ty Cerig; yr oedd yn dŷ mawr, a seler dano, ac yr oedd y seler hono er's blynyddoedd yn llawn o ddwr, a gwelais lawer tro yr hwyiaid a'r gwyddau yn ymddifyru yno. Yr wyf yn sicr, os daw y geiriau hyn o flaen llygaid Plenydd, neu ei gyfaill Daniel, y dywedant fod seler lawn o ddwfr a hwyiaid a gwyddau yn llawer gwell na seler lawn o faluriau cwrw.[1] Tua 150 o flynyddoedd yn ol yr oedd yn Ty Cerig, Llangower, a elwid y pryd hwnw Plas Newydd, deulu o'r enw Wyn yn byw, ac fe

  1. Yr ydwyf yn ddyledus am hanes y Wyniaid o'r Plas Newydd i Miss M. E Ellis, Cynlas.