y tri brawd ond dau leidr yn eistedd yn gyfforddus wrth y bwrdd yn y gegin fawr, ac yn mwynhau danteithion Sabbothol y Ty Cerig. Nid hir y bu y tri brawd talgryf, Thomas, Edward, a John yn rhoddi croesawiad i'r "ymwelwyr." Cyrchwyd rhaffau rhawn o'r ysgubor, a rhwymwyd y lladron. Prin yr oedd y rhaffau yn foddlon i'w gwaith anghynefin, oblegid eu hoff waith oedd rhwymo gwair ar y ceir llysg. Buan y cyrchwyd y cwnstabl o'r Bala, a chafodd yr ymwelwyr Sabbothol fyn'd i edifarhau i garchar Dolgellau, ac i dori cerig am eu gwaith yn tori ty a thori y Sabboth.
Y mae yr hen Gynlas, lle y ganwyd Tom Ellis, wedi hen fyned i wneyd lle i'r Gynlas bresenol, ty prydferth a chyfleus i gyfarfod âg anghenion yr oes. Fferm dda ydyw Cynlas, wedi ei thrin yn rhagorol gan Mr. Ellis er's deugain namyn un o flynyddoedd. Mae ugeiniau o hen fyfyrwyr y Bala yn gwybod yn dda am Gynlas, ac wedi profi o garedigrwydd a chroesaw Mr. a Mrs. Ellis, y ddau yn ymgomwyr dyddan ac yn ddarllenwyr mawr a deallgar. Pwy bynag fydd yn ysgrifenu hanes Cynlas mewn can' mlynedd, nid ceisio esbonio yr enw Cynlas a wna, ac ni fydd eisieu son am Rufeiniaid ac am y brwydrau, ond ysgrifenu a wna am Gynlas fel man genedigol gwleidyddwr enwog, yr hwn a orweddai yn faban yn ei gryd pan y disgwyliai ei anwyl rieni dderbyn gyda phob post rybudd i ymadael o'u cartref ar gyfrif eu daliadau crefyddol a gwleidyddol. 'Does ryfedd fod ein gwron o Gynlas yn wleidyddwr mor graffus, yn genedlgarwr mor drwyadl, ac yn un o arweinwyr blaenllaw Cymru Fydd.