fyno hyny ddim â'r pwnc mawr ydw i wedi cael fy mhenodi i'w agor heno. Be' sydd fyno 'Cyfiawnder' â shiope, a chryddion, a theilwriaid? 'Tâl dy ddyledion i'r Arglwydd'—dyna ydi y pwnc mawr.'
"Ond sut y medr pobl dalu i'r Arglwydd os na thâl pobl iddynt hwy yn gyntaf?"
"Robat bach, yr ydych chwi yn edrych ar y pwnc mawr o safon rhy isel. Mae arnaf ofn nad ydych chi ddim yn 'studio llawer ar Dduwinyddiaeth: mae'ch meddwl chwi ormod gyda'r pethau sydd isod'—pedolau a phethau felly. Ond rhaid i mi fyn'd. Cofiwch y gaseg, Robat, a rhowch dipyn o ddur ar y pedolau blaen, yr ydw i yn myn'd i'r Cyfarfod Misol 'fory. Mae yno dipyn o allt go serth, ac y mae hi fel da hi am rewi heno."
Aeth Robat y Go' yn mlaen gyda'i waith, a gyrodd i nol caseg Mr. W. Yr oedd wedi meddwl yn sicr cael myn'd i'r capel, ond 'doedd dim chance: yr oedd yn rhaid pedoli caseg y pen blaenor, a gwneyd amrywiol jobsus ereill tra y bydde y bobl yn y capel. Ding dong, ding dong a glywid ar engan y gof, tra yr oedd y pwnc "Cyfiawnder" yn cael ei ymdrin yn y capel, a thra yr oedd Mr. W. yn hedfan uwchlaw amgyffred ei wrandawyr gyda "pethau sydd uchod" yr oedd ei gyd—aelod, Robat y Go', wrthi yn rhoddi pedolau ar garnau ei farch, dan ganu iddo ei hunan,—
"Pechadur wyf, O Arglwydd,
Yn curo wrth dy ddôr,
Erioed mae Dy drugaredd
Diddiwedd yn ystôr."
Aeth y seiat drosodd, ac yn fuan yr oedd llon'd yr efail o bobl, a thoc dyma Mr. W. yno,—
"Ydi y gaseg yn barod, Robat. Gobeithio eich bod chi wedi rhoddi dur—mae hi yn rhewi yn ffast. Cawsoch golled fawr na fasech chi yn dwad i'r seiat. Mi dria i gael amser i edrach dros y bil ar ol dwad o'r Cyfarfod Misol. Nos dda, Robat."