Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arglwydd. Cofia, John bach, am yr hen Dalsarn, Robat Ellis, Dafydd Morris, William Herbert, Evan Owen. A hefyd 'rwyt ti yn 'nabod llawer o bregethwyr hen ac ifanc y dyddie yma. Paid a mesur rhyw barblis wrth hoelion wyth. Gwrando di ar y genadwri—hidia befo y cenhadwr."

Hawdd iawn ydi i chi siarad, Robat Jones; yr ydych wedi cael gras."

John bach, paid a siarad fel yna. Os nad wyt ti wedi ei gael dos ar dy linie heno, a gofyn am ei gael. Mi glywest am y dyn yna gafodd ei ladd yn y chwarel heddyw. Y mae yn dda iddo erbyn hyn fod ei bac yn barod."

Yn wir, Robat Jones, llawer ffitiach i chi fod yn y sêt fawr na'u haner nhw. Yr ydach chi yn gwneyd mwy o les mewn ffordd syml fel hyn na llawer pregethwr gyda phregeth hir, a hono yn bene ac yn rhane i gyd. Os ydi y stwffl yn barod, rhaid i mi fyn'd. Nos dda, Robat Jones; mi dalith mistar rhywbryd."

Pan aeth gwas Tyddynygwair allan, dyma rhyw stordyn o wâs bach oedd yn helpu gyda'r godro a thua'r stabl yn y Buarth Mawr yn codi oddiar rhyw hen aradr oedd yn disgwyl am y "doctor" yn nghornel yr efail, ac yn dyweyd "Robat Jones" lon'd ei gêg.

"Wel, be' sant di eisie, Wil?"

"'Sgenoch chi raw reit dda newch i werthu i mi, Robat Jones; mae arna i eisia cael rhaw i mi 'nhun?"

"Oes siwr, Wil; wyt ti wedi cael lle i dori bedde, neu wyt ti yn myn'd yn brentis i ddysgu dal tyrchod daear. Ond dyma i ti raw newydd spon am dri a chwech."

"Na ro byth, Robat. Jones (gan boeri sug tybaco), mi ro i chi haner coron.

"Na roi byth, Wil; wyddost am dana i—fydda i ddim yn gwneyd dau bris.'

Wel, rhowch bres peint o gwrw, ynte."

"Ffei o honot, Wil, yn son am dy gwrw. Fydde yn well gen i ro'i hoelion at ro'i yn dy arch di o lawer. Ond