capel ni. Ar ol ffarwelio â'm tad a'm mam, y tro cynta 'rioed—fu mi ddim noson oddi cartref o'r blaen yn fy mywyd—'roedd hi wedi myn'd yn galed iawn ar yr hen wraig; ac yr oedd rhyw lwmp yn fy ngwddw ine, a'm llygaid yn llawnion iawn. Pan yr oeddwn wedi myn'd rhyw ganllath, troais fy mhen yn ol, a dyna lle yr oedd fy nhad a'i bwyse ar y llidiart, a mam a'i ffedog gingam las a gwyn wrth ei llygaid, a dyma hi yn gwaeddi nerth ei phen, "Cofia fyn'd i Seiat y Beirdd, Benjamin anwyl."
CYRHAEDD LLANGOLLEN.
Medi 20fed, 1858, oedd y diwrnod bythgofiadwy i mi fynd i'r 'Steddfod gynta'. Y bobl anwyl, fu y fath fflagie? Yr oedd fflag yn mhob ffenest, ac ar ben pob coedyn. Yr oedd yr hin yn braf, a pheth ofnadsen o bobl ono, a phawb yn ei gneyd hi am y babell. Wel 'doedd hi ddim llawn cymaint a Pafilion C'narfon, ond mi 'roedd hi yn ddychrynllyd o fawr. Tales swllt am fyn'd i mewn, a bobol bach, weles i 'rioed le mor grand. Yr oedd y lle wedi ei wisgo efo dail a banere, a lot o enwe mawr wedi eu printio efo hen drioedd ac arwyddeiriau Cymreig, megys "Y gwir yn erbyn y byd," "A laddo a leddir," ""Oes y byd i'r iaith Gymraeg," "Heb Dduw, heb ddim; Duw a digon." Pan welais yr olaf, meddwn wrtha fy hun, Mae hi yn o dda yma, os do'nt a'r geiriau hyny yma. Mae mam yn o agos i'w lle."
PWY WELAIS ? PWY GLYWAIS?
Gan mai hon oedd fy 'Steddfod gyntaf, yr oeddwn yn awyddus iawn i adnabod pob bardd, pob llenor, a phob dadgeiniad, ac yn enwedig y telynorion a'r canwyr penillion. Daethum i gydnabyddiaeth â rhai o honynt, a gwnaethum gyfeillion gyda rhai a barhaodd am lawer o flynyddau, yn wir, hyd y symudwyd hwy gan yr angeu. Gwelais lawer yno y tro cyntaf a'r tro olaf hefyd ran hyny. Gwalchmai oedd prif fardd y