chwe' troedfedd a dwy fodfedd heb fy nghlocs, neu gobaith gwan fuasai i mi wel'd y "cadeirio;" oblegid yr oedd pawb yn estyn eu gyddfau fel gwyddau. Ond pe buasai genyf wddf fel Giraffe, ni welswn y bardd a enillodd y Gadair; oblegid yr oedd ef y pryd hyny yn dysgu hogie i fyn'd yn bregethwyr yn Nghlynnog Fawr yn Arfon. Glywsoch chwi erioed son am Eben Fardd? oblegid efe ydoedd y bardd cadeiriol yn 1858. Do, mi glywodd pob Cymro trwy'r byd am Eben Fardd, ac os na chlywsoch, rhag cywilydd i chwi. Pwy na chlywodd am gadeirfardd Eisteddfod Powys, yn Trallwm, 1824? a chadeirfardd y Gordofigion yn Lerpwl, 1840? Am nad oedd "Eben" yn Llangollen, yn 1858, chefais i fawr iawn o hwyl efo busnes y cadeirio cyntaf i mi weled. A dyma gynghor henafgwr i bobl Caernarfon, os oes modd yn y byd, mynwch gael y Bardd Cadeiriol ei hunan yn y Gadair neu fe golla y dyddordeb i'r rhai fyddant yn bresenol.[1]
Y RHIANGERDD.
Nid oedd y beirniaid yn cydweled gyda golwg ar y buddugol eto; mynai dau mai "Tudor" oedd y goreu, a mynai y llall mai "Myfenydd" oedd y goreu; ond y mwyafrif a orchfygodd yn ol "defawd a braint," a chafodd "Myfenydd" honourable mention, Pan alwyd ar Tudor yn mlaen, gwelwn fachgen ieuanc o'n hardal ni yn cerdded yn mlaen at yr esgynlawr, a bu agos i mi waeddi dros y lle "Well done, John." Edrychai yn wylaidd, a gwridai fel meinwen wrth gael cusan gan ei chariad. Enw, enw, enw," llefai canoedd yn y dorf, a dyma Gwalchmai yn gofyn am osteg, ac yn gofyn i'r llanc am ei enw, ac yna gwaeddai mai John Ceiriog Hughes, o Fanchester, oedd y buddugwr. Bu agos i minau waeddi nerth fy mhen, "Na, y ni yn yr ardal acw sydd yn hawlio John bach." Glywsoch chwi son am dano fo, lanciau Eryri? Do, do; mae'n siwr nad oes nemawr un ohonoch nad ydych wedi
- ↑ Ysgrifenwyd hwn cyn yr Eisteddfod.