Am bwy yr ydym ni yn myn'd i son, mhlant i?
Am Iesu Grist.
Pwy oedd Iesu Grist, mhlant i? Ai rhyw General mawr oedd o, rhywbeth yn debyg i'r Duke o' Wellington?
Nage.
Rhyw fath o Christopher Columbus wedi darganfod Cyfandir mawr oedd o?
Nage.
Wel, seryddwr mawr oedd o ynte, fel Syr Isaac Newton?
Nage.
Wel, pwy oedd o ynte?
Duw a Dyn.
Aeth Mr. Owen yn mlaen fel hyn gyda'r bumed benod o'r Rhodd Mam.
Yn mha le y bu Iesu Grist farw?
Ar Galfaria.
Pa fodd y bu ef farw?
Trwy gael ei groeshoelio.
A gladdwyd ef?
Do, mewn bedd.
Be' ddudsoch chi, mhlant i? Ddudsoch chi fod Iesu Grist wedi ei gladdu?
Do.
Welsoch bobl yn cael eu claddu, mhlant i?
Do.
Wel, roeddech chi yn dweyd fod Iesu Grist wedi dwad i'r byd i gadw pechaduriaid ond oeddech chi? Oeddan.
Ac yr ydech chi yn dweyd ei fod o wedi cael ei gladdu?
Yden.
Ar hyn cymerai yr hen holwr ei gadach poced a rhoddai wrth ei lygaid gan ysgwyd ei ben heb ddyweyd gair. Bu distawrwydd mawr fel y bedd, y plant a'r bobl oll yn ocheneidio, ac un hen wreigan yn y gallery yn methu dal heb dori allan i wylo. Tynodd yr holwr