Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd hi y noson hono. Felly y parhaodd y ddrama—cosyn versus pwnch ginger wine, nes bu i'r ddau ddarfod. Ond rhyw amser ciniaw, pan ddaeth John a minau o'r Coleg, bu tipyn o farce. Yr oedd yn ystod y boreu briodas wedi cymeryd lle, ac yr oedd y priodfab a'r briodasferch wedi troi i dy yr hen weddw, sef ein llety ni, i gael tropyn o'r ginger wine, i gael bracio y nerves newn amgylchiad mor bwysig. Aeth y westywraig i'r cwpwr cornel; yr oedd y botel yno yn ddigon diogel, ond yr oedd y gwin yn non est. Pan yr oedd John a minau yn dechreu ar ein boiled mutton oeddym wedi brynu gan Edward Jones o'r Wenallt, daeth y weddw i fewn i'r ystafell, a'r botel wâg yn ei llaw, ac meddai,— Pwy ohonoch chwi fu yn yfed fy ginger wine i, tybed? Edrychais mor ddiniwed a'r oen bach, a gofynais,— 'Pwy yn y gegin fu yn bwyta ein cosyn ni?' Exit y weddw dduwiol, a'r botel wâg gyda hi, ac ni chlywsom air byth am y pwnch, ac ni ddarfu i ninau o wir barch at yr hen Gristionoges edliw gair byth am y cosyn." Dyna y stori i chwi mor agos ag y medraf ei chofio fel y clywais hi gan fy hen gyfaill anwyl ag y buom yn eistedd ar ei lin lawer tro yn 1848, ac mewn blynyddoedd wedi hyny yn gwrandaw arno lawer tro yn rhai o brif Sasiynau Cymru.

SIOMEDIGAETH.

Dyma ystori a glywais gan foneddwr oedd yn Ngholeg y Bala yn 1848: y mae yn fyw ac yn iach heddyw, ac yn llywyddu ar Goleg lle y troir allan 30 o ysgolfeistriaid bob blwyddyn. Wrth edrych arno y dydd o'r blaen, meddyliwn mai ychydig o ddynion sydd i'w cael wedi gwneyd cymaint o waith, a hwnw yn waith mor bwysig yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg ar hugain diweddaf, ac yn cadw ei oedran mor dda. Hir oes iddo eto, meddaf, i barotoi dysgawdwyr i "Gymru Fydd."

Cafodd dau o'r myfyrwyr wahoddiad gan Miss Owen i fyn'd i Ivy House i gael tipyn o swper. Trêt o'r mwyaf oedd hwn i'r bechgyn, oblegid yr oedd llawer