dwsin o wye cowenod, oedd hi wedi brynu gan y cymdogion, ac yr oedd hi wedi crasu lot o fara ceirch, ac wedi rho'i tri potiad o jiam gwsberis oedd hi wedi ei wneyd ei hunan. Mae hi yn trio'i gora cadw i fyny efo'r hen lanc er mwyn i a'r plant. Aeth Sara druan ddim i'w gwely trwy'r nos, yr oedd arni gymaint ofn i mi golli'r trên cynta'; ond 'doedd dim ffiars, chysges i ddim winc. Mi ddoth Sara â'r holl blant efo fi i'r stesion, a'r babi ar i braich, a Wil yn cario numbar 7— a Robin a Dwlad yn cario y bocs. Pan welodd stesion mastar Nantlle ni, dyma fo yn gofyn oedden ni i gyd yn myn'd, os felly byddai raid i ni gael special trên. Ond dyma fi yn bwcio i Lundan, a phan yr oedd y trên yn cychwyn, mi ddechreuais ysgwyd llaw a chusanu, gan ddechra gyda'r babi a diweddu efo Sara druan, ac yr oedd hi wedi myn'd yn un swp yn fy mreichiau. Cyrhaeddais Bangor yn ol reit, a dyma fi yn gofyn i ryw bortar am ddangos through carage i mi. Smocin, syr," medda fo. "Yes," medda fina, a fewn a fi; twtsiodd ei gap, ac mi wyddwn i beth oedd hyny yn feddwl;—rodd o yn meddwl mod i yn dipyn o wr bonheddig—wedi bod yn aros yn y Faenol—a rhag iddo feddwl yn wahanol, rhois bisin tair iddo fo. Wrth gwrs, yr het silc oedd wedi gwneyd hyn, a'r siwt oeddwn i wedi gael.
Nid wyf am ddyweyd hanes fy nhaith—run fath fydda i yn gweled pob taith—caeau, coed, ac afonydd, a lot o dai. Digon i mi yw dyweyd fy mod wedi cyrhaedd Euston yn sâff tua pump o'r gloch,—a bod hi wedi bod yn gryn helbul arno i yno. 'Doedd Dei ddim wedi dwad i ngyfarfod i mewn pryd, ac mi ades fy het silc ar y shilff uwch fy mhen,—a thra yr oeddwn i yn edrych am Dei, dyma blisman ata i yn gofyn i mi be oedd gen i yn y bocs; fod o yn debyg iawn i'r bocsus fydd geny nhw yn cario dynameit.
Hegs, syr," medda fina, "and bred ceirch my wife was make for my brother Dei. Did you saw him, syr." Gyda hyn dyma Dei i'r stesion yn un chwys