straeon, fel lot o hen ferched. Mi roswn ni yn y fan yma am dipyn; 'does wybod pwy ddaw heibio i ni. Gwelsom lawer iawn o'r membars yn myn'd i fewn ac allan, ac yr oedd Dei yn nabod llawer o honyn nhw o ran eu gweled. Gwelsom Mr. Chamberlain a Mr. Balfour; a dyna glamp o ddyn mawr tew yn dwad allan.
Dyna y Syr William Harcourt hwnw fu yn Mhafilion Cnarfon er's talwm," ebai Dei, a chyda'i fod o yn deyd hyny, mi drois fy mhen tua'r cyntedd nesa allan, a phwy welwn i yn dwad i fyny y steps ond Bryn Roberts, ein membar ni. Tynais fy het iddo, nodiodd yntau arna ina a safodd, gan ddeyd,
"I have not the plesiar of no you, syr."
Ebe fina yn Gymraeg, "Yr ydw i yn eich nabod chi, Mr. Roberts, yn reit dda. Edward Ffowc, o Dalysarn, ydi f'enw i—numbar 596 ar y registar yn y lecsiwn ddweutha."
"O, Mr. Ffowcs, mae'n reit dda gen i'ch gweled chi. A pwy ydi y boneddwr yma sydd gyda chi?"
"Dei fy mrawd ydi o, syr. Mae o yn byw yn Llundan er's dros ugian mlynedd."
"Fasech chi yn leicio myn'd i'r Ty? Dowch efo mi i'r Lobi eich dau, ac mi a edrychaf a oes yna le i chị." Fu o ddim deng mynud nad oedd o yn ei ol a golwg siriol arno fo.
"Dowch ffordd yma, gyfeillion, mae yna le i ddau yn y gallery."
Felly yr aethom i mewn, a dywedodd Mr. Roberts wrthym am yru ein henwau ar dipyn o bapyr efo un o'r plismyn ato fo pan fyddem yn myn'd allan.
Wel da i ddim i ddechra darlunio petha yn y Ty, mae hyny yn cael ei neyd mor aml yn y papyr newydd. Un o'r rhai cynta' a welais i yno oedd yr hen Gladstone,—mi ddarfu i mi ei nabod mewn mynud. 'Does neb yn Nghymru na fuasai yn adnabod yr Hen Wr ardderchog. 'Doeddwn i yn deall yr un gair oedd neb