Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hen flaenor yr oedd distawrwydd yn y pwlpud, a meddyliodd yr hen frawd fod y bregeth drosodd, a bod y gynulleidfa yn disgwyl wrtho i gael trefn y moddion am yr wythnos. Dyma fo i fyny ar ei draed, ac meddai, Cyfarfod canu am bump, Mr. Jones am chwech, Cyfarfod Gweddi nos yfory, Seiat nos Fawrth, Mr. Jones y Sabboth nesa'." Methodd y gynulleidfa a dal, aeth pawb i chwerthin, ac yr oedd y pregethwr yn dal ei gadach poced wrth ei safn, ddywedaf fi ddim mai chwerthin yr oedd yntau, meddyliwch chwi beth a fynoch. Rhoddwyd penill allan i ganu, ond ychydig iawn ddarfu "joinio y chorus." Yr oedd pawb wedi myn'd adref cyn tri o'r gloch. Dyna y stori fel y clywais i hi gan hen gyfaill oedd yn bresenol, ac y mae hyny yn ddigon i mi gredu yn ei geirwiredd.

TWYMNO'R CAPEL.

Un gauaf oer iawn,—sef y gauaf y rhewodd Llyn Tegid drosto, ac yr oedd y rhew mor gryf fel y gellid myned a cherbyd ar ei draws yn berffaith ddiogel,— y gauaf hwnw, penderfynodd y brodyr yn nghapel Ioan Pedr gael stove i dwymno'r capel, ond yr oedd hyny yn groes iawn i feddwl Tomos Cadwalad, a safai yn gryf yn erbyn y symudiad.. Credai ef nad oedd eisieu dim gwres o gwbl ond gwres yr efengyl yn nghalonau pechaduriaid i'w cadw yn gynes. Gwrthwynebai ef yn gryf gael dim byd i'r capel i wneyd cynesrwydd artificial, a chredai yn sicr y deuai a barn yr Hollalluog ar eu penau. Ond y mwyafrif a orfu, a bu raid i'r hen Gristion foddloni i'r drefn.

Rhoddwyd y gwaith o osod y stove i saermaen a adnabyddid oreu wrth yr enw "Evan Pobpeth," ond nid bob amser y medrai Evan wneyd "pobpeth" yn iawn, ac felly gyda'r stove. Bu Evan wrthi ddyddiau yn ceisio cael "bwgan" Tomos Cadwalad, i weithio. Gwelai yr hen frawd Evan yn myned ol a blaen i'r capel, ac effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y ciliodd cwsg, ac y methodd a bwyta. Rhyw brydnawn daeth