Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd wedi eistedd dros Sir Feirionydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd Peter Jones yn un o ferthyron yr etholiad fythgofiadwy hono. Dylasai fod cofgolofn ar heol fawr y Bala yn goffadwriaeth am y gwŷr da hyny a ddioddefasant dros eu hegwyddorion yr amser hono. Foreu diwrnod yr etholiad collwyd Peter Jones yn foreu iawn o'r Rhydwen. Daeth cerbydau o'r dref oddiwrth y ddwy blaid i'w gyrchu i'r etholfa, ond nid oedd son am Peter. Chwiliwyd yr ysgubor, yr ystabl, a'r beudai. Awd i gorlanau y defaid i'r mynydd, ond nid oedd son am Peter Jones.

Bu yn gyfyng iawn arno o'r ddeutu. Dywedai un llais wrtho, Dos i'r Bala i fotio dros Williams, Castell Deudraeth. Dywedai llais arall yn groch,—Na, Peter, cerdd di i roddi dy bleidlais yn ol dymuniad dy feistr tir, dyna y peth goreu i ti o lawer. Yn nghanol y grug yr oedd Peter Jones yn llechu, ac nis gŵyr neb ond ef ei hunan a'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth yr ymdrech y bu ynddi. Buom yn dychymygu lawer gwaith fod y defaid yn edrych ar yr ymdrechfa, ac yn gwel'd y gwr ar ei liniau yn nghanol y grug, ond efallai nad oedd yr olygfa yn un anghyffredin iddynt. Mae'n debyg mai nid dyna y tro cyntaf na'r diweddaf y bu Peter Jones o'r Rhydwen ar ei liniau yn y grug.

Wel, yr oedd lecsiwn fawr 1859 yn myn'd yn mlaen yn y Bala, ac yr oedd pob pleidlais o werth amhrisiadwy. 'Doedd dim son am Peter Jones o'r Rhydwen. Yr oedd y poll i gau am bedwar o'r gloch. Dyma fys yr hen gloc mawr ar dri-chwarter wedi tri-haner awr wedi tri, ond dim golwg ar Peter Jones. Safai Evan Peters yn y dyrfa yn welw ei wedd gan bryder.

"Ddaw o ddim yn siwr," meddai rhywun.

"Choeliaf fi ddim," meddai Evan Peters, "tan fydd y cloc wedi taro pedwar." Dyna fys y cloc ar chwarter i bedwar, dyna ryw waedd yn y "Stryd fach." Be' sydd yn bod? Dyma Peter Jones wedi dwad," meddai ugeiniau o leisiau. Aeth yr hen wr i'r Town Hall. Yr oedd yno agent y