Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—nid argraphu ar bapyr, ond argraphu ochrau y defaid gyda llythyrenau pitch ar ol eu cneifio. Bu canoedd lawer o ddefaid yn tramwy ar fryniau mynydd mawr y Berwyn âg ol fy argraphwaith i arnynt. Llawer dafad a argrephais â'r llythyrenau P J., E J., M E., a T E. Dyna oeddynt lythyrenau Rhydwen, y Wenallt, y Gilrhos, a'r Ty Cerig. Dechreuais ddysgu "argraphu" pan yn chwech oed, a rhoddais i fyny y grefft pan aethum y tu ol i'r counter i werthu pitch, nôd coch a lamb black. Wn i ddim beth fuasech chwi, argraphwyr proffesedig yr oes hon, yn galw y llythyrenau? Nid bourgeoise, long primer, na small pica, na chwaith small caps. "Caps" oeddynt mae'n siwr, ond "large caps." Nid oedd yr argraphwaith ar ochrau y defaid yn hir—barhaol, oblegid byddai gwlan y defaid yn "tyfu drachefn," fel y "tyfodd gwallt Samson drachefn," ac yna collai y llythyrenau pitch, ac yr oedd yn rhaid cael nôd arall, sef

NOD CLUST.

Dyma "nôd" farbaraidd dros ben; wn i ddim lle cafodd yr hen Gymry y drychfeddwl an—ardderchog, os nad gan y Tyrciaid neu y Persiaid. Maent hwy, medd ysgrifenydd yr erthygl ragorol Yma ac Acw yn Asia yn y rhifyn cyntaf o'r LLENOR, yn hoff iawn o "dori clustiau" dynion, beth bynag am glustiau defaid. Waeth gan y Shah dori clust dyn i ffwrdd na'i 'winedd. Golygfa a barodd i mi wylo lawer tro oedd gwel'd y bugail neu y bwtsiar yn tori clustiau yr ŵyn bach diniwed. Buasai yn llawer gwell genyf eu gwel'd yn tori clust y bugeiliaid; byddai fy nghalon yn gwaedu wrth wel'd y gwaed yn treiglo i lawr benau yr ŵyn bach.

Wn i ddim yn sicr a ydyw nodau clustiau gwahanol siroedd Cymru yn gwahaniaethu llawer, ond dyma rai o nodau sir Feirionydd:—1. Nod canwar—tori bwlch yn mlaen y glust: 2. Nod carai—tori un ochr i'r glust: 3. Nod sciw—tori un ochr i'r glust ar sciw: 4. Bwlch tri thoriad: 5. Bwlch plŷg: 6. Tori blaen y glust.