Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd fam i'm cyfaill hawddgar o'r Shop Newydd, Bala, ac hefyd i Mr. Edward Williams y darlunydd, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y darlun o Edward Jones ar gefn yr ebol asyn. Derbyniais lawer o garedigrwydd gan yr hen chwaer dduwiol pan oeddwn yn blentyn, ac yr wyf yn y fan hon yn dymuno heddwch i'w llwch. Bu Evan Jones y Wenallt fyw i fod yn 91 inlwydd oed.

Yn y flwyddyn cyn iddo farw, sef y flwyddyn 1848, penderfynwyd cynhal cyfarfod pregethu ar brydnawn Sul, yn y fan lle byddai y Methodistiaid yn pregethu ar y mynydd cyn son am yr un capel yn yr holl ardaloedd. Nid oedd neb a allai ddangos y llanerch gysegredig heblaw Evan Jones y Wenallt. Cafwyd gan yr hen wr ddyfod yno, ac aeth ati i chwilio am y pwlpud careg, lley safai Howel Harris, Daniel Rowland, Jones o Langan, a Lewis Evan, i bregethu yn amser yr erledigaethau. Yr oedd tyrfa anferth o bobl pum' plwyf Penllyn wedi dyfod yn nghyd. Saif yr hen bwlpud careg ar glawdd mynydd tir Bryn Hynod. Gofynwyd i Mr. John Jones, y Shop, Llanuwchllyn, ddechreu y cyfarfod,—John Jones oedd fab i William Jones, y Rhiwaedog. Bu John Jones am lawer o flynyddoedd yn drefnydd cyhoeddiadau Methodistiaid Meirionydd, yr amser y byddai cynifer o wyr dieithr y De yn dyfod ar hyd a lled y wlad. Mab i John Jones ydyw Mr. Iorwerth Jones, Bryntirion, un o flaenoriaid Cefn Dwygraig, ac iddo ef yr ydym yn ddyledus am rai o'r manylion yn yr ysgrif hon. Wel, John Jones, Bryntirion, roddodd y penill allan yn y cyfarfod,

Dros y bryniau tywyll niwliog
Yn dawel f enaid edrych draw,"

nes y bu bron iddi fyn'd yn orfoledd ar y dechreu. Pregethwyd y prydnawn bythgofiadwy hwnw gan Dr. Parry, y Bala, a Dafydd Dafis, Cowarch. Fel y dywedais bu farw y flwyddyn ddilynol Evan Jones, hen wr y Wenallt, yn 91 mlwydd oed, a theyrnasodd ei fab yn ei le.