ymborth yn unig. Ai yr "head partner" oddiamgylch i hel ordors ar hyd y tai; ac yna deuai yn ol, a dywedai,—Wel, Mari, yr ydw i wedi gwerthu pob aelod, a'r penau hefyd." "John," meddai," taro i lawr ar y papyr yma,—leg i Mr. Edwards, a leg i Blas'r Acre, spawd i Lantegid, a nec i'r Dirwesty," &c.,—byddai amryw o'r myfyrwyr yn lodgio yn y Dirwesty. "Beth am y pen, f'ewyrth?" "Wel, yr ydw i wedi anghofio, John. P'run o'r stiwdens yna wyt ti yn feddwl sydd eisieu pen fwyaf?" Ond yr oedd y cwestiwn yn rhy anhawdd i mi ei benderfynu.
Yn y ffordd hon elai llwdwn ar ol llwdwn a llo ar ol llo. Byddai busnes y stondin drosodd yn gynar iawn. Buasai Edward Jones yn gallu gwerthu llawer mwy pe mynasai, ond yr oedd yn gwerthu ac yn rho'i llawer fel yr oedd. Cychwynai Mari Jones adref yn gynar, a'r tâl goreu a ddisgwyliai y "clerk in chief" bychan oedd cael myn'd gyda'r hen nain i dreulio y Sabboth yn y Gilrhos dawel. Rhoddwn haner fy mywyd am gael unwaith eto dreulio Sabboth yn y Gilrhos; wel ie, `dase nain yno, a chael dweyd adnod eto yn nghapel bach Cefn Dwygraig. Yr wyf yn cofio un noson oer a drycinllyd yn mis Rhagfyr fyn'd gyda'r hen wraig adref trwy goed y Fachddeiliog a thrwy y Pant Teg. Nid oedd arnaf ofn y Tylwyth Teg, yr oeddwn wrth ochr fy nain, ac nid oedd arnaf ofn "Jack y Lantern," oblegid yr oeddwn yn cario yr hen lantern gorn, oedd fel lusern wedi bod yn "llewyrch i lwybrau" Mari Jones er's llawer o flynyddoedd. Ar ol galw yn y Wenallt i ddweyd wrth Sarah Jones fod Edward Jones yn dwad, ar ol cael smoke efo y Doctor, a chwpaned efo Miss Lloyd, Plas yr Acre, a chwpaned efo hwn a'r llall, ac i ninau gael cwpaned yn yr "Halfway house," sef y Wenallt,—aeth yr hen wraig a'i hŵyr bychan dros y "Bryniau "—wel, ie hefyd "tywyll niwliog" y noson hono. Pan ar dop y "Bryniau," un o gaeau y Wenallt, aeth y lantern gorn allan. Collasom y ffordd, buom am oriau yn crwydro ar hyd y mynydd, a thua haner nos cawsom ein hunain yn