Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

5. EDWARD JONES FEL BLAENOR.

Ie, fel blaenor yr oedd rhagorion y "bychan cloff o'i glun" yn dyfod i'r golwg. Os yn gloff o'i glun, fyddai ef byth yn cloffi rhwng dau feddwl," pan y byddai achos yn galw am ryw waith yn ngwinllan yr Iesu o Nazareth. Yr amser yr ydwyf fi yn ysgrifenu am dano, tua saith mlynedd a deugain yn ol, un blaenor fyddai yn nghapel bychan Cefn Dwygraig. Capel bach oedd hwn ar dir y Gilrhos, ar y mynydd, heb na gwal na chlawdd oddiamgylch iddo. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1830. Dafydd Jones, Ty'n y Bryn, oedd yr hen flaenor; hen wr talgryf, patriarchaidd, a duwiol. Ond yr oedd yn rhaid cael ychwaneg o flaenoriaid. Ryw foreu Sadwrn pan yr oedd Edward Jones yn tori llwdwn dafad yn y stondin, daeth Dr. Parry ato gan ddweyd yn siriol, Edward, yr yden ni yn dwad acw i ddewis blaenoriaid nos Fawrth nesa." "Purion, siwr," ebai Edward," cofiwch ddwad a defnydd gyda chwi, Mr. Parry bach."

Gyda'r plant y byddai "y blaenor cloff" yn cael hwyl fawr. Yr oedd ganddo ryw ffordd neillduol i fyn ́d i'w calonau. Pan y byddai yn holi y plant yn y seiat, byddai y plant yn chwerthin ac yn wylo yr un pryd, a'r bobl hefyd gyda .nhw. Wrth son am Iesu Grist, o'r bron na wnai i'r plant gredu fod yr Iesu yn eistedd yn eu canol nhw ar y fainc fach. Pan yn adrodd hanesyn. o'r Beibl wrth y plant, arferai ymadroddion syml, a rhoddai fywyd yn y stori nes gadael argraff fythol ar eu meddyliau. Pan fu farw yr hen esgob o'r Ty'n y Bryn,. llithrodd Edward Jones yn naturiol i'r swydd o ben blaenor. Byddai yn werth myned o sir Fon i Gefn Dwygraig i'w glywed yn cadw seiat. Yr oedd yn fwy tebyg i deulu yn eistedd wrth y tân mawn yn nghegin y ffermdy, nac i gyfarfod eglwysig mewn capel, Pa le mae yr hen seiadau hyny yn awr, ddarllenydd tirion?[1]

  1. * Ar ol i'r ysgrif hon ymddangos ysgrifenodd un hen Gristion ataf y geiriau canlynol: "O, y mae digon i'w cael ar hyd a lled Cymru." Wel diolch am hyny.