6. EI SASIWN OLAF.
Wel, rhaid i mi yn awr adael llanerch hoff fy mebyd. Mae llawer blwyddyn er pan y bu'm yno, ac y mae yn fwy na thebyg na chaf byth eto weld y lle, os na. chaf o ben un o fryniau Caersalem, lle y ceir gweled holl daith yr anialwch i gyd." Ond cefais lythyr caredig oddiwrth fy hoff gyfaill Gwrtheyrn yr wythnos ddiweddaf, a dywed,"Os dowch chi i'r Bala, mi ofalaf fi y bydd digon o ddwylaw parod i fyn'd a chwi at y Roe Wen, i chwi gael golwg ar y ddwy Aran eto, ac awn a chwi i ben Mynydd yr Olewydd,' sef Ffridd Vachddeiliog." Diolch i ti, Gwrtheyrn, mi ddof os gwnei di ofyn i'r Hwn a ddwedodd wrth y cloff ar lan llyn Bethesda,—"Cyfod, cymer dy wely i fyny, a rhodia," fy mendio inau. Wel, Sasiwn olaf Edward
Jones oedd Sasiwn 1871. Dyna y Sasiwn y dadorchuddiwyd colofn Charles o'r Bala, a hefyd yr wythnos y cyflwynwyd y dysteb ardderchog i'r Doctor Lewis Edwards. Yr oedd tyrfa anferthol ar Green y Bala yn gwrando ar y Parch. Dr. Thomas a'i gyfaill yn pregethu foreu y diwrnod mawr. Yr oeddwn i a chyfaill o Fangor yn dyfod o'r Green. Gwelsom hen wr ar gefn mul yn dyfod yn nghanol y dyrfa.. Gwenai llaweroedd wrth wel'd yr olygfa ddigrifol. Pan. wrth adwy y Green daeth haner dwsin o ddynion o amgylch yr hen wr a'r mul. Dyma eu henwau Owen Thomas, pregethwr mawr y Sasiwn, yn mraich William Williams, Abertawe. Yn nesaf gwelem David Charles Davies, yn mraich Thomas Charles Edwards (y prif athraw yn awr); ar ol y rhai hyn daeth Llewelyn Edwards ym mraich David Charles (Dr. Charles) ei ewyrth. Gwelwn hefyd John Hughes. (Dr. Hughes), John Pritchard, Amlwch; a Hugh Jones, Lerpwl. Toc dyma Daniel Rowlands (y Parch. Daniel Rowlands, M.A., Bangor) yn mraich Lewis Edwards (Dr. Edwards), yn dyfod o hyd i'r hen wr a'r