pa un ai fy araeth i tybed ai ynte eisieu clywed y cyhoeddi a darodd yr hoel ar ei phen, ac a ddysgodd fanners i'r bobl?
Meinciau oedd ar lawr y capel oddigerth rhyw dair rhes o seti oddiamgylch y muriau, ac ychydig o seddau y dosbarth blaenaf y naill ochr i'r set fawr. Mynych gyrchai prif enwogion y Corph i bregethu yn y Bala, ac nid oedd brin wythnos yn myned heibio heb i ryw "wr diarth o'r Deheudir" fod yn pregethu ganol yr wythnos. Tyrai y bobl o'r ardaloedd cylchynol nes byddai yr hen gapel "dan ei sang." Ambell dro gwelais droi y Sabboth yn rhyw fath o Sasiwn bach, yn enwedig pan y byddai Henry Rees neu John Jones Talysarn yn pregethu. Byddai y capel yn llawer rhy fychan i gynal y bobl, ac felly yr oedd yn rhaid agor y ffenestr oedd yn ymyl y pwlpud, ac i'r pregethwr sefyll ar waelod y ffenestr. Byddai canoedd o bobl ar y lawnt fawr o flaen y capel, ac yr oedd llais mawr John Jones yn cyraedd i gyrau pellaf y dorf. Pan y byddai tipyn o awel, byddai dalenau yr hen Feibl yn chwifio fel gwyntyll. Fe ddywedir, wn i ddim am wirionedd y chwedl, mai ar un o'r troion hyn y cymerodd tro lled ysmala le. Dywedir fod gwr enwog o'r Deheudir yn pregethu yn y ffenestr, gyda thipyn o hwyl a thipyn o "awel" gyda'r hwyl, a bod ei nodion ysgrifenedig oedd rhwng dalenau y Beibl wedi myn'd ar goll. Yr oedd y pregethwr wedi gorphen traethu ar y pen cyntaf a'r ail, aeth i chwilio am ei "nodion;" ac meddai yn drydedd," ac wedi hyny, pysychu—" ac yn drydedd" wed'yn—pysychu eto, ac edrychai yn lled gynhyrfus. Ar hyn gwaeddai hen wr ffraeth o Lwyneinion—" Mae'ch 'yn drydedd' chi wedi myn'd efo'r gwynt." Bu agos ir pregethwr hefyd fyn'd "gyda'r gwynt." Ond daeth "awel" wedi hyny a "chodwyd yr hwyl," a gobeithiwn fod aml un oedd yn yr odfa wedi cael "awel o Galfaria fryn."
Swydd bwysig hefyd yn nghapel y Bala oedd casglu," a bu yr un rhai wrthi am flynyddau. Y rhai