Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hyd o fewn tua deugain mlynedd, cynhelid y sasiwn yn y Bala bob blwyddyn—sasiwn y Bala fyddai sasiwn fawr y Gogledd, a sasiwn Llangeitho oedd sasiwn fawr y Deheudir. Fe ddywedir na ddisgynodd cawod o wlaw wythnos y sasiwn am ddeugain mlynedd yn olynol. Gan mai yn nghanol Mehefin y cynhelid yr ŵyl, yr oedd tuag adeg dechreu ar y cynhauaf gwair. Digwyddodd un flwyddyn fod yn wanwyn a dechreu haf hynod o wlyb, fel ag yr oedd y gwair, yn enwedig yn ngweirgloddiau toreithiog y Rhiwlas, yn hen barod i'r bladur, ond yr oedd ar y pen gwas ofn dechreu wrth wel'd y tywydd mor wlyb. Aeth at ei feistr, yr "hen Breis, a dywedodd ei gŵyn,—"Mae hi yn amser dechre ar y gwair, mistar; ond mae arna i ofn mai difetha wneiff o wedi ei dori ar dywydd fel hwn." "Cerwch at Lewis Edwards," meddai yr hen foneddwr,"a gofynwch iddo fo pryd mae sasiwn Methodus yn dechre." Atebai John,—" Mae'r sasiwn yn dechre yr wythnos nesa, syr." Very well, techrwch chithe ar gwair John, gweles i rioed moni glawio sasiwn Methodus.' Yr oedd gan yr hen Breis feddwl mawr o Lewis Edwards, a sasiwn Methodus, a byddai yn ddiwrnod gŵyl bob amser y diwrnod hwnw.

Fel hyn yr ysgrifena un o blant y Bala i gylchgrawn tri misol,—"Tua deugain mlynedd yn ol yr oedd y sasiwn flynyddol wedi myn'd yn dreth drom ar drigolion y dref. Yr oedd wedi myn'd yn fwy tebyg i ffair G'la mai nag i ŵyl grefyddol. Byddai prif heol y dref, o ben bwy gilydd wedi ei llenwi â stondins fferins a fire aways cnau. Byddaf yn meddwl yn aml am y swn a'r dwndwr y diwrnod cyn y sasiwn, pan fyddai merchants India roc a chnau yn dyfod i'r dref. Tynid eu "masnach droliau," nid gan feirch na mulod, ond gan gwn mawr a ffyrnig, a byddai eu nadau i'w clywed filldiroedd cyn iddynt gyrhaedd y dref. Byddai yr holl dafarnau yn llawnion, a llawer o yfed. Yr oedd pob ty yn agored, a rhyddid i bawb fyned i mewn i fwyta yr hyn a fynent. Yr oedd y tai yn llawn o bregethwyr a