Nid anghofir byth un nos Sabboth yn y Bala yn nghanol y Diwygiad. Pregethai Dr. Edwards y bregeth hynod hono,—" Y Diwrnod Mawr." Cymerai ei destyn yn Josuah,—"O haul, aros yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Ajalon." Disgleiriai wyneb yr hybarch ddoctor fel gwyneb angel, ei lygaid fel mellten, a'i lais fel taran. Torodd yn orfoledd mawr, syrthiodd amryw i lewyg wedi eu gorchfygu gan eu teimladau.
Y dydd Llun canlynol yr oedd Cyfarfod Misol yn Nolgellau, a chefais yr anrhydedd a'r fraint o gyddeithio â'r Doctor yn un o gerbydau Rice Edwards. Cyn cyrhaedd tafarn Hywel Dda, haner y ffordd i Ddolgellau, torodd y cerbyd; a bu raid aros yn y gwesty hwnw am gryn amser i dd'od a phethau i drefn. Ond cyrhaeddwyd pen y daith o'r diwedd yn ddiogel. Pregethodd y Doctor bregeth y "Diwrnod Mawr" y noson hono, ac y mae yn ddiameu genyf nad anghofia pobl dda Dolgellau y cyfarfod hwnw tra byddant byw. Y mae llawer o ddynion sydd yn awr yn llanw pwlpud y Methodistiaid a'r Annibynwyr gyda dylanwad a nerth, yn blant diwygiad mawr y Bala a'r amgylchoedd.
IX. Y SEIAT.
Noson bwysig yn y Bala fyddai nos Fercher—dyna noson y seiat yn y Capel Mawr. Yr oedd yn rhaid i bob peth gilio o'r ffordd. Os oedd gwaith i'w wneyd, yr oedd yn rhaid ei adael i fyn'd i'r seiat. Byddai rhai yn cau drysau eu siopau am awr a hanner er mwyn i'r holl deulu gael myn'd i'r seiat. Gadawai y crydd esgid ar haner ei gwadnu, a'r teiliwr gôt heb orphen rhoddi bytymau arni. Gadawent hwythau y myfyrwyr eu Lladin a'u Groeg a'u Halgebra i fyn'd i'r seiat am awr a haner. Cynhelid y seiat mewn congl o'r Capel Mawr, yn y pen dwyreiniol. Wn i ddim paham y pen hwnw mwy na'r pen arall, os nad oedd y tadau o'r un farn a'r Eglwyswyr—mai yn y pen