Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dda pa le y dylai fod,—sef yn Amgueddfa Genedlaethol cenedl y Cymry,―pe b'ai y fath le a hyny yn bod, ac y mae yn gywilydd i ni nad oes. Rhaid i mi adael Mr. Saunderson yn y fan yma, gŵr hynaws a hoff oedd yr hen argraphydd—dyn bychan o gorpholaeth a boneddigaidd yr olwg arno. Mae ef a'i briod a llawer o'r teulu yn gorwedd yn Llanecil, heb fod yn mhell oddiwrth feddrod Charles o'r Bala.

XI. MASNACH Y BALA.

Nid yn aml y sonir am y Bala fel tref hynod am ei masnach. Mae enw yr hen "brifddinas" yn fwy adnabyddus trwy'r byd—fel Jerusalem a Meca—yn ei chysylltiad â chrefydd. Ond nis gall pobl y Bala mwy na rhyw bobl ereill fyw ar grefydd yn unig, mwy nag a fedrant ar fara. Rhaid iddynt hwythau "wylio a gweddio fel nad elont i brofedigaeth."

Prif fasnach y Bala ddeugain mlynedd yn ol oedd hosanau (sanau nid "Hosana.") Mae son trwy y gwledydd am sanau y Bala. Byddai sanau meinion a siapus y Bala yn cael gwerthiant buan yn mhrif farchnadoedd Lloegr. Byddai holl ferched yr ardaloedd yn gweu yn ddygn hir nosweithiau y gauaf, ac yn wir bob cyfle arall a gaent. Mynych y gwelid y gwragedd a'r merched ieuainc yn dyfod i'r marchnadoedd a'r ffeiriau dan weu sanau, ac yn wir byddent wrthi yn brysur ar y ffordd i'r cyfarfod gweddi a'r seiat ar noson waith. Prif faelfa sanau yr amser yr ydwyf fi yn gofio oedd Tan'rhol, cartref y boneddwr caredig a haelionus Dr. Roger Hughes, U.H. Gwerthodd Mr. Hughes, Tan'rhol, ugeiniau o filoedd o sanau i fyn'd i drefydd Lloegr. Rhan bwysig o fasnach y Bala hefyd oedd gwlaneni, nid "gwlanen gartref" yn unig, ond byddai y gwlaneni meinaf yn cael eu gwneyd ; ac nid ydyw ar un cyfrif yn anhebyg na wisgwyd gwlanen y Bala gan benau coronog Prydain a gwledydd ereill. Y mae cymaint o fân aberoedd a ffrydiau yn rhedeg o'r mynyddoedd a'r bryniau