Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Darius, Daniel, a'r llewod yn cyd—chwareu y dydd canlynol wrth Lyn Tegid. Rhyw ddull fel yna oedd gan Mr. David Evans, blaenor Seiat Bach y Bala, i argraphu hanesyddiaeth y Beibl ar feddyliau yr oes oedd yn codi.

Dyma ystori a gefais ychydig amser yn ol oddiwrth hen gyfaill o'r Rhyl, ond genedigol o'r Bala. Mae canoedd o bobl yn sir Feirionydd yn cofio yn dda am Mr. David Evans, Postfeistr y Bala, mab—yn—nghyfraith i'r Parch. Michael Jones y cyntaf, a brawd—yn—nghyfraith i'r Prif—athraw Michael Jones yr ail. Yr oedd Mr. Evans yn gadwr seiat plant heb ei fath, ac elai i gapelau y cymydogaethau ambell dro i gadw "Seiat Bach." Un tro pan yn cyfeirio ei gamrau yn nghyfeiriad Llwyneinion, cyfarfu ag ef foneddiges ffraeth, gwraig Mr. Simon Jones. "I ble 'rydech chi yn myn'd, Mr. Evans bach? gofynai Mrs. Jones. "I gadw Seiat Bach i Llwyneinion," atebai yntau. "Pwy sydd ganddoch chwi yn. edrych ar ol y siop a'r busnes, Mr. Evans?" gofynai Mrs. Jones. "O," meddai'r cadwr seiat diail,"yr ydw i wedi gadael y siop a phobpeth i ofal Iesu Grist." "Ydech chwi ddim yn meddwl, Mr. Evans," ebai'r foneddiges,"y byddai yn llawer gwell i chwi adael i Iesu Grist fyn'di Lwyneinion i gadw seiat, ac i chwithau aros gartref i edrych ar ol y siop?" Ond mi edrychodd Iesu Grist ar ol y siop, ac fe gafodd David Evans hwyl neillduol yn Seiat Bach Llwyneinion. Heddwch i'w lwch a bydded ei goffadwriaeth yn fendigedig.

XIV. IOAN DYFRDWY.

Nid ydyw y Bala wedi enwogi ei hunan yn neillduol gyda'i beirdd. Rhaid rhoddi y llawryf i Ddolgellau yn y cyfeiriad yna.[1] Fe gododd llawer o feirdd gwychion yn yr ardaloedd, rhai sydd wedi

  1. Ar ol i'r sylwadau hyn ymddangos yn CYMRU buom o dan driniaeth chwerw gan amryw feirdd am anghofio Tegidon a Gomer ab Tegid. Gwneuthym ymddiheurad llawn a maddeuwyd fy mhechodau.