Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddynodi man fechan ei feddrod—ac arni yn gerfiedig y beddargraph canlynol gan Fardd Dochan,

Diau hynotach daw Ioan eto
Yn wr heb anaf o hen âr Beuno;
Yn derydd esgyn, wedi ei harddwisgo
A mawredd Salem, i urddas eilio
Cerdd i'w Frawd nol cyrraedd y fro—uwch angen
A'i bêr ddawn addien heb arwydd heneiddio."

Yr unig farddoniaeth gyhoeddedig ag yr wyf fi wedi d'od ar ei draws, o eiddo Ioan Dyfrdwy, ydyw llyfryn bychan o'r enw "Briallu Dyfrdwy. Argraphwyd gan Griffith Jones, y Bala, 1852. Pris tair ceiniog."

XV. YR HEN GYMERIADAU.

Yn mhob gwlad y megir glew; ac felly hefyd yn mhob ardal, llan, a thref, y megir cymeriadau y perthyn iddynt eu neillduolion gwahanol i'w cymydogion. Nid ydyw y Bala yn wahanol yn hyn o beth i drefydd ereill, ac y mae yn naturiol i un o'i phlant feddwl nad oes yr un man arall dan haul yn rhagori mewn unrhyw nodwedd. Yr oeddwn wedi meddwl wrth ddechreu ar fy adgofion sylwi ar rai o hen gymeriadau y Bala yn lled helaeth. Ond wrth edrych dros y pedair penod ar ddeg a roddwyd eisoes o flaen y darllenydd, yr wyf yn gweled fy mod wedi cyffwrdd eisoes â'r prif gymeriadau, a byddai rhoddi penod i bob un ohonynt yn fwy nag a oddefa gofod i mi. Yr ydwyf wedi dwyn ger eich bron. nifer go fawr o gymeriadau a wnaethant eu rhan yn eu gwahanol gylchoedd tuag at enwogi tref y Bala. Dyna Benjamin Griffiths, Rolant Pritchard, y ddau Evan Owen, Robert Michael Roberts, Robert Jones y Gof, David Evans, Griffith Jones, a Jacob Jones, Edward Rolant, Margaret William ag ereill.

XVI. CANU YN IACH.

Y mae llawer o'm darllenwyr na fuont erioed yn y Bala, ac na sangodd eu traed ar y llanerch gysegredig