Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DDYFRDWY SANCTAIDD.

AR Domen y Bala y gadewais y darllenydd ddiweddaf yn syllu ar olygfeydd prydferth y fro, ac yn eu plith y "Ddyfrdwy Sanctaidd" yn ymddolenu yn nghyfeiriad Dyffryn Edeyrnion ar ei ffordd tua'r môr mawr llydan. Nis gallwn yn well na dilyn yr hen afon gysegredig trwy ddyffrynoedd Edeyrnion, Llangollen, a Maelor.

"Dwr dwy" fyddai plant y Bala yn ddyweyd fyddai ystyr enw yr hen afon, sef afonydd y Treweryn a'r Ddyfrdwy yn nghyd. Ond dywed y Cymro gwladgarol a dysgedig Dr. John Rhys, yn ei nodion gwerthfawr yr argraphiad newydd o "Pennant's Tour in Wales," mai "Dwfr Duw" a feddylir, gan ddynodi y cysegredigrwydd gyda pha un yr edrychid ar yr afon gan ein hynafiaid.

Nid gwir chwaith yr hen dyb fod y Ddyfrdwy yn rhedeg trwy Lyn Tegid heb gymysgu â'r dwfr hwnw. Y mae llawer o aberoedd yn rhedeg i'r Llyn, ond nid ydyw y Ddyfrdwy yn dechreu a bod hyd oni chychwyna wrth Bont Mwnwgl y Llyn,[1] ar ba bont y safai y diweddar fardd llawryfol Tennyson, pan ddaeth drychfeddwl ardderchog iddo pan yn cyfansoddi rhan o un o'i orchestweithiau.

Ond rhaid cychwyn i'r daith, a chymeryd camau brasach nag a wna y "Gentle Deva" er mwyn cyrhaedd Corwen cyn i'r haul fyn'd i lawr. Wrth sefyll ar Bont y Bala gwelwn ar y llaw aswy y Rhiwlas, hen gartref y Preisiaid, disgynyddion William Pryce, yr hwn foneddwr oedd yn aelod Seneddol dros Feirion yn amser y Senedd Hir yn nheyrnasiad Siarl y Cyntaf.

Rhyfedd fel y mae pethau wedi newid, onite; heddyw nid yswain y Rhiwlas sydd yn cynrychioli Meirionydd yn Senedd Prydain Fawr, ond mab i un

  1. Cywira Mr. Owen M. Edwards fi mewn rhifyn o CYMRU, a dywed fod tarddiad y Ddyfrdwy yn Garneddwen rhwng y Bala a Dolgellau, a rhaid i mi ymostwng iddo ef.