O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol XV, Rhif 89, 15 Rhagfyr 1898, tudalen 252—255
Adgofion am Goleufryn.
NID wyf yn honni ond un cymhwysder i ysgrifennu y nodiadau hyn am Goleufryn, sef fy mod wedi fy magu mewn dwy ergyd carreg iddo, ac wedi bod lawer yn ei gymdeithas am y deng mlynedd a'r hugain cyntaf o'i oes.
Ganwyd ef yn Ty Isaf, yn ymyl eglwys blwyfol Llanfrothen, ym Mai, 1840. Enw ei dad oedd Richard Jones, gwr o alluoedd naturiol cryfion, ond a fu farw pan nad oedd ei unig fachgen ond chwech wythnos oed. Efe fyddai yn dechreu y canu yn Siloam. Yr oedd ei fam, Ann Jones, yn chwaer i Robin Tecwyn Meirion, bardd tlws a phur adnabyddus yn ei amser. Gwelir felly ei fod yn hannu o deulu athrylithgar o'r ddwy ochr.
Yn lled fuan wedi marwolaeth ei phriod, aeth ei fam i gadw ty'r capel, Tanygrisiau, Ffestiniog, gan adael ei bachgen bychan i ofal ei ewythr, brawd ei dad, John Williams, Bryngoleu, blaenor o radd dda a phur adnabyddus yng ngorllewin Meirionnydd. Ymhen tua chwe blynedd y mae ei fam yn ymfudo i'r America gyda'i dwy eneth fechan, hŷn nag ef, ac yn ei adael ef yng ngofal ei ewythr. Diau y gwyddai ei fam yn dda y cawsai pob chwareu teg gan ei ewythr a'i nain, Sian Jones, coffa da am dani,—cyn y buasai yn meddwl ei adael ar ol; ac felly yn sicr y bu. Cafodd gartref rhagorol gan Sion Wiliam a Sian Jones, ac y mae yn bur sicr na fuasai yn dod i'r safle y daeth oni bai am ddylanwad ei gartref. Cafodd ddigon o bethau y byd hwn heb fawr o'i foethau; ond cafodd beth gwell, cafodd esiampl ac addysg grefyddol ragorol. Yr oedd ganddo feddwl uchel iawn o'i ewythr ar hyd ei oes, ac anaml y bu neb yn fwy hoff o'i dad nag ydoedd ef o'i ewythr; a darfu iddo ymddwyn yn anrhydeddus ato wedi iddo fyned i henaint a llesgedd.
Saer coed oedd ei ewythr, a dysgodd yntau yr un alwedigaeth, a chydag ef y bu nes yr oedd tuag ugain oed. Ond clywais ef yn dweyd na roddodd ei fryd ar ddysgu y gwaith, ac na feddyliodd am ddilyn y gwaith ar hyd ei oes. Modd bynnag, bu yn dilyn y gwaith yma nes yr oedd yn bump ar hugain oed, ac yr wyf yn gwybod am lawer o ddodrefn o'i waith mewn gwahanol fannau yn yr ardal. Tua'r flwyddyn 1861 aeth i Borthmadog i weithio at Meistri J. H. Williams a'i feibion, a bu yno am rai blynyddau. Yma y dechreuodd ei duedd lenyddol ymddadblygu. Yr oedd wedi darllen pob llyfr y caffai afael arno cyn gadael cartref. Darllennai yn ddidor bob hamdden a gaffai, a pharhaodd felly ar hyd ei oes. Anaml y gwelid ef yn bwyta pryd o fwyd heb lyfr yn ei law. Tra yn aros ym Mhorthmadog cyfansoddodd amryw draethodau, a byddai yn fuddugol bron bob amser. Un o honynt oedd ar "Ffeiriau Cymru," yr hwn a ymddanghosodd yn ben- odau yn yr Herald Cymraeg. Cyhoeldwyd traethawd arall iddo, nad wyf yn cofio y testyn, yn y Cylchgrawn, cyhoeddiad misol yn dod allan yn y Dehau, o dan olygiad Edward Mathews. Clywais ei fod ef a phregethwr arall, sydd yn fyw, yn gyd-ymgeiswyr ar draethawd ym Mhorthmadog, ac mai John Owen Ty'n Llwyn oedd y beirniad. Cydmarai Mr. Owen y ddau. ymgeisydd, neu y ddau gyfansoddiad, i ddwy long yn dod i mewn i'r porthladd, un yn llestr prydferth anghyffredin, ac yn ei llawn hwyliau, a'r llall yn rhyw smack pur ddiolwg, ond fod llwyth yr olaf bron mor werthfawr a'r cyntaf. Prin y mae eisieu dweyd pa un o'r ddau oedd Goleufryn. Onid oedd tlysni yn un o nodweddion amlycaf ei feddwl? Yr oedd yn llenor gwych a phur adnabyddus cyn dechreu pregethu, ac yn fwy enwog fel llenor nag fel pregethwr am y rhan gyntaf o'i fywyd cyhoeddus, os nad felly ar hyd ei oes.
Ym Mhorthmadog y dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1865. Nis gwn paham y bu iddo ddechreu ym Mhorthmadog yn hytrach nag yn Llanfrothen. Mae yn wir mai yn y lle cyntaf y trigiannai yn awr ers ysbaid, ond byddai yn dyfod adref yn lled aml i dreulio y Sabboth gyda'i ewythr, a gallasai gael dechreu yn Llanfrothen mor rwydded ag yn y Porth. Modd bynnag, ym Mhorthmadog y dechreuodd, ac aelod o Gyfarfod Misol Lleyn ac Eifionnydd fu nes y symudodd i Lanrwst. Ond bu ei gyfeillion yn Llanfrothen yn bur garedig wrtho. Rhoddasant anrheg o yn agos i ddeg punt iddo, pan oedd yn y Bala. Mae hanes yr anrheg yma i'w weled yn y Drysorfa am Tachwedd, 1868, a themtir fi i'w roddi i mewn yma. Dyma'r hanes,
"SILOAM, LLANFROTHEN,—ANRHEG I BREGETHWR IEUANC."
"Yng nghanol ein trafferth gydag adeiladu addoldai prydferth, y fugeiliaeth, a phethau da ereill, mae yn berygl i ni ollwng dros gof ein dynion ieuainc sydd wedi ymaflyd yn y weinidogaeth, a pheidio darparu ar eu cyfer pan yn ymdrechu cyrraedd gwybodaeth ac addysg trwy lawer o anfanteision. Yr ydym yn credu y dylai eglwysi ein gwlad gymeryd mwy o sylw o hyn. Mae yn ddiamen fod llawer o fechgyn ieuainc talentog wedi dioddef llawer o dlodi tra yn yr athrofa, ac wedi gorfod pryderu