Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

JOHN ELIAS YN EI FYFYRGELL.

Y MAE yn ddifyrus iawn i ddyn gael rhodio ar geulan afon Conwy, gan gychwyn wrth y Gyffin, a dilyn yn mlaen yn raddol ar i fyny, nes dyfod heibio i Hafod y Rhodwydd, hyd at ei tharddiad bychan cyntaf, i sylwi ar ei byrlymiad gloew o'i ffynnonell ddechreuol yn Meirionydd! Dechreua y teithiwr ymbleseru wrth weled yr afon yn ei nerth, ac â grym ei llifeiriant yn ysgubo ymaith bob peth o'i blaen wrth ymarllwys i'r môr. Tra y symmuda yn mlaen, sylla arni yn culhau o fesur ychydig ac ychydig wrth basio yr afonydd a'r ́ ffrydiau sydd yn ei chwyddo, gan redeg iddi drwy eu rhigolydd ar bob ochr o'r dyffryn. Tremia arni yn ddifyrus gyda nyfyrdod swynol wrth fyned heibio i'r rhaiadr mawr yn Llanbedr, a'r rhaiadr bach ger Dolgarog. A rhagddo yn mlaen, a thros bontydd y Llugwy a'r Lledoer, nes dringo i fyny gydag ael y bryn, a chydag ochr Llyn-cynwy, nes dyfod at y llecyn llaith hwnw lle yr ymwthia ei phistylliad cyntaf o fynwes y clogwyn i oleu dydd. Yno, eistedda i lawr, a dechreua holi wrtho ei hun mewn syndod,—"Wel, mewn gwirionedd, ai dyma ddechreuad y rhaiadrau mawrion sydd yn trystio ac yn adsain yr holl nentydd y daethym drwyddynt? Ai dyma darddiad blaenaf yr afon eang sydd yn ddigon nerthol i gynnal y llongau i nofio mor esmwyth a'r pluf ar ei gwyneb, yn y gwaelod tua Thal y Bont, a Thal y Cafn, a Thyddyn Cynwal? Ië, ïe, digon gwir—dyma y cychwyniad cyntaf oll! Felly y teimla dyn, pan yr adgofia ddoniau dylanwadol ac anghymharol Elias. Efe a lwybra gydag ymylon afon fawr nerthol ei weinidogaeth yn y gymmanfa ar y maes agored, ac a rodia yn mlaen hyd y geulan heibio i raiadrau o bregethau grymus yn y cyfarfod misol; ä rhagddo drachefn gydag ochr ffrydiau nerthol y Beibl Gymdeithas a'r Genadaeth, nes o'r diwedd ddyfod o hyd iddo yn ei fyfyrgell fechan, yn parotoi at ei lafur cyhoeddus, yn yr amrywiol gylchau y bu yn troi ynddynt ac y gelwid